Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Virtual Meeting (at present members of the public are unable to attend)

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Dim.

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 83 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 14 Chwefror, 2020.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Ionawr, 2020 a cadarnhawyd eu bod yn gofnod cywir.

 

3.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 19 KB

‘O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.’

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:-

 

“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygolrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno.”

 

4.

Apwyntio Staff

Cyfarwyddwr Lle, Llesiant a Chymunedol

 

Derbyn adroddiad llafar gan y Prif Weithredwr.

Cofnodion:

Cyfarwyddwr Lle a Llesiant Cymunedol

 

Cyflwynodd y Prif Weithredwr ei hadroddiad ysgrifenedig a oedd wedi’i gylchredeg ymlaen llaw a rhoddodd adroddiad llafar mewn perthynas â’r swydd uchod. 

 

Bu’r Prif Weithredwr argymell y dylai teitl y swydd adlewyrchu’n well y cyfrifoldebau sy’n gysylltiedig â’r swydd ac y dylid ei newid i ‘Cyfarwyddwr Rheoleiddio a Lle’ ac y dylid hysbysebu’r swydd cyn gynted â phosibl.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·           diwygio teitl y swydd i ‘Cyfarwyddwr Rheoleiddio a Lle’;

·           hysbysebu’r swydd cyn gynted â phosibl.