Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Gwnaeth y Pennaeth Proffesiwn Adnoddau Dynol a Thrawsnewid ddatganid o ddiddordeb yn Eitem 4 – ‘Ailstrwythuro Uwch Reolwyr a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais ar yr eitem honno.

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 23 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 30 Mai, 2019.

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Mai, 2019.

3.

Cau allan y wasg a'r cyhoedd pdf eicon PDF 19 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r isod:-

 

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gyrru’r wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem â ganlyn oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn ôl y diffiniad ym Mharagraff 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

4.

Ail-Strwythuro Uwch Reolwyr

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Prif Weithredwr ynglŷn â’r uchod.

 

Cafwyd diweddariad gan yr Uwch Swyddog Adnoddau Dynol ar ganlyniad y broses ailstrwythuro Uwch Reolwyr.  Dywedodd y bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor hwn a gynhelir ar 1 Gorffennaf, 2019 ar ôl cwblhau’r adolygiad o’r strwythur uwch reoli.  Roedd yr holl ddisgrifiadau swydd yn y strwythur Uwch Reolwyr wedi cael eu gwerthuso’n unol â Chynllun Arfarnu Swyddi’r Gymdeithas Llywodraeth Leol (CLIL) ar gyfer Uwch Swyddogion a’u dilysu’n allanol gan y CLIL.  Cafodd y sgorau wedyn eu trosi’n strwythur cyflogau a adolygwyd gan y CLIL cyn eu cyflwyno i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol. 

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD:-

 

·      Dynodi swydd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog 151 cyfredol yn Gyfarwyddwr Adnoddau/Swyddog 151;

·      Y bydd diweddariad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Penodiadau a gynhelir ar 1 Gorffennaf, 2019 yn dilyn cwblhau’r adolygiad o’r strwythur uwch reolwyr.

5.

Cau allan y wasg a'r cyhoedd pdf eicon PDF 19 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r isod:-

 

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gyrru’r wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem â ganlyn oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn ôl y diffiniad ym Mharagraff 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

 

6.

Apwyntio Staff

Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc

 

Ystyried y ceisiadau ar gyfer y swydd uchod.

 

Mae copȉau o’r Disgrifiad Swydd, y Manylion Personol ar ffurflenni cais ynghlwm.

Cofnodion:

Derbyniwyd 3 chais ar gyfer y swydd uchod.

 

PENDERFYNWYD y bydd 2 gais yn mynd ymlaen i gam nesaf y broses benodi.

7.

Cau allan y wasg a'r cyhoedd pdf eicon PDF 19 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r isod:-

 

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gyrru’r wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem â ganlyn oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn ôl y diffiniad ym Mharagraff 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

 

 

8.

Ystyriaeth o unrhyw swyddi pellach i'w hysbysu

Cyflwyno adroddiad llafar mewn perthynas a’r uchod.  

Cofnodion:

Rhoes y Pennaeth Proffesiwn Adnoddau Dynol a Thrawsnewid adroddiad llafar ar yr uchod. 

 

PENDERFYNWYD dirprwyo’r awdurdod i Arweinydd y Cyngor, yr Aelod Portffolio perthnasol a’r Pennaeth Proffesiwn Adnoddau Dynol a Thrawsnewid i drafod yr amser priodol i hysbyseb’r swydd a drafodwyd yn y cyfarfod.