Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Gwnaeth y Pennaeth Proffesiwn Adnoddau Dynol a Thrawsnewid ddatganid o ddiddordeb yn Eitem 4 – ‘Ailstrwythuro Uwch Reolwyr a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais ar yr eitem honno. |
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 30 Mai, 2019. Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Mai, 2019. |
|
Cau allan y wasg a'r cyhoedd PDF 19 KB Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-
“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” Cofnodion: PENDERFYNWYD mabwysiadu’r isod:-
“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gyrru’r wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem â ganlyn oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn ôl y diffiniad ym Mharagraff 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” |
|
Ail-Strwythuro Uwch Reolwyr Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Prif Weithredwr ynglŷn â’r uchod.
Cafwyd diweddariad gan yr Uwch Swyddog Adnoddau Dynol ar ganlyniad y broses ailstrwythuro Uwch Reolwyr. Dywedodd y bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor hwn a gynhelir ar 1 Gorffennaf, 2019 ar ôl cwblhau’r adolygiad o’r strwythur uwch reoli. Roedd yr holl ddisgrifiadau swydd yn y strwythur Uwch Reolwyr wedi cael eu gwerthuso’n unol â Chynllun Arfarnu Swyddi’r Gymdeithas Llywodraeth Leol (CLIL) ar gyfer Uwch Swyddogion a’u dilysu’n allanol gan y CLIL. Cafodd y sgorau wedyn eu trosi’n strwythur cyflogau a adolygwyd gan y CLIL cyn eu cyflwyno i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.
Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD:-
· Dynodi swydd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog 151 cyfredol yn Gyfarwyddwr Adnoddau/Swyddog 151; · Y bydd diweddariad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Penodiadau a gynhelir ar 1 Gorffennaf, 2019 yn dilyn cwblhau’r adolygiad o’r strwythur uwch reolwyr. |
|
Cau allan y wasg a'r cyhoedd PDF 19 KB Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-
“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”
Cofnodion: PENDERFYNWYD mabwysiadu’r isod:-
“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gyrru’r wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem â ganlyn oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn ôl y diffiniad ym Mharagraff 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”
|
|
Apwyntio Staff Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc
Ystyried y ceisiadau ar gyfer y swydd uchod.
Mae copȉau o’r Disgrifiad Swydd, y Manylion Personol ar ffurflenni cais ynghlwm. Cofnodion: Derbyniwyd 3 chais ar gyfer y swydd uchod.
PENDERFYNWYD y bydd 2 gais yn mynd ymlaen i gam nesaf y broses benodi. |
|
Cau allan y wasg a'r cyhoedd PDF 19 KB Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-
“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”
Cofnodion: PENDERFYNWYD mabwysiadu’r isod:-
“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gyrru’r wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem â ganlyn oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn ôl y diffiniad ym Mharagraff 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”
|
|
Ystyriaeth o unrhyw swyddi pellach i'w hysbysu Cyflwyno adroddiad llafar mewn perthynas a’r uchod. Cofnodion: Rhoes y Pennaeth Proffesiwn Adnoddau Dynol a Thrawsnewid adroddiad llafar ar yr uchod.
PENDERFYNWYD dirprwyo’r awdurdod i Arweinydd y Cyngor, yr Aelod Portffolio perthnasol a’r Pennaeth Proffesiwn Adnoddau Dynol a Thrawsnewid i drafod yr amser priodol i hysbyseb’r swydd a drafodwyd yn y cyfarfod. |