Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol (ar hyn o bryd nid oes modd i'r cyhoedd fynychu'r cyfarfod)

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Dim.

2.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 19 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12A, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:-

 

“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygolrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.

 

3.

Apwyntio Staff

Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd

 

Ystyried y ceisiadau ar gyfer y swydd uchod.

 

Mae copïau o’r Disgrifiad Swydd, y Manylion Personol a ffurflenni cais ynghlwm.

 

Cofnodion:

Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd

 

Adroddodd y Prif Weithredwr, yn unol ag argymhelliad y Cyngor llawn a gynhaliwyd ar 2 Chwefror 2021, fod swydd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd wedi'i hysbysebu ar 12 Chwefror 2021 tan 1 Mawrth 2021.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr, yn unol â'r arfer recriwtio safonol, y ffurfiwyd rhestr fer annibynnol yn seiliedig ar y wybodaeth yn y ceisiadau, ac argymhellodd y dylid tynnu rhestru rhestr fer o'r ymgeiswyr sy'n cwrdd â'r trothwy gofynnol. Argymhellwyd bod y Pwyllgor Penodiadau yn dilyn yr un broses a ddilynwyd gyda nifer o uwch benodiadau diweddar sy'n ddull tri cham, sef : -

 

• Cyfweliad allanol gyda Gatenby Sanderson yn seiliedig ar broses prawf seicometrig ar gyfer pob ymgeisydd ar y rhestr fer;

• Cyfweliad Proffesiynol i'w gynnal rhwng y Prif Weithredwr, y Dirprwy Brif Weithredwr a'r Pennaeth Proffesiwn AD fel ffordd o gadarnhau cywirdeb y ffurflen gais;

• Cyfweliad gyda'r Pwyllgor Penodiadau, i wneud penderfyniad ar ba ymgeisydd, os o gwbl, a ddewisir ar ôl ystyried y ddau gam blaenorol a fydd yn cael eu cyflwyno mewn adroddiad cyn y cyfweliad ffurfiol â'r pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD cefnogi'n unfrydol argymhelliad y Prif Weithredwr ynghylch y rhestr fer a'r broses tri cham  fel y nodwyd yn yr adroddiad a gyflwynwyd i'r Pwyllgor ar y mater.   

4.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 19 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12A, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:-

 

“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygolrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.

 

5.

Apwyntio Staff

Swydd Pennaeth Gwasanaethau Oedolion

 

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.

 

 

Cofnodion:

Swydd Pennaeth Gwasnaethau Oedolion

 

Adroddodd y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid y bu trefniadau dros dro ar waith ers Mehefin 2020 i gefnogi’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Dros Dro. Gyda'r penodiad parhaol i swydd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, mae bellach yn amserol llenwi swydd Pennaeth Gwasanaethau Oedolion yn barhaol.

Y swydd hefyd fydd Dirprwy Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i hysbysebu swydd Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Dirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, gan ddilyn trefn arferol y Cyngor o hysbysebu'r swydd ar y wefan trwy ficrowefan bwrpasol am gyfnod o 3 wythnos heb ddefnyddio unrhyw gyhoeddiad arall.