Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ac unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb. |
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfodydd canlynol :-
· Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 16 Gorffennaf, 2015. · Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 31 Gorffennaf, 2015. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfodydd isod :-
• Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Gorffennaf, 2015 • Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 31 Gorffennaf, 2015
Roedd y Cynghorydd Ieuan Williams yn dymuno iddo gael ei nodi ei fod wedi ymddiheuro am ei absenoldeb o’r ddau gyfarfod a nodir uchod. Eglurodd ei fod yn datgan ei fod yn adnabod un o’r ymgeiswyr. |
|
Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 19 KB Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-
“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” Cofnodion:
PENDERFYNWYD mabwysiadu’r isod :-
“Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gyrrwyd y wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf eithriad ohoni fel y diffinnir y wybodaeth yn y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” |
|
Apwyntio Staff Swydd Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethu Corfforaethol a Trawsnewid Mewnol)
Swydd Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau a Trawsnewid Allanol)
Derbyn adroddiad diweddaraf mewn perthynas â’r uchod. Cofnodion:
Swydd Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethu Corfforaethol a Thrawsnewid Mewnol)
Nodwyd bod 5 o ymgeiswyr wedi wedi mynd ymlaen i gam nesaf y broses benodi ar gyfer y swydd uchod.
Swydd Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau a Thrawsnewid Allanol)
Nodwyd bod 3 o ymgeiswyr wedi mynd ymlaen i gam nesaf y broses benodi ar gyfer y swydd uchod.
Rhoes y Pennaeth Proffesiwn - Adnoddau Dynol adroddiad llafar manwl ar ganlyniad y broses benodi o ran yr ymgeiswyr fel y nodir uchod.
PENDERFYNWYD :-
• Bod y 2 ymgeisydd yn cael eu cyfweld ar gyfer swydd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethu Corfforaethol a Thrawsnewid Mewnol).
• Bod y 2 ymgeisydd yn cael eu cyfweld ar gyfer swydd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau a Thrawsnewid Allanol).
|