Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Penodiadau - Dydd Llun, 16eg Rhagfyr, 2019 9.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 22 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 18 Tachwedd, 2019.

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Tachwedd, 2019.

3.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 19 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

Cofnodion:

PENDERFYNIADAU:-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

4.

Apwyntio Staff

Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd Dros Dro

 

Ystyried y ceisiadau ar gyfer y swydd uchod.

 

Mae copïau o’r Disgrifiad Swydd, y Manylion Personol a ffurflenni cais ynghlwm.

Cofnodion:

Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd Dros Dro

 

Derbyniwyd 4 cais ar gyfer y swydd uchod.

 

Adroddodd y Prif Weithredwr y derbyniwyd pedwar cais am y swydd ac argymhellwyd bod y pedwar ymgeisydd yn cael eu rhoi ar y rhestr fer.  Felly, bydd yr ymgeiswyr yn dilyn y broses recriwtio fel rhano’r broses benodi.

 

Gofynnodd yr Uwch Swyddog Adnoddau Dynol i’r Pwyllgor gadarnhau y byddai’r drefn sefydledig yn cael ei defnyddio ar gyfer cam nesaf y broses benodi.  Cytunodd y Pwyllgor i gynnal asesiad drwy gyfrwng prawf seicometrig allanol annibynnol.  Cyflwynir adroddiad llafar ar ganlyniad yr asesiad i’r Pwyllgor Penodiadau yn ystod y cyfweliadau terfynol.  Yn ogystal, bydd y Prif Weithredwr a’r Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid yn cynnal cyfweliad proffesiynol, yn unol â’r drefn sefydledig.  Bydd adborth o’r cyfweliad proffesiynol yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Penodiadau yn ystod y cam cyfweld terfynol.

 

PENDERFYNWYD bod y 4 ymgeisydd yn mynd ymlaen i gam nesaf y broses benodi.

 

(Ataliodd y Cynghorydd A M Jones ei bleidlais am iddo gyrraedd yn hwyr i’r cyfarfod).