Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Penodiadau - Dydd Llun, 1af Gorffennaf, 2019 11.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb. 

2.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 19 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r isod:-

 

“ O dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gyrru’r wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem â ganlyn oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn ôl y diffiniad ym Mharagraff 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

 

3.

Ail-strwythuro Uwch Reolwyr

Derbyn adroddiad llafar mewn perthynas â’r uchod.  

Cofnodion:

Adroddodd y Pennaeth Proffesiwn Adnoddau Dynol a Thrawsnewid fod y trafodaethau gyda staff perthnasol ynglŷn ag ailstrwythurol Uwch Reolwyr bellach wedi’u cwblhau, ac y bydd y strwythur newydd yn cael ei weithredu o ddyddiad y cyfarfod hwn.

 

PENDERFYNWYD gweithredu’r strwythur Uwch Reolwyr newydd o’r 1af o Orffennaf, 2019.

4.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 19 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r isod:-

 

“ O dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gyrru’r wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem â ganlyn oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn ôl y diffiniad ym Mharagraff 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

 

5.

Apwyntio Staff

Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc

 

Ystyried y ceisiadau ar gyfer y swydd uchod.

 

Mae copȉau o’r Disgrifiad Swydd, y Manylion Personol a ffurflenni cais ynghlwm.

Cofnodion:

Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc

 

Roedd dau ymgeisydd wedi cael eu rhoi ymlaen am gyfweliad yn dilyn adborth o’r broses benodi.

 

Yn dilyn y cyfweliad PENDERFYNWYD penodi Mr Rhys H Hughes i’r swydd uchod o ddyddiad i’w gytuno.

6.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 19 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r isod:-

 

“O dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gyrru’r wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem â ganlyn oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn ôl y diffiniad ym Mharagraff 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

 

 

7.

Ystyriaeth o unrhyw Swyddi pellach i'w hysbysu

Cyflwyno adroddiad llafar mewn perthynas a’r uchod.

Cofnodion:

Adroddodd y Cadeirydd fod y Prif Weithredwr wedi cyflwyno ei fwriad i ymddeol o’i swydd ym mis Hydref.

PENDERFYNWYD awdurdodi’r Swyddogion perthnasol i hysbysebu swydd y Prif Weithredwr.