Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb. |
|
Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 19 KB Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-
“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” Cofnodion: PENDERFYNWYD mabwysiadu’r isod:-
“ O dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gyrru’r wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem â ganlyn oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn ôl y diffiniad ym Mharagraff 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”
|
|
Ail-strwythuro Uwch Reolwyr Derbyn adroddiad llafar mewn perthynas â’r uchod. Cofnodion: Adroddodd y Pennaeth Proffesiwn Adnoddau Dynol a Thrawsnewid fod y trafodaethau gyda staff perthnasol ynglŷn ag ailstrwythurol Uwch Reolwyr bellach wedi’u cwblhau, ac y bydd y strwythur newydd yn cael ei weithredu o ddyddiad y cyfarfod hwn.
PENDERFYNWYD gweithredu’r strwythur Uwch Reolwyr newydd o’r 1af o Orffennaf, 2019. |
|
Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 19 KB Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-
“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”
Cofnodion: PENDERFYNWYD mabwysiadu’r isod:-
“ O dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gyrru’r wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem â ganlyn oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn ôl y diffiniad ym Mharagraff 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”
|
|
Apwyntio Staff Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc
Ystyried y ceisiadau ar gyfer y swydd uchod.
Mae copȉau o’r Disgrifiad Swydd, y Manylion Personol a ffurflenni cais ynghlwm. Cofnodion: Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc
Roedd dau ymgeisydd wedi cael eu rhoi ymlaen am gyfweliad yn dilyn adborth o’r broses benodi.
Yn dilyn y cyfweliad PENDERFYNWYD penodi Mr Rhys H Hughes i’r swydd uchod o ddyddiad i’w gytuno. |
|
Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 19 KB Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-
“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”
Cofnodion: PENDERFYNWYD mabwysiadu’r isod:-
“O dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gyrru’r wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem â ganlyn oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn ôl y diffiniad ym Mharagraff 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”
|
|
Ystyriaeth o unrhyw Swyddi pellach i'w hysbysu Cyflwyno adroddiad llafar mewn perthynas a’r uchod. Cofnodion: Adroddodd y Cadeirydd fod y Prif Weithredwr wedi cyflwyno ei fwriad i ymddeol o’i swydd ym mis Hydref. PENDERFYNWYD awdurdodi’r Swyddogion perthnasol i hysbysebu swydd y Prif Weithredwr.
|