Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ethol Cadeirydd Ethol Cadeirydd. Cofnodion:
Ail-etholwyd y Cynghorydd Ieuan Williams yn Gadeirydd y Pwyllgor Penodi. |
|
Ethol Is-Gadeirydd Ethol Is-Gadeirydd. Cofnodion:
Ail-etholwyd y Cynghorydd Bob Parry OBE yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Penodi. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ac unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion:
Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad. |
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 1 Mai, 2015. Cofnodion:
Cadarnhawydcofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Mai 2015. |
|
Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 62 KB Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-
“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” Cofnodion:
PENDERFYNWYD mabwysiadu’r hyn a ganlyn:-
“Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gyrrwyd y wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Paragraff 12 y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm eithriad ohoni.” |
|
Adolygu'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth Derbyn adroddiad llafar mewn perthynas â’r uchod.
Mae Disgrifiadau Swyddi a Manylion Person ynghlwm. Cofnodion:
Amlinellodd y Pennaeth Proffesiwn - Adnoddau Dynol y broses yng nghyswllt hysbysebu a phenodi i swyddi’r Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethu Corfforaethol a Thrawsnewid Mewnol) a’r Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaeth a Thrawsnewid Allanol) i’r Pwyllgor.
PENDERFYNWYD y byddai’r hysbysebion ar gyfer swyddi’r Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethu Corfforaethol a Thrawsnewid Mewnol) a’r Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaeth a Thrawsnewid Allanol) yn cael eu hysbysebu ar wefan y Cyngor ac y byddai datganiad i’r wasg yn cael ei gyhoeddi. |
|
Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 19 KB Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-
“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”
Cofnodion: PENDERFYNWYD mabwysiadu’r hyn a ganlyn:-
“Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gyrrwyd y wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Paragraff 12 y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm eithriad ohoni.” |
|
Apwyntio Staff Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151
Derbyn adroddiad llafar mewn perthynas â’r swydd uchod.
Cofnodion: Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151
Rhoddodd y Pennaeth Proffesiwn – Adnoddau Dynol adroddiad llafar ar y broses o benodi i’r swydd uchod.
PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad. |