Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb. |
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 31 Gorffennaf, 2017. Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 31 Gorffennaf, 2017. |
|
Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 19 KB Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-
“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” Cofnodion: PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol :-
“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gyrru’r wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem isod oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf hon ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” |
|
Penodiadau Staff Pennaeth Gwasanaeth Plant a Theuluoedd
Ystyried y ceisiadau ar gyfer y swydd uchod.
Mae copȉau o’r Disgrifiad Swydd, y Manylion Personol a’r ffurflenni cais ynghlwm.
Pennaeth Dysgu
Derbyn adroddiad llafar gan y Prif Weithredwr.
Mae copȉau o’r Disgrifiad Swydd, a Manylion Personol ynghlwm.
Cofnodion: Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
Derbyniwyd 3 o geisiadau am y swydd uchod.
PENDERFYNWYD rhoi’r 3 ymgeisydd drwodd i gam nesaf y broses benodi.
Pennaeth Dysgu
Rhoes y Prif Weithredwr a’r Pennaeth Proffesiwn – Adnoddau Dynol adroddiad llafar ar y swydd uchod.
PENDERFYNWYD derbyn adroddiad llafar ar lenwi swydd y Pennaeth Dysgu yn y cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor hwn. |