Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb. |
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfodydd canlynol :-
24 Awst, 2015 28 Awst, 2015 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhawyd fel rhai cywir, gofnodion y cyfarfodydd isod :-
· Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Awst, 2015; · Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Awst, 2015. |
|
Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 19 KB Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-
“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” Cofnodion: PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol :-
“Dan Adran 100(A)(4) Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gyrrwyd y wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf eithriad ohoni fel y diffinnir y wybodaeth yn y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” |
|
Dileu swydd oddi ar y sefydliad a'r effeithiau cysylltiedig Derbyn adroddiad llafar gan y Prif Weithredwr. Cofnodion: Rhoes y Prif Weithredwr adroddiad llafar mewn perthynas â dileu swydd oddi ar y sefydliad a’r effeithiau cysylltiedig.
PENDERFYNWYD :-
· Rhoi’r awdurdod i’r Prif Weithredwr, Pennaeth Proffesiwn – Adnoddau Dynol a Chadeirydd y Pwyllgor Penodiadau sefydlu a oes gan y Penaethiaid Gwasanaeth presennol unrhyw ddiddordeb mewn cymryd drosodd rôl y swydd fel y caiff ei hamlinellu yn yr adroddiad.
· Bod adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Penodiadau ei ystyried yn dilyn trafodaeth fel y nodir uchod. |