Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 21 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 11 Ionawr, 2019.

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Ionawr, 2019.

3.

Cau allan y wasg a'r cyhoedd pdf eicon PDF 19 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol :-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

4.

Apwyntio Staff

Cyfarwyddwr Gwasanaethau CymdeithasolDros Dro

 

Cyflwyno adroddiad llafar.  

Cofnodion:

Cyfarwyddwr Gwasanaethau CymdeithasolDros Dro

 

Cyflwynodd y Pennaeth Proffesiwn Adnoddau Dynol a Thrawsnewid adroddiad llafar mewn perthynas â’r swydd uchod.

 

Adroddwyd fod penderfyniad wedi ei wneud yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor Penodiadau a gynhaliwyd ar 11 Ionawr, 2019 i wahodd mynegiadau o ddiddordeb yn swydd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Dros Dro gan Benaethiaid Gwasanaeth ac aelodau o’r uwch Dîm Arweinyddiaeth.  Derbyniwyd dau fynegiant o ddiddordeb a chynhaliwyd cyfweliadau gan Banel yn cynnwys Cadeirydd y Pwyllgor Penodiadau, Deilydd Portffolio (Gwasanaethau Cymdeithasol), y Prif Weithredwr a’r Pennaeth Proffesiwn Adnoddau Dynol a Thrawsnewid. 

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD :-

 

·      Penodi Mr Alwyn Rhys Jones, Pennaeth Gwasanaethau Oedolion, i swydd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau CymdeithasolDros Dro ac i roi taliad honoraria ychwanegol iddo am ymgymryd â’r swydd a’r cyfrifoldebau;

·      Penodi Mr Fôn Roberts, Pennaeth Gwasanaethau Plant i swydd y Dirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaethau CymdeithasolDros Dro ac i roi taliad honoraria ychwanegol iddo am ymgymryd â’r swydd a’r cyfrifoldebau;

·      Cynnal cyfarfod pellach o’r Pwyllgor Penodiadau i drafod materion ynghylch swydd wag y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethiant a Thrawsnewid Prosesau Busnes).