Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Penodiadau - Dydd Llun, 9fed Mawrth, 2015 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

2.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 18 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i ddiffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynglwm.”

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol :-

 

“Dan Adran 100(A)(4) Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gyrrwyd y wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwna Paragraph 12A y Ddeddf eithriad ohoni fel y diffinnir y wybodaeth yn y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

3.

Penodiad Staff

Prif Weithredwr

 

Ystyried ceisiadau a dderbyniwyd ar gyfer y swydd uchod a thynnu rhestr fer o ymgeiswyr.

 

Mae copiau o’r Disgrifiad Swydd, y Manylion Personol a’r ffurflenni cais ynghlwm.

 

Cofnodion:

Prif Weithredwr

 

Derbyniwyd 3 o geisiadau ar gyfer y swydd uchod.

 

PENDERFYNWYD :-

 

·           Bod y 3 ymgeiswyr yn mynd ymlaen i gam nesaf y broses benodi.

 

·           Cytunwyd y bydd yr ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael eu hasesu trwy broses a reolir gan AD gan ddefnyddio cymorth allanol.  Bydd yr ymgeiswyr hynny sy’n llwyddiannus yn y cam asesu yn mynd yn eu blaenau i gael eu cyfweld yn derbynol gan y panel penodi.