Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem of fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 264 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 16 Awst, 2018.

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Awst, 2018.

3.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 19 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

Cofnodion:

PENDERFYNWYD :-

4.

Apwyntio Staff

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.

Cofnodion:

Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethu a Thrawsnewid Prosesau Busnes)

Cyflwynwydadroddiad gan y Prif Weithredwr.

PENDERFYNWYD :-

·      Bod mynegiant o ddiddordeb ar gyfer swydd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol yn cael ei hysbysebu ymysg Penaethiaid Gwasanaeth ac aelodau’r UDA ynghyd â thaliad honoraria ychwanegol am ymgymryd â’r swydd a’r cyfrifoldeb;

·      Bod adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Apwyntiadau.