Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Penodiadau - Dydd Gwener, 23ain Chwefror, 2018 9.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbynniwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 17 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 20 Rhagfyr, 2017.

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Rhagfyr, 2017.

3.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 19 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r isod :-

 

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem isod oherwydd y tebygrwydd y cai gwybodaeth ei rhyddau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni ym Mharagraff 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

4.

Apwyntio Staff

Pennaeth Trawsnewid Corfforaethol  

 

Cyflwyno adroddiad llafar gan y Prif Weithredwr.

Cofnodion:

Pennaeth Trawsnewid Corfforaethol

 

Rhoes y Prif Weithredwr adroddiad llafar mewn perthynas â’r swydd wag uchod.

 

PENDERFYNWYD hysbysebu’r swydd yn fewnol ac i wahodd unrhywfynegiannau o ddiddordeb’ o blith y Penaethiaid Gwasanaeth ac/neu’r Uwch Reolwyr cyfredol.