Rhaglen a chofnodion

Special, Pwyllgor Penodiadau - Dydd Mawrth, 27ain Ionawr, 2015 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 20 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 2 Rhagfyr, 2014.

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr 2014.

3.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 62 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynglwm.”

Cofnodion:

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r isod:-

 

Dan Adran 100 (A)(4) Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gyrru’r wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Paragraff 12 y Ddeddf eithriad ohoni fel y diffinnir y wybodaeth yn y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm".

4.

Penodi Prif Weithredwr ac Ail-Strwythuro'r Uwch Dim Arweinyddiaeth

I ystyried penderfyniadau’r Cyngor Sir a gafwyd ar 20 Ionawr, 2014.  

Cofnodion:

 

 

 Amlinellodd y Prif Weithredwr argymhellion y Cyngor Sir llawn a gynhaliwyd ar 20 Ionawr, 2015:

 

• Mai Opsiwn 4 yn yr adroddiad yw’r opsiwn a ffefrir;

 

Bwrw ymlaen i benodi Prif Weithredwr newydd i’r Cyngor fel blaenoriaeth;

 

Dynodi swydd y Prif Weithredwr yn Bennaeth y Gwasanaeth Taledig ac yn Swyddog Canlyniadau i’r Cyngor;

 

Dirprwyo cyfrifoldeb i’r Pwyllgor Penodi hysbysebu, asesu ymgeiswyr, llunio rhestr fer, cyfweld ymgeiswyr ac argymell unigolyn cymwys a benodir gan y Cyngor llawn;

 

Dirprwyo hawl i’r Pwyllgor Penodi dderbyn cymorth ymgynghorol allanol, os yw’n dymuno, i roi cyngor ar y broses asesu ond gan gadw costau darpariaeth o’r fath cyn ised â phosib;

 

·  Gofyn am arweiniad a sylwadau gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ynglŷn â’r strwythur cyflog ar gyfer swydd y Prif Weithredwr;

 

• Bod swyddi statudol y Swyddog Cyllid Adran 151 a’r Swyddog Monitro yn cael eu hymgorffori o fewn yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth.

 

Trafododd aelodau’r Pwyllgor argymhellion y Cyngor llawn yn fanwl. Rhoes yr Aelodau sylw dyledus i strwythur cyflogau’r 21 Awdurdod Lleol arall yng Nghymru. Cafwyd trafodaeth ynghylch hysbysebu swydd y Prif Weithredwr, asesu’r ymgeiswyr a derbyn cyngor gan ymgynghorydd allanol.

 

Bu Aelodau’r Pwyllgor hefyd yn trafod ymhellach ganlyniadau cyflog y Dirprwy Brif Weithredwr mewn perthynas ag argymhellion y Pwyllgor Gwaith i ddarparu opsiynau ar gyfer ailstrwythuro’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth o ran arbedion effeithlonrwydd yn y pecyn o gynigion ar gyfer cyllideb 2015/16.

 

Yn dilyn trafodaeth faith, PENDERFYNWYD:-

 

Argymell i’r Cyngor Sir mai £115k i £120k fydd cyflog y Prif Weithredwr newydd;

• Y bydd cyflog y Dirprwy Brif Weithredwr yn 90% o gyflog y Prif Weithredwr, gyda gweithredu hynny yn ddarostyngedig i’r prosesau AD priodol.

Bydd disgrifiad swydd ar gyfer y Prif Weithredwr newydd yn cael ei gylchredeg i Aelodau’r Pwyllgor Penodi a dirprwyo’r awdurdod i Gadeirydd y Pwyllgor Penodi i awdurdodi’r disgrifiad swydd ar gyfer ei hysbysebu oni cheir unrhyw newidiadau gan yr Aelodau;

• Y bydd yr hysbyseb ar gyfer swydd y Prif Weithredwr yn cael ei rhoddi ar wefan y Cyngor ac y bydd datganiad i’r wasg yn cael ei gyhoeddi. Defnyddir y cyfryngau cymdeithasol hefyd i hysbysebu’r swydd;

Cytunwyd y bydd proses asesu’n rhan o’r broses recriwtio ac y bydd AD yn canfod cefnogaeth ymgynghorol ar gyfer asesu’r sawl sydd wedi ymgeisio am swydd y Prif Weithredwr newydd a dirprwyo awdurdod i’r Cadeirydd benodi ymgynghorydd allanol yn dilyn ymgynghori gyda Swyddogion.

 

 

5.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 53 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynglwm.”

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r isod:-

 

Dan Adran 100 (A)(4) Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gyrru’r wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Paragraff 12 y Ddeddf eithriad ohoni fel y diffinnir y wybodaeth yn y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm".

6.

Apwyntio Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor/Swyddog Monitro) mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro mewn perthynas â phenodi Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd. Dan Adran 8 Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, rhaid i’r Cyngor lenwi swydd statudol y ‘Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd’.

 

Disgrifiwyd swyddogaethau’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn y disgrifiad swydd a’r fanyleb person a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar ddynodiad gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, i benodi Pennaeth Dros Dro cyfredol y Gwasanaethau Democratiadd i swydd barhanol y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar y cyflog a nodir yn yr adroddiad.

 

EITEM YCHWANEGOL A ARDYSTIWYD GAN Y CADEIRYDD FEL EITEM FRYS (gyda phenderfyniad y Cadeirydd yn cael ei gefnogi’n amlwg gan holl Aelodau’r Pwyllgor)

 

7. CAU ALLAN Y WASG A’R CYHOEDD

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r isod:-

 

Dan Adran 100 (A)(4) Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gyrru’r wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Paragraff 12 y Ddeddf eithriad ohoni fel y diffinnir y wybodaeth yn y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm".

 

8. PENNAETH GWASANAETH (TRAWSNEWID)

 

Nodwyd bod swydd y Pennaeth Gwasanaeth (Trawsnewid) yn parhau i fod yn wag a bod angen llenwi’r swydd.

 

PENDERFYNWYD hysbysebu swydd y Pennaeth Gwasanaeth (Trawsnewid) a bod y Gymraeg yn angenrheidiol ar ei chyfer.