Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Gwnaeth y Cynghorydd R Meirion Jones ddatganiad o ddiddordeb personol a rhagfarnus mewn perthynas ag Eitem 6 – Penodiadau Staff – Dirprwy Brif Weithredwr ac aeth allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais arni. 

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 21 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfodydd fel a ganlyn :-

 

·      Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 31 Gorffennaf, 2019

·      Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 22 Awst, 2019

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfodydd diwethaf:-

 

·      Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 31 Gorffennaf, 2019

·      Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Awst, 2019

 

Ymataliodd y Cynghorwyr K P Hughes ac Aled M Jones eu pleidlais oherwydd nad oeddynt yn aelodau o’r Pwyllgor Penodiadau pan gynhaliwyd y cyfarfodydd hyn.

3.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 19 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol:-

 

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlynol oherwydd y tebygrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni ym Mharagraff 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

4.

Apwyntio Staff

Pennaeth Priffrydd, Gwastraff ac Eiddo

 

Ystyried y ceisiadau ar gyfer y swydd uchod.

 

Mae copïau o’r Disgrifiad Swydd, y Manylion Personol a ffurflenni cais ynghlwm.

 

Cofnodion:

Pennaeth Priffyrdd, Eiddo a Gwastraff

 

Derbyniwyd un cais ar gyfer y swydd uchod a oedd yn swydd wag a hysbysebwyd yn fewnol.

 

Eglurodd y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid mai’r cam cyntaf yn y broses o benodi i swyddi gweigion ar lefel Penaethiaid Gwasanaeth yw gwahodd mynegiant o ddiddordeb o blith Penaethiad Gwasanaeth eraill yn y Cyngor. 

 

PENDERFYNWYD bod yr un cais yn cael ei roi ymlaen i gam nesaf y broses benodi.

 

Roedd y Cynghorydd A M Jones yn dymuno iddo gael ei gofnodi nad oedd yn cytuno â rhestr fer o un.

 

Nododd y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid y byddai’r drefn sefydledig yn cael ei defnyddio ar gyfer cam nesaf y broses gyfweld gydag asesiad yn cael ei gynnal drwy gyfrwng prawf seicometrig allanol annibynnol i asesu’r cymwyseddau ymddygiadol sy’n ofynnol fel rhan o’r cyfrifoldebau a restrir yn y disgrifiad swydd ar gyfer y swydd hon.  Bydd adroddiad llafar ar ganlyniad yr asesiad hwnnw yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Penodiadau yn ystod cam terfynol y broses gyfweld.  Yn ychwanegol at hyn, cynhelir cyfweliad proffesiynol yn unol â’r arfer sydd wedi’i hen sefydlu.  Fodd bynnag, mae’r Prif Weithredwr newydd wedi penderfynu mai’r Prif Weithredwr a’r Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid fydd yn cynnal y cyfweliad proffesiynol.  Bydd adborth o’r cyfweliad proffesiynol yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Penodi yn ystod y cam cyfweld terfynol.

 

Roedd y Cynghorydd A M Jones yn dymuno iddo gael ei gofnodi ei fod wedi gofyn am eglurhad ynghylch cam nesaf y broses benodi. 

 

5.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 19 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol:-

 

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlynol oherwydd y tebygrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni ym Mharagraff 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

 

6.

Apwyntio Staff

Dirprwy Brif Weithredwr

 

Ystyried y ceisiadau ar gyfer y swydd uchod.

 

Mae copïau o’r Disgrifiad Swydd, y Manylion Personol a ffurflenni cais ynghlwm.

Cofnodion:

Dirprwy Brif Weithredwr

 

Cafwyd 6 o geisiadau ar gyfer y swydd uchod.

 

Rhoes y Prif Weithredwr ddadansoddiad o’r 6 chais a dderbyniwyd ar gyfer y swydd i’r Pwyllgor gan argymell fod dau ymgeisydd yn cael eu rhoddi ar y rhestr fer.

 

Roedd Aelodau’r Pwyllgor o’r farn bod 2 gais yn cwrdd â’r meini prawf ar gyfer y swydd ac y dylent fynd ymlaen i gam nesaf y broses benodi.

 

Roedd y Cynghorydd A M Jones yn dymuno iddo gael ei gofnodi ei fod ef o’r farn bod ymgeisydd arall, er nad oedd yn cwrdd â’r meini prawf o ran y sgiliau iaith angenrheidiol, â’r cefndir proffesiynol i gael ei ystyried ar gyfer y swydd.  Dywedodd y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid y cafodd y swydd ei hysbysebu fel un Cymraeg hanfodol ac y byddai angen y lefel ddisgwyliedig o sgiliau iaith ar ei chyfer sef lefel 5 ac na fyddai modd rhoddi’r ymgeisydd ar y rhestr fer yn yr achos hwn felly.

 

Nododd y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid y byddai’r drefn sefydledig yn cael ei defnyddio ar gyfer cam nesaf y broses gyfweld gydag asesiad yn cael ei gynnal drwy gyfrwng prawf seicometrig allanol annibynnol i asesu’r cymwyseddau ymddygiadol sy’n ofynnol fel rhan o’r cyfrifoldebau a restrir yn y disgrifiad swydd ar gyfer y swydd hon.  Bydd adroddiad llafar ar ganlyniad yr asesiad hwnnw yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Penodiadau yn ystod cam terfynol y broses gyfweld.  Yn ychwanegol at hyn, cynhelir cyfweliad proffesiynol yn unol â’r arfer sydd wedi’i hen sefydlu.  Fodd bynnag, mae’r Prif Weithredwr newydd wedi penderfynu mai’r Prif Weithredwr a’r Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid fydd yn cynnal y cyfweliad proffesiynol.  Bydd adborth o’r cyfweliad proffesiynol yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Penodi yn ystod y cam cyfweld terfynol.

 

Cytunwyd ymhellach na fydd angen i unrhyw ymgeisydd sydd wedi ymgymryd â’r prawf seicometrig yn ystod y tri mis diwethaf gymryd y prawf hwn eto ac y bydd canlyniad y prawf blaenorol yn cael ei ddefnyddio.

 

Os bydd unrhyw benodiad yn cael ei wneud, bydd angen i argymhelliad y Pwyllgor Penodiadau gael ei gadarnhau gan y Cyngor llawn mewn cyfarfod i’w drefnu i ddilyn y cyfarfod terfynol o’r Pwyllgor Penodiadau ar gyfer penodi i’r swydd hon.

 

PENDERFYNWYD bod 2 ymgeisydd yn mynd drwodd i gam nesaf y broses benodi.