Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol (ar hyn o bryd nid oes modd i'r cyhoedd fynychu'r cyfarfod)

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Dim.

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 281 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 17 Chwefror, 2021.

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod confodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Chwefror, 2021 yn gywir.

3.

Cau allan y wasg a'r cyhoedd pdf eicon PDF 19 KB

Ystyried mabwysiadau’r canlynol:-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:-

 

“O dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygolrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

4.

Apwyntio Staff

Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Ystyried y ceisiadau ar gyfer y swydd uchod.

 

Mae copiau o’r Disgrifiad Swydd, y Manylion Personol a ffurflenni cais ynghlwm.  

Cofnodion:

Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Cyflwynwyd 1 ymgeisydd ar y rhestr fer i’w ystyried gan y Pwyllgor Penodi fel unigolyn a allai gael ei benodi i rôl Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Cafwyd cyflwyniad gan yr ymgeisydd, ac atebodd gwestiynau ar y cyflwyniad ac wedyn gyfres o gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor.  Darparwyd atborth gan y Prif Weithredwr a’r Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid ar y broses asesu a oedd yn cynnwys profion seicometrig a chyfweliad proffesiynol a gynhaliwyd gan y Prif Weithredwr a’r Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid.

 

Yn dilyn y cyfweliad ffurfiol, PENDERFYNODD y Pwyllgor Penodiadau benodi Mr Fôn Roberts i’r swydd uchod.