Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Penodiadau - Dydd Iau, 16eg Tachwedd, 2017 4.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Gwnaeth y Cynghorydd R. Meirion Jones ddatganiad o ddiddordeb personol ond yn dilyn cyngor cyfreithiol, ystyriwyd nad oedd ei adnabyddiaeth o’r ymgeisydd mewn perthynas ag eitem 4 yn un a oedd yn rhagfarnu.

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 22 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 7 Tachwedd, 2017.

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Tachwedd, 2017.

3.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 19 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r isod :-

 

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau isod oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

4.

Apwyntio Staff

·           Pennaeth Dysgu

 

Ystyried y cais ar gyfer y swydd uchod.

 

Mae copȉau o’r Disgriad Swydd, y Manlynion Personnol a’r ffurflen gais ynghlwm.

 

·           Pennaeth Gwasanaethau Tai

 

Derbyn adroddiad llafar ddiweddaraf gan y Prif Weithredwr.

Cofnodion:

·           Pennaeth Dysgu

 

Rhoddwyd cyfweliad i un ymgeisydd yn dilyn adborth o’r broses benodi.

 

Cafwyd cyflwyniad gan yr ymgeisydd, atebodd gwestiynau ar y cyflwyniad hwnnw ac yna fe atebodd ef gyfres o gwestiynau a ofynnwyd gan y Pwyllgor.

 

Yn dilyn y cyfweliad, PENDERFYNWYD penodi Mr. Arwyn Williams i’r swydd uchod ar y cyflog cyfredol ac o ddyddiad i’w benderfynu arno.

 

·           Pennaeth Gwasanaethau Tai

 

Cafwyd adroddiad llafar gan y Prif Weithredwr ar y swydd uchod.

 

PENDERFYNWYD hysbysebu’r swydd yn fewnol yn y lle cyntaf.