Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Penodiadau - Dydd Mawrth, 7fed Tachwedd, 2017 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 17 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 5 Hydref, 2017.

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Hydref, 2017.

3.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 19 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol :-

 

“O dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol ar y sail y gallai olygu tebygolrwydd o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

4.

Penodiadau Staff

Pennaeth Gwasanaeth Plant a Theuluoedd

 

Ystyried y ceisiadau ar gyfer y swydd uchod.

 

Mae copȉau o’r Disgrifiad Swydd, y Manylion Personno a’r ffurflenni cais ynghlwm.

 

Pennaeth Dysgu

 

Derbyn adroddiad llafar diweddaraf gan y Prif Weithredwr. 

 

Pennaeth Gwasanaethau Tai

 

Derbyn adroddiad llafar gan y Prif Weithredwr.

 

 

 

 

 

 

Cofnodion:

·           Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

 

Cyflwynwyd 2 ymgeisydd i’w cyfweld yn dilyn adborth o’r broses benodi.

 

Cafwyd cyflwyniad gan yr ymgeiswyr ac atebodd y ddau gwestiynau ar eu cyflwyniadau yn ogystal â chyfres o gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

Yn dilyn y cyfweliadau, PENDERFYNWYD penodi Mr Cefin Fôn Roberts i’r swydd uchod o ddyddiad i’w gytuno arno.

 

·           Pennaeth Dysgu

 

Cafwyd diweddariad ar lafar gan y Prif Weithredwr ar y swydd uchod.

 

Yn dilyn trafodaethau PENDERFYNWYD cyflwyno’r cais i gam nesaf y broses recriwtio yn unol â pholisi’r Cyngor.

 

·           Pennaeth Gwasanaethau Tai

 

Cafwyd diweddariad ar lafar gan y Prif Weithredwr ar y swydd uchod.

 

PENDERFYNWYD y byddai adroddiad diweddaru yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Penodi gyda hyn yn dilyn trafodaethau mewnol.