Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Gwnaeth y Cynghorydd R. Meirion Jones ddatganiad o ddiddordeb personol ond yn dilyn cyngor cyfreithiol, ystyriwyd nad oedd ei adnabyddiaeth o’r ymgeisydd mewn perthynas ag eitem 4 yn un a oedd yn rhagfarnu. |
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 7 Tachwedd, 2017. Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Tachwedd, 2017. |
|
Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 19 KB Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-
“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” Cofnodion: PENDERFYNWYD mabwysiadu’r isod :-
“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau isod oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” |
|
Apwyntio Staff · Pennaeth Dysgu
Ystyried y cais ar gyfer y swydd uchod.
Mae copȉau o’r Disgriad Swydd, y Manlynion Personnol a’r ffurflen gais ynghlwm.
· Pennaeth Gwasanaethau Tai
Derbyn adroddiad llafar ddiweddaraf gan y Prif Weithredwr. Cofnodion: · Pennaeth Dysgu
Rhoddwyd cyfweliad i un ymgeisydd yn dilyn adborth o’r broses benodi.
Cafwyd cyflwyniad gan yr ymgeisydd, atebodd gwestiynau ar y cyflwyniad hwnnw ac yna fe atebodd ef gyfres o gwestiynau a ofynnwyd gan y Pwyllgor.
Yn dilyn y cyfweliad, PENDERFYNWYD penodi Mr. Arwyn Williams i’r swydd uchod ar y cyflog cyfredol ac o ddyddiad i’w benderfynu arno.
· Pennaeth Gwasanaethau Tai
Cafwyd adroddiad llafar gan y Prif Weithredwr ar y swydd uchod.
PENDERFYNWYD hysbysebu’r swydd yn fewnol yn y lle cyntaf.
|