Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Penodiadau - Dydd Gwener, 9fed Mawrth, 2018 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 16 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 16 Tachwedd, 2017.

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Chwefror, 2018.

3.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 19 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod yn drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu’r gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mhargraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf hoono a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r isod :-

 

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem isod oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

4.

Apwyntio Staff

Pennaeth Trawsnewid Corfforaethol

 

Ystyried y ceisiadau ar gyfer y swydd uchod.

 

Mae copȉau o’r Disgrifiad Swydd, y Manylion Personol ar ffurflenni cais ynghlwm.

Cofnodion:

Pennaeth Trawsnewid Corfforaethol

 

Derbyniwyd 6 gais ar gyfer y swydd uchod.

 

PENDERFYNWYD bod 3 ymgeisydd yn mynd ymlaen i gam nesaf y broses benodi.