Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ethol Cadeirydd Ethol Cadeirydd. Cofnodion: Etholwyd y Cynghorydd Ieuan Williams yn Gadeirydd. |
|
Ethol Is-Gadeirydd Ethol Is-Gadeirydd. Cofnodion: Etholwyd y Cynghorydd Bob Parry OBE FRAgS yn Is-gadeirydd. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Dim. |
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 4 Mawrth, 2016. Cofnodion: Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Mawrth, 2017 yn gywir. |
|
Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 18 KB Ystyried mabwysiadu’r canlynol :- “O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” Cofnodion: PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol :-
“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gyrrwyd y wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf eithriad ohoni fel y diffinnir yn y Ddeddf ac yn y Prawg Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” |
|
Apwyntio Staff Cyflwyno adroddiadau gan y Prif Weithredwr. Cofnodion: · Swydd Pennaeth y Gwasanaeth Plant a Theuluoedd
Cyflwynwyd – adroddiad gan y Prif Weithredwr mewn perthynas â’r uchod.
PENDERFYNWYD hysbysebu swydd Pennaeth y Gwasanaeth Plant a Theuluoedd yn yr hydref 2017 a defnyddio’r disgrifiad swydd presennol ond gan osod tâl atodol y farchnad (gyda chefnogaeth y Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol) ar y swydd a fydd yn galluogi’r Awdurdod i gystadlu’n effeithiol yn y farchnad gyflogaeth leol.
· Swydd Pennaeth Dysgu
Cyflwynwyd – adroddiad gan y Prif Weithredwr mewn perthyas â’r uchod.
PENDERFYNWYD :-
· hysbysebu swydd y Pennaeth Dysgu yn yr hydref 2017 gan ddefnyddio’r disgrigiad swydd a’r cyflog presennol, sy’n ymgorffori tâl atodol y farchnad; · cynnwys cyfeiriad at y posibilrwydd o secondiad yn yr hysbyseb ar gyfer y swydd. |