Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Penodiadau - Dydd Gwener, 10fed Ionawr, 2020 9.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Dim.

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 19 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 16 Rhagfyr, 2019.

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Rhagfyr, 2019 fel cofnod cywir.

3.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 19 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’ir Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

4.

Apwyntio Staff

Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd Dros Dro

 

Ystyried y ceisiadau ar gyfer y swydd uchod.

 

Mae copïau o’r Disgrifiad Swydd, y Manylion Personol a ffurflenni cais ynghlwm.

Cofnodion:

Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd Dros Dro

 

Cyflwynwyd 4 ymgeisydd oddi ar y rhestr fer ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor Penodiadau ar gyfer rôl y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd Dros Dro.  Penderfynodd un ymgeisydd dynnu ei gais yn ôl yn dilyn y broses o lunio rhestr fer felly dim ond tri ymgeisydd fynychodd y cyfweliadau ffurfiol.

 

Rhoddodd yr ymgeiswyr gyflwyniad, ateb cwestiynau ar y cyflwyniad ac yna ateb cyfres o gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor.  Darparwyd adborth gan y Prif Weithredwr a’r Pennaeth Proffesiwn (Adnodau Dynol) a Thrawsnewid am y broses asesu a oedd yn cynnwys profion seicometreg a chyfweliad proffesiynol a gyflawnwyd gan y Prif Weithredwr a’r Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid.

 

Yn dilyn y cyfweliad ffurfiol, PENDERFYNODD y Pwyllgor Penodiadau benodi Mr Christian Branch i’r swydd uchod.