Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion:
Dywedodd y Prif Weithredwr, ar ôl iddo dderbyn cyngor cyfreithiol, ei fod yn tynnu’n ôl o’r broses benodi ar gyfer swydd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Adran 151 yn unol â Pharagraff 5.2.11 y Cyfansoddiad. Gadawodd y Prif Weithredwr y cyfarfod wedi hyn. |
|
Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 19 KB Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-
“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” Cofnodion:
PENDERFYNWYD mabwysiadu’r hyn a ganlyn:-
“Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gyrrwyd y wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Paragraff 12 y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm eithriad ohoni.” |
|
Apwyntio Staff Pennaeth Swyddogaeth(Adnoddau)/Swyddog Adran 151 Ystyried ceisiadau a dderbyniwyd ar gyfer y swydd uchod a thynnu rhestr fer o ymgeiswyr. Mae copiau o’r Disgrifiad Swydd, y Manylion Personol a’r ffurflenni cais ynghlwm. (I DDILYN)
Cofnodion: Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151
Derbyniwyd tri chais ar gyfer y swydd uchod.
PENDERFYNWYD rhoi dau ymgeisydd ymlaen ar gyfer cam nesaf y broses benodi. |