Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog yng nghyswllt unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.
|
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 24 Mawrth, 2015 27 Mawrth, 2015. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Mawrth 2015.
|
|
Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 62 KB I ystyried mabwysiadu’r canlynol :-
“Dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, i cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth eithriedig ei rhyddhau fel y diffinnir hi yn Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” Cofnodion: PENDERFYNWYD mabwysiadu’r isod:-
“Dan Adran 100 (A)(4) Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gyrru’r wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf eithriad ohoni fel y diffinnir y wybodaeth yn y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”
|
|
Adolygiad o'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth Cyflwyno adroddiad mewn perthynas â’r uchod. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Prif Weithredwr mewn perthynas â’r uchod. Dywedodd y Prif Weithredwr ei fod wedi cyflwyno adroddiad ar 15 Rhagfyr 2014 i’r Pwyllgor Gwaith, a hynny ar gais Arweinydd y Cyngor, yn rhoi nifer o opsiynau i'w hystyried ar gyfer ailstrwythuro’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn dilyn penderfyniad y Pwyllgor Gwaith i restru gostyngiad yng nghapasiti rheolaeth lefel uwch y Cyngor ymhlith yr arbedion effeithlonrwydd yn y pecyn cynigion ar gyfer cyllideb 2015/16. Nodwyd bod y Pwyllgor Gwaith wedi argymell Opsiwn 4 i’r Cyngor Sir fel yr opsiwn a oedd yn cael ei ffafrio ar gyfer cwrdd â’r amcanion ac fel un y byddai modd ei gyflawni, gyda golwg ar gomisiynu gwaith manylach i ddatblygu'r opsiwn ar gyfer ymgynghori gyda staff. Yn y cyfarfod o’r Cyngor llawn a gynhaliwyd ar 20 Ionawr 2015, penderfynwyd mai Opsiwn 4 oedd yr opsiwn a oedd yn cael ei ffafrio. Cynhaliwyd proses ymgynghori gyda staff trwy’r Adran Adnoddau Dynol rhwng 6 Chwefror a 20 Chwefror. Roedd crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghori wedi ei amlinellu yn yr adroddiad. Fel y Prif Weithredwr a oedd newydd gael ei benodi, ac a fydd yn cychwyn yn ei swydd ar 1 Mehefin 2015, estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Dr. Gwynne Jones annerch y pwyllgor mewn perthynas â'r argymhellion yn yr adroddiad ac i fynegi ei safbwynt ar ailstrwythuro’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth. Rhoddodd y Darpar Brif Weithredwr drosolwg o'r disgwyliadau corfforaethol y bydd angen rhoi sylw iddynt ynghyd â'r cynigion mewn perthynas â’r strwythur a ffefrir ar gyfer yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth i’r dyfodol. Yn dilyn trafodaethau PENDERFYNWYD argymell i’r Cyngor Sir llawn:-
· Datblygu strwythur yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn seiliedig ar ddwy swydd newydd , sef swyddi Prif Weithredwyr Cynorthwyol; · Dileu’r strwythur cyfredol, sef Dirprwy Brif Weithredwr a thri Chyfarwyddwr Corfforaethol unwaith y bydd y strwythur newydd yn ei le a’r penodiadau wedi eu gwneud; · Penodi Grŵp Hay i ddatblygu a gwerthuso disgrifiadau swyddi a manylebau person ar gyfer y ddwy swydd Prif Weithredwr Cynorthwyol, gan aseinio cyflog priodol ar gyfer y swyddi; · Awdurdodi’r Prif Weithredwr i ‘gymeradwyo’r’ disgrifiadau swydd a’r manylebau person terfynol, ynghyd â’r cyflog, gyda’r cyfyngiad y dylai’r cyflog fod rhwng £85,000 a £95,000 ac yn seiliedig ar gyngor allanol; · Bod y swyddi’n cael eu hysbysebu’n fewnol ac yn allanol ar yr un pryd, yn amodol ar gyngor cyfreithiol. · Bod yr elfennau statudol sy’n gysylltiedig gydag Addysg a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cael sylw unwaith y bydd y broses benodi wedi ei chwblhau.
|