Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Nodyn: Yn syth ar ôl cyfarfod Busnes y Pwyllgor Gwaith 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganid o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Gwnaeth y Pennaeth Proffesiwn – Adnoddau Dynol a Thrawsnewid ddatganid o ddiddordeb yn Eitem 4 – Ailstrwythuro Uwch Reolwyr os byddai trafodaeth yn cael ei chynnal ar gydnabyddiaeth ariannol.

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 24 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 6 Chwefror, 2019.

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Chwefror, 2019.

3.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 19 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r isod:-

 

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni ym Mharagraff 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

4.

Ail-Strwythuro Uwch Reolwyr

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad manwl gan y Prif Weithredwr mewn perthynas â’r uchod.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·      peidio â llenwi swydd wag gyfredol y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethiant Corfforaethol a Thrawsnewid Mewnol);

·      bob adolygiad manwl o’r strwythur Uwch Reolwyr yn cael ei gynnal er mwyn cefnogi y model rheoli sydd wedi’i gynnwys yn Atodiad 2 yr adroddiad;

·      o ganlyniad i’r uchod, cefnogi’r egwyddor o adolygu’r model cyflogau a fydd yn codi yn sgîl dyrannu mwy o gyfrifoldebau.