Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ac unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Dim wedi ei dderbyn. |
|
Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 19 KB Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-
“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” Cofnodion: PENDERFYNWYD mabwysiadu’r isod :-
“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gyrru’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf eithriad ohoni fel y diffinnir y wybodaeth yn y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” |
|
Apwyntio Staff - Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethu Corfforaethol a Trawsnewid Mewnol) Ystyried y ceisiadau ar gyfer y swydd uchod.
Mae copiau o’r Disgrifiad Swydd, y Manylion Personol ynghlwm.
Cofnodion:
Derbyniwyd 7 cais ar gyfer y swydd uchod.
PENDERFYNWYD rhoi 5 ymgeisydd ymlaen ar gyfer cam nesaf y broses benodi.
|
|
Apwyntio Staff - Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau a Trawsnewid Allanol) Ystyried y ceisiadau ar gyfer y swydd uchod.
Mae copiau o’r Disgrifiad Swydd, y Manylion Personol ynghlwm.
Cofnodion:
Derbyniwyd 5 cais ar gyfer y swydd uchod.
PENDERFYNWYD rhoi 3 ymgeisydd ymlaen ar gyfer cam nesaf y broses benodi.
|