Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Penodiadau - Dydd Gwener, 4ydd Mawrth, 2016 11.30 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 22 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 15 Chwefror, 2016.

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Chwefror, 2016 fel rhai cywir.

3.

Cau allan y wasg a'r cyhoedd pdf eicon PDF 19 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol :-

 

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan y gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

4.

Tynnu'r swydd oddi ar y sefydliad a'r effeithiau cysylltiedig

Derbyn adroddiad cynnydd ar lafar gan y Prif Weithredwr.

Cofnodion:

Cafwyd adroddiad diweddaru gan y Prif Weithredwr ar yr ymarfer a ddilynwyd i wahodd unrhywfynegiant o ddiddordebgan y Penaethiaid Gwasanaeth cyfredol i gymryd drosodd rôl y swydd fel yr adroddwyd i gyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Penodi.  Rhoddodd adroddiad llafar manwl ar ganlyniad trafodaethau o’r fath i’r Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD :-

 

·           Penodi’r Pennaeth Adfywio Economaidd a Chymunedol i gymryd cyfrifoldeb ychwanegol am rôl y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd ar y telerau y cytunwyd arnynt yn y cyfarfod;

·           Adolygu’r trefniadau o fewn 12 mis ac adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Penodi.