Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol (ar hyn o bryd nid oes modd i'r cyhoedd fynychu'r cyfarfod)

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Dim.

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 276 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 21 Hydref, 2020.

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Hydref, 2020.

3.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 19 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddedf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:-

 

Penderfynwyd o dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygolrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

 

4.

Ail-strwythuro'r Uwch Dim Arweinyddiaeth

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Prif Weithredwr mewn perthynas â’r uchod.

 

Adroddodd y Prif Weithredwr ar y Swydd wag Cyfarwyddwr Rheoleiddio a Lle a’r angen i ystyried opsiynau posibl ar gyfer gallu symud ymlaen i lenwi bwlch o fewn haen uwch dîm arweinyddiaeth a rheoli y Cyngor. Tra bo rôl y Cyfarwyddwr Rheoleiddio a Lle yn alinio â gweledigaeth y Cyngor a’i bod yn cryfhau’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth, mae angen cymryd agwedd bragmatig tuag at y sefyllfa recriwtio bresennol yn ystod y cyfnod argyfwng.  

 

Cyflwynwyd dau opsiwn, yn cynnwys yr ystyriaethau ariannol cefnogol, ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor ynghyd ag argymhelliad gan y Prif Weithredwr. Dileu swydd y Cyfarwyddwr Rheoleiddio  a Lle a phenodi Penodi un Pennaeth Gwasanaeth  Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a bod swydd newydd, Swyddog Strategaeth Corfforaethol, yn cael ei sefydlu.

 

Holodd y Cynghorydd A M Jones am y posibilrwydd o ddiwygio’r gofyniad ieithyddol er mwyn caniatau i ymgeiswyr addas allu dysgu’r iaith. Ymatebodd Swyddogion mai dyma’r gofynaid ieithyddol i’r lefel hon o swydd o fewn yr uwch dîm arweinyddiaeth.

 

Holodd y Cynghorydd R Meirion Jones am natur rôl y Swyddog Strategaeth Corfforaethol o ran datblygiadau yn y dyfodol mewn perthynas â Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru. Ymatebodd y Prif Weithredwr fod y rôl Swyddog Strategaeth Corfforaethol yn rôl ehangach er mwyn cynorthwyo’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth ar sawl agwedd wahanol o waith.  

 

Yn dilyn cynnal trafodaeth PENDERFYNWYD:-

 

·       Argymell i’r Pwyllgor Gwaith ac yn dilyn hynny y Cyngor Llawn, y dylid dileu’r swydd Cyfarwyddwr Rheoleiddio a Datblygiad Economaidd o Gyfansoddiad y Cyngor;

·       Yn dilyn cadarnhad o’r uchod, bod y swydd Pennaeth Rheoleiddio a Datblygiad Economaidd yn cael ei hysbysebu’r allanol;

·       Bod swydd newydd, Swyddog Strategaeth Corfforaethol, yn cael ei chreu a’i hysbysebu’n allanol.

 

Bu’r Cynghorydd A M Jones atal ei bleidlais.

 

5.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 19 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddedf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:-

 

Penderfynwyd o dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygolrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

 

6.

Apwyntio Staff

Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Derbyn adroddiad llafar gan y Prif Weithredwr.

Cofnodion:

Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr adroddiad llafar ar swydd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a’r angen i lenwi’r swydd yn barhaol.

 

Mynegodd y Cynghorydd A M Jones nad oedd modd iddo ystyried y mater heb dderbyn adroddiad ysgrifenedig.

 

Cytunodd y Pwyllgor i ohiriad er mwyn derbyn adroddiad ysgrifenedig a gafodd ei baratoi ac a gadarnhawyd yr adroddiad llafar a gyflwynwyd eisoes.

 

Yn dilyn derbyn yr adroddiad PENDERFYNWYD yn unfrydol y dylid hysbysebu’r swydd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol yn allanol yn Ionawr, 2021.