Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb. |
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 9 Mawrth, 2018. Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Mawrth, 2018. |
|
Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 19 KB Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-
“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” Cofnodion: PENDERFYNWYD :-
“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, i wahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem isod oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei datgelu a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni ym Mharagraff 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” |
|
Apwyntio Staff Pennaeth Trawsnewid Corfforaethol
Ystyried y ceisiadau ar gyfer y swydd uchod.
Mae copȉau o’r Disgriad Swydd, y Manylion Personol a’r ffurflenni cais ynghlwm. Cofnodion: PENNAETH TRAWSNEWID CORFFORAETHOL
Cafodd 3 o ymgeiswyr gyfweliad yn dilyn adborth o’r broses benodiadau.
Rhoddodd yr ymgeiswyr gyflwyniad, gan ateb cwestiynau ar y cyflwyniad ac yna gyfres o gwestiynau a ofynnwyd gan y Pwyllgor.
Yn dilyn y cyfweliadau, PENDERFYNWYD penodi Mrs Carys A Edwards i’r swydd uchod ar gyflog ac ar ddyddiad i’w penderfynu. |