Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Penodiadau - Dydd Iau, 16eg Gorffennaf, 2015 11.30 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

 

 Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 20 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfodydd a ganlyn :-

 

26 Mehefin, 2015

30 Mehefin, 2015

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

 Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfodydd a ganlyn:-

 

• 26 Mehefin, 2015

• 30 Mehefin, 2015

 

3.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 19 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wag a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynglwm.”

Cofnodion:

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol:-

 

“ Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gyrrwyd y wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf eithriad ohoni fel y diffinnir y wybodaeth yn y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

4.

Apwyntio Staff

Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog 151

 

Ystyried y ceisiadau ar gyfer y swydd uchod.

 

Mae copiau o’r ffurflenni cais, disgrifiad swydd a manylion personol ynghlwm.

Cofnodion:

 

 PennaethSwyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151

 

Rhoddwyd un ymgeisydd ymlaen am gyfweliad yn dilyn adborth o’r broses benodi.

 

Rhoddodd yr ymgeisydd gyflwyniad, atebodd gwestiynau ar y cyflwyniad, ac yna atebodd set o gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

Yn dilyn y cyfweliad PENDERFYNWYD penodi Mr. Richard Marc Jones i’r swydd uchod ac o ddyddiad i’w gytuno.