Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen. Cofnodion:
Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb. |
|
Cau allan y wasg a'r cyhoedd PDF 18 KB Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-
“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” Cofnodion:
PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol :-
“Dan Adran 100 (A)(4) Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gyrru’r wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni fel y diffinnir yn y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” |
|
Apwyntio Staff Prif Weithredwr
Ystyried y ceisiadau ar gyfer swydd y Prif Weithredwr. Cofnodion: Prif Weithredwr
Rhoddwyd 1 ymgeisydd ymlaen i’w gyfweld yn dilyn adborth o’r proses penodi. Rhoddodd yr ymgeisydd gyflwyniad ac atebodd gwestiynau ar y cyflwyniad ac wedyn atebodd gyfres o gwestiynau gan holl Aelodau’r Pwyllgor.
Yn dilyn cyfweliad PENDERFYNWYD argymell i’r Cyngor llawn bod Dr. Gwynne Jones yn cael ei benodi i’r swydd uchod o 1 Mehefin 2015. |