Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb. |
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 2 Awst, 2018. Cofnodion: Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Awst 2018 yn gywir. |
|
Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 19 KB Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-
“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” Cofnodion: PENDERFYNWYD:-
“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod yn drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu’r gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mhargraff 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd a gyflwynwyd.” |
|
Apwyntio Staff Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo
Cyflwyno adroddiad llafar gan y Prif Weithredwr. Cofnodion: Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo
Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad llafar ar y swydd uchod.
PENDERFYNWYD argymell fod y Pwyllgor yn symud ymlaen i gam nesaf y broses benodi, ac yn
• Cadarnhau trefniadau ar gyfer y swydd Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo Dros Dro yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 3 Medi, 2018. • Cyflwyno argymhellion ynglŷn â swydd Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo yn ei gyfarfod ar 3 Medi, 2018. |