Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Gwnaeth y Cynghorydd R G Parry OBE FRAgS ddatganiad o ddiddordeb sy’n rhagfarnu mewn perthynas ag Eitem 4 ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod. |
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 14 Rhagfyr, 2017. Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr, 2017. |
|
Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 19 KB Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-
“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” Cofnodion: PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol :-
“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem isod oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni ym Mharagraff 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” |
|
Apwyntio Staff Pennaeth Gwasanaethau Tai
Ystyried y ceisiadau ar gyfer y swydd uchod.
Mae copȉau o’r Disgriad Swydd, y Manylion Personnol a’r ffurflenni cais ynghlwm. Cofnodion: Pennaeth Gwasanaethau Tai
Cyflwynwyd 2 ymgeisydd i’w cyfweld yn dilyn adborth o’r broses benodi.
Cafwyd cyflwyniad gan yr ymgeiswyr ac atebodd y ddau gwestiynau ar eu cyflwyniadau yn ogystal â chyfres o gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.
Yn dilyn y cyfweliadau, PENDERFYNWYD penodi Mr William Edward Michael i’r swydd uchod o ddyddiad i’w gytuno arno. |