Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Dim.

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 48 KB

Cyflwyno, i’w cadarnahu, gofnodion y cyfarfodydd fel a ganlyn:-

 

·      Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 25 Mehefin, 2019

·      Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 1 Gorffennaf, 2019

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

 Cadarnhawydcofnodion y cyfarfodydd isod:-

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Mehefin, 2019.

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Gorffennaf, 2019.

 

 

3.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 19 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

Cofnodion:

 

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-

 

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem isod oherwydd y tebygrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn ôl y diffiniad ym Mharagraff 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

4.

Apwyntio Staff

Prif Weithredwr

 

Ystyried y ceisiadau ar gyfer y swydd uchod. 

Mae copȉau o’r Disgrifiad Swydd, y Manylion Personol a ffurflenni cais ynghlwm.

Cofnodion:

Prif Weithredwr

 

Derbyniwyd 3 chais ar gyfer y swydd uchod.

 

PENDERFYNWYD bod y 3 chais yn mynd ymlaen i gam nesaf y broses benodi.

 

EITEM YCHWANEGOL A YSTYRIWYD GYDA CHANIATÂD Y CADEIRYDD

 

Ailstrwythuro Uwch Reolwyr

 

Dywedodd yr Uwch Swyddog Adnoddau Dynol fod cais wedi dod i law gan aelod o’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn gofyn am gael ail-ddynodi teitl ei swydd.

 

PENDERFYNWYD ail-ddynodi teitl swydd y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro yn Gyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) a Swyddog Monitro.