Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb. |
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfodydd canlynol :-
27 Chwefror, 2015 9 Mawrth, 2015 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfodydd canlynol :-
• 27 Chwefror, 2015 • 9 Mawrth, 2015
|
|
Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 19 KB Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-
“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” Cofnodion:
PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol :-
“Dan Adran 100 (A)(4) Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gyrrwyd y wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf eithriad ohoni fel y diffinnir y wybodaeth yn y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” |
|
Apwyntio Staff Pennaeth Trawsnewid Corfforaethol
Ystyried y ceisiadau ar gyfer swydd y Pennaeth Trawsnewid.
Cofnodion:
Pennaeth Trawsnewid Corfforaethol
Derbyniodd y Pwyllgor atborth gan Hay Group a’r Panel Cyfweld cyntaf. Yn dilyn rhoi sylw dyledus i argymhellion Hay a sgorio’r Panel Cyfweld, penderfynwyd gweld yr ymgeisydd a oedd yn cael ei argymell.
Rhoddodd yr ymgeisydd gyflwyniad, ac atebodd gwestiynau ar y cyflwyniad ac yna atebodd gyfres o gwestiynau gan holl Aelodau’r Pwyllgor.
Yn dilyn cyfweliad PENDERFYNWYD yn unfrydol i benodi Mr. Scott Anthony Rowley, yn amodol ar dderbyn llythyrau geirda, i’r swydd uchod o ddyddiad i’w gytuno. |