Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Penodiadau - Dydd Iau, 22ain Awst, 2019 9.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Dim.

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 22 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 31 Gorffennaf, 2019.

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 31 Gorffennaf, 2019.

3.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 122 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:-

 

Penderfynwyd o dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

4.

Apwyntio Staff

Prif Weithredwr

 

Ystyried y ceisiadau ar gyfer y swydd uchod.

 

Mae copȉau o’r Disgrifiad Swydd, y Manylion Personol a ffurflenni cais ynghlwm.

Cofnodion:

Prif Weithredwr

 

Rhoddwyd cyfweliad i dri ymgeisydd yn dilyn derbyn adborth o’r broses benodi, a chadarnhawyd fod y tri ohonynt wedi cyrraedd y trothwy i’r Pwyllgor Penodi eu hystyried fel rhai y gellid eu penodi i’r Swydd Prif Weithredwr.

 

Bu i’r ymgeiswyr wneud cyflwyniad, ateb cwestiynau ar y cyflwyniad ac yna ateb set o gwestiynau a ofynnwyd gan aelodau’r Pwyllgor.

 

Yn dilyn y cyfweliadau, PENDERFYNWYD argymell i’r Cyngor llawn fod Mrs Annwen Morgan yn cael ei phenodi i’r swydd uchod o’r 1af o Hydref 2019.

 

MATERION YCHWANEGOL A YSTYRIWYD GYDA CHANIATȂD Y CADEIRYDD

 

Swydd Dirprwy Brif Weithredwr

 

O ganlyniad i’r penodiad y cyfeiriwyd ato dan eitem 4 uchod, penderfynwyd y dylid hysbysebu swydd Dirprwy Brif Weithredwr yn allanol.

 

Swydd Pennaeth Priffrydd, Gwastraff ac Eiddo

 

Penderfynwyd gwahodd datganiadau o ddiddordeb gan Benaethiaid Gwasanaeth ac i hysbysebu’r swydd yn allanol, os oes angen, yn ddiweddarach.