Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio - Dydd Mawrth, 3ydd Rhagfyr, 2019 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

Yn absenoldeb y Cadeirydd, cadeiriwyd y cyfarfod gan yr Is-Gadeirydd, Mr Jonathan Mendoza; etholwyd y Cynghorydd Dylan Rees i weithredu fel Is-Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod hwn yn unig. Esboniodd y Cadeirydd fod y Cynghorydd Peter Rogers, Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu, yn gwella yn dilyn llawdriniaeth ddiweddar ar ei ben-glin. Ar ran aelodau'r Pwyllgor, dymunodd yn dda i'r Cynghorydd Rogers am adferiad llawn a buan.

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem of fusnes.

Cofnodion:

Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 453 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu a gynhaliwyd ar 3 Medi, 2019.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu a gynhaliwyd ar 3 Medi, 2019, a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

3.

Cyngor Sir Ynys Môn: Llythyr Archwilio Blynyddol 2018/19 pdf eicon PDF 214 KB

Cyflwyno’r Llythyr Archwilio Blynyddol am 2018/19.

Cofnodion:

Cyflwynwyd y Llythyr Archwilio Blynyddol ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn am 2018/19 i'w ystyried gan y Pwyllgor. Cadarnhaodd y Llythyr y canlynol -

 

           Roedd y Cyngor wedi cydymffurfio â'i gyfrifoldebau mewn perthynas ag adrodd ariannol a defnyddio adnoddau.

           Mae'r Archwilydd Cyffredinol yn fodlon bod gan y Cyngor drefniadau priodol ar waith i sicrhau darbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd wrth ddefnyddio ei adnoddau, a

           Ar 12 Medi, cyhoeddodd yr Archwilydd Cyffredinol farn archwilio ddiamod ar y datganiadau cyfrifyddu, gan gadarnhau eu bod yn cyflwyno darlun gwir a theg o sefyllfa ariannol a thrafodion y Cyngor. Adroddwyd ar y materion allweddol a gododd o'r archwiliad i gyfarfod y Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ym Medi 2019.

 

O ran y datganiad yn y Llythyr Archwilio bod yr Archwilydd Cyffredinol yn dymuno tynnu sylw at y ffaith ei fod wrthi’n cynnal adolygiad o gynaliadwyedd ariannol y Cyngor, dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 fod yr Archwilwyr wedi cynnal cyfweliadau â nifer o uwch staff y Cyngor yn ogystal ag Aelodau Etholedig perthnasol fel rhan o ymarfer y maent yn ei gynnal i adolygu cynaliadwyedd ariannol pob un o’r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru. Y bwriad oedd cyflwyno'r canfyddiadau drafft i'r Cyngor erbyn y Nadolig; unwaith y bydd yr adroddiad canlyniadol wedi'i gwblhau fe’i cyflwynir i gyfarfod nesaf y Pwyllgor hwn.

 

Penderfynwyd derbyn a nodi'r Llythyr Archwilio Blynyddol ar gyfer 2018/19 heb wneud sylw pellach.

 

4.

Adroddiad Blynyddol Diogelwch Seiber 2019 pdf eicon PDF 471 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol Seiberddiogelwch 2019 i’w ystyried gan y Pwyllgor. Roedd yr adroddiad yn crynhoi'r bygythiadau seiber y mae’r Cyngor yn eu hwynebu ac yn rhoi trosolwg o rai o'r camau lliniaru sydd gan y Cyngor ar waith i wrthsefyll y bygythiadau hyn.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth a Rheoli Perfformiad TG fod seiberddiogelwch yn risg sylweddol i'r Cyngor, fel sy’n wir hefyd am sefydliadau eraill sy'n dal llawer iawn o wybodaeth, gan gynnwys gwybodaeth sensitif, bersonol ac ariannol. Mae llawer iawn o sôn am ymosodiadau seiber yn y newyddion y dyddiau hyn ac mae ymosodiadau proffil uchel yn digwydd bob wythnos a hyd yn oed yn bob dydd. Mae ymosodiadau seiber yn amrywio o ran eu dull a'u cymhlethdod ond maent yn gyson yn eu bwriad i darfu, difrodi neu ddwyn. Mae'r Cyngor yn cydnabod y risg o ymosodiadau seiber ac mae’r risg honno wedi ei chofnodi felly yn y Gofrestr Risg Gorfforaethol sy'n cael ei monitro gan yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth.

 

Cyfeiriodd y Swyddog at y gwahanol fathau o ymosodwyr seiber a'u cymhellion, ynghyd â’r amrywiaeth o ymosodiadau seiber sy’n digwydd. Amlinellodd yn gyffredinol y camau lliniaru sydd gan y Cyngor ar waith i leihau a rheoli’r risg gan gynnwys yr isod -

 

           Maleiswedd – rhaglenni neu godau maleisus sy'n ceisio difrodi neu anablu cyfrifiaduron, gweinyddwyr, rhwydweithiau a dyfeisiau cyfrifiadurol eraill. Mae holl gyfrifiaduron a gweinyddwyr y Cyngor yn gweithredu meddalwedd gwrth-faleiswedd sy'n sganio am nodweddion codau maleisus ac sy’n rhwystro mynediad i gyfrifiaduron y Cyngor os darganfyddir rhai.

           Gwendidau mewn meddalwedd - diffygion neu fylchau mewn côd meddalwedd yw’r rhain ac os yw ymosodwr yn manteisio i’r eithaf ar y fath wendidau gallant beri i'r feddalwedd ymddwyn mewn modd annymunol ac annisgwyl. Os yw’r feddalwedd yn gyfredol ac yn dal i gael ei chefnogi gan y cyflenwr, mae pecynnau côd sydd wedi'u cywiro, sef “diweddariadau” neu “drwsiadau” ar gael i fynd i'r afael â’r gwendidau hyn ac i gau'r bwlch diogelwch posib. Roedd y Cyngor wedi mabwysiadu Windows 10 yn gynnar ac ar ôl hynny symudodd i ffwrdd o’r drefn o osod meddalwedd cymwysiadau ar bob cyfrifiadur (a oedd yn faich sylweddol o ran rheoli diweddariadau diogelwch) i drefn o rithioli cymwysiadau, gan olygu bod prif gopi ar gyfer pob cymhwysiad yn rhedeg ar weinydd canolog y mae gan bob cyfrifiadur neu liniadur fynediad iddo - felly dim ond un copi y mae’n rhaid ei gadw'n gyfredol a'i reoli. Mae'r Cyngor yn trefnu ymhellach i hacwyr moesegol trydydd parti gynnal asesiadau ar ba mor fregus yw rhwydweithiau'r Cyngor

           Bygythiadau mewnol – sef gweithredoedd damweiniol gan staff, gweithredoedd

maleisus gan staff neu weithredoedd gan gontractwyr. Mae'r Cyngor wedi chwarae rhan flaenllaw yn y broses o gaffael pecyn E-Ddysgu dwyieithog Cymru gyfan ar ymwybyddiaeth seiber; mae'n gweithredu proses Safonau Diogelwch Safonol ar gyfer Staff (BPSS) sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r holl staff a chanddynt fynediad at ddata sensitif swyddogol o swyddfa'r cabinet gyflwyno prawf adnabod, prawf cenedligrwydd a chael eu gwirio gan y Gwasanaeth Datgelu a  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli'r Trysorlys 2019/20 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'w ystyried gan y Pwyllgor, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 ar y sefyllfa a’r gweithgareddau rheoli trysorlys hanner ffordd trwy flwyddyn ariannol 2019-20.

 

Amlygodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 y canlynol -

 

           Nad oes unrhyw newidiadau polisi i'r Datganiad ar y Strategaeth Rheoli Trysorlys a gymeradwywyd gan y Cyngor Llawn ar 27 Chwefror, 2019. Mae'r adroddiad yn diweddaru'r sefyllfa yng ngoleuni'r sefyllfa economaidd ddiweddaraf a'r newidiadau cyllidebol a gymeradwywyd eisoes.

           O ran ei bortffolio buddsoddi, ‘roedd gan y Cyngor £18.551m o fuddsoddiadau ar 30 Medi, 2019 (£14.333m ym mis Mawrth, 2019) a’r elw o’r portffolio buddsoddi am chwe mis cyntaf y flwyddyn oedd 0.62%. ‘Roedd Atodiad 3 yn cynnwys rhestr lawn o’r  buddsoddiadau fel yr oeddent ar 30 Medi, 2019 ac roedd crynodeb o'r buddsoddiadau a'r cyfraddau i’w weld yn Atodiad 4. Nid aethpwyd dros y terfynau a gymeradwywyd yn y Strategaeth Fuddsoddi Flynyddol yn ystod chwe mis cyntaf 2019/20.

           Yr incwm y mae’r Cyngor wedi cyllidebu y bydd yn ei dderbyn o’i fuddsoddiadau ar gyfer y cyfan o 2019/20 yw £0.031m ac mae’r perfformiad am y flwyddyn hyd yma’n uwch na’r

gyllideb, gyda £0.041m wedi’i dderbyn ar ddiwedd Chwarter 2 oherwydd buddsoddi arian dros ben gydag awdurdodau lleol eraill sydd wedi creu enillion gwell na phe bai’r arian mewn cyfrif galw gyda banc. Mae'r tabl yn 5.7 yn dangos rhestr o fuddsoddiadau a wnaed gydag awdurdodau lleol eraill yn ystod hanner cyntaf blwyddyn ariannol 2019/20. O ystyried mai diogelwch yr arian yw dangosydd allweddol y Cyngor hwn, ystyrir mai awdurdodau lleol eraill yw’r ffordd fwyaf diogel o fuddsoddi arian y Cyngor hwn a gwneud hynny’n cynhyrchu mwy o enillion na'r mwyafrif o gyfrifon galw gyda banc.

           O ran benthyca, mae'r Cyngor wedi rhagweld y bydd wedi cael benthyg £127.6m erbyn diwedd y flwyddyn ac y bydd wedi defnyddio £12.6m o gronfeydd llif arian yn lle benthyca. Mae hwn yn ddull darbodus a chost-effeithiol o weithredu yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni ond parheir i’w fonitro. Ni chymerwyd benthyg unrhyw arian yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn ariannol hon ac ni ragwelir y bydd angen benthyciadau  allanol ychwanegol yn ystod ail hanner y flwyddyn ariannol. Bydd gofyn benthyg arian i gyllido rhan o raglen gyfalaf 2019/20, ond benthyca mewnol fydd hynny.

           Ar 9 Hydref, 2019, cyhoeddodd y Trysorlys a’r Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus (PWLB) gynnydd o 100 pwynt sylfaen neu 1% yn y gyfradd fenthyca. Ni chafwyd rhybudd ymlaen llaw gan olygu bod yn rhaid i bob awdurdod lleol ailasesu'n sylfaenol sut i ariannu eu hanghenion benthyca allanol ac ymarferoldeb ariannol y prosiectau cyfalaf sydd ganddynt yn eu rhaglenni cyfalaf oherwydd y cynnydd annisgwyl yn y gost o fenthyca. Er bod yr Awdurdod hwn wedi dibynnu’n flaenorol ar y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus fel ei brif ffynhonnell ariannu, mae'n rhaid iddo  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Diweddariad Archwilio Mewnol pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'w ystyried gan y Pwyllgor, adroddiad y Pennaeth Archwilio Mewnol a Risg a oedd yn rhoi diweddariad ar gynnydd a wnaed gan y Gwasanaeth Archwilio Mewnol o ran darpariaeth gwasanaeth, darparu sicrwydd ac adolygiadau a gwblhawyd.

 

Adroddodd y Pennaeth Archwilio a Risg ar y prif ystyriaethau fel a ganlyn -

 

           Bod pum adroddiad wedi'u cwblhau yn ystod y cyfnod a oedd oll yn archwiliadau ardystio grantiau – sef Grant Datblygu Disgyblion (Plant sy'n Derbyn Gofal); Dyfarniadau Tâl Athrawon a Phwysau Cost; Grant Datblygu Disgyblion (Mynediad); Grant Dysgwyr o Gefndir Ethnig, Lleiafrifol, Sipsi, Roma neu Deithwyr a Grant Costau Prydau Ysgol Am Ddim Ychwanegol oherwydd cyflwyno Credyd Cynhwysol (Darparwyd copïau i aelodau'r Pwyllgor). Cynhyrchodd y pedwar adolygiad cyntaf farn Sicrwydd Sylweddol tra bod y pumed wedi cael sgôr Sicrwydd Rhesymol. Ni nododd y Gwasanaeth Archwilio Mewnol bod unrhyw risgiau yr oedd angen i reolwyr roi sylw iddynt yn unrhyw un o'r pum adolygiad.

           Daeth yr ail adolygiad dilyn-i-fyny o’r maes Dyledwyr Amrywiol (roedd yr adolygiad gwreiddiol a'r adolygiad dilyn-i-fyny cyntaf wedi dyfarnu barn Sicrwydd Cyfyngedig) i'r casgliad bod y Rheolwyr wedi gwneud llawer o waith i fynd i'r afael â'r materion / risgiau yr oedd angen rhoi sylw iddynt ar ôl yr adolygiad dilyn-i-fyny cyntaf ac felly roedd y Gwasanaeth Archwilio Mewnol wedi medru cynyddu'r lefel sicrwydd i Sicrwydd Rhesymol. Fodd bynnag, yng ngoleuni'r ffaith bod 8 mater / risg yn parhau i fod heb eu datrys (sy'n cael sylw ar hyn o bryd) ac effaith bosib y rhain yn y meysydd hynny, bydd y Gwasanaeth Archwilio Mewnol yn rhoi sylw i’r cynllun gweithredu eto ym mis Mai, 2020.

           Bod dau adroddiad dilyn-i-fyny gyda sgôr Sicrwydd Cyfyngedig yn mynd rhagddynt ar hyn o bryd - Casglu Incwm Ysgolion Cynradd a Thaliadau Uniongyrchol. Mae yna hefyd adolygiad dilyn-i-fyny o Archwiliad Llywodraethu Gwybodaeth Ysgolion a gynhaliwyd gan ymgynghorydd allanol ac na ddarparwyd sgôr sicrwydd ar ei gyfer. Mae dau adolygiad dilyn-i-fyny wedi'u hamserlennu ar gyfer y chwe mis nesaf - Rheolaethau System: Mynediad Rhesymegol a Gwahanu Dyletswyddau, a Dyledwyr Amrywiol. Efallai y bydd mwy hefyd ond mae hynny’n dibynnu ar y sicrwydd a ddarperir ar gyfer adolygiadau a gynhelir trwy gydol y flwyddyn.

           Bod perfformiad rheolwyr wrth fynd i'r afael â materion / risgiau a gweithredu camau yn parhau i wella. Nid oes unrhyw faterion / risgiau Uchel neu Goch angen sylw ar hyn o bryd ac mae perfformiad o ran mynd i'r afael â materion / risgiau sydd â sgôr Ambr wedi gwella ers rhoi’r diweddariad diwethaf i'r Pwyllgor ar 3 Medi ac mae’r ganran weithredu gyffredinol ar gyfer materion / risgiau Uchel / Coch / Ambr yn 94%. Mae perfformiad wrth fynd i'r afael â risgiau Canolig / Melyn wedi gwella hefyd. Fodd bynnag, llesteiriwyd y cynnydd yr oedd modd ei wneud gyda gweithredu'r fersiwn newydd o'r system tracio camau gweithredu oherwydd mater a oedd yn ymwneud â chydnawsedd TG ac nad yw ond wedi'i ddatrys yn ddiweddar.

           Bod gwaith yn mynd rhagddo ar hyn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Adolygu Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu pdf eicon PDF 583 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg yn ymgorffori cylch gorchwyl y Pwyllgor i ddibenion adolygu.

 

Adroddodd y Pennaeth Archwilio a Risg fod Blaenraglen y Pwyllgor yn darparu ar gyfer cynnal adolygiadau rheolaidd o'i gylch gorchwyl ac ystyrir bod hynny’n arfer dda. Cymeradwyodd yr adolygiad diwethaf ym mis Medi 2018 gylch gorchwyl a ddiwygiwyd ac a ddiweddarwyd yn llawn er mwyn sicrhau ei fod yn gyson â chanllawiau a gyhoeddwyd gan CIPFA. Oherwydd bod y cylch gorchwyl wedi ei ddiwygio’n llawn yn 2018, cynhaliwyd ymgynghoriad sylweddol ac eang i ofyn barn rhanddeiliaid. Gan na chyhoeddwyd unrhyw ganllawiau penodol newydd ar gyfer y sector hwn ac oherwydd na fu unrhyw newidiadau sylweddol eraill sy'n effeithio ar y cylch gorchwyl, cynhaliwyd ymgynghoriad cyfyngedig gyda'r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 ac ymgynghorydd o CIPFA. Ni nodwyd unrhyw newidiadau sylweddol a'r unig newid oedd y newid yn nheitl swydd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog 151. Os mai dyna’r achos o hyd, gellir diweddaru'r cylch gorchwyl heb fod angen cymeradwyaeth gan y Pwyllgor Gwaith a'r Cyngor Llawn.

 

Gan gyfeirio at adrannau 30 i 33 o'r cylch gorchwyl a oedd yn ymwneud â thwyll a llygredd, amlygodd y Swyddog fod gwaith y Pwyllgor yn y maes hwn wedi bod yn gyfyngedig hyd yn hyn - mae'r Gwasanaeth Archwilio Mewnol wrthi ar hyn o bryd yn gwneud darn o waith ar dwyll a llygredd gyda'r bwriad o ddod ag adroddiad i gyfarfod y Pwyllgor yn Ebrill, 2020 a fydd yn cynnwys asesiad o’r risg o dwyll yn ogystal â throsolwg o dwyll am y flwyddyn.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y cylch gorchwyl a gofynnodd a oes unrhyw gyrff heblaw CIPFA yn ymwneud â chyfrifoldebau Pwyllgorau Archwilio yng Nghymru. Cyfeiriwyd hefyd at gyflwyniad gan Swyddfa Archwilio Cymru i’r cyfarfod cyntaf o'r 22 o Gadeiryddion Pwyllgorau Archwilio lle'r oedd y canllawiau a ddarparwyd yn wahanol i gylch gorchwyl y Pwyllgor hwn, yn benodol o ran aelodaeth pwyllgorau archwilio.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Archwilio a Risg mai CIPFA yw'r prif gorff o ran cynhyrchu arweiniad ar swyddogaethau pwyllgorau archwilio. Mewn perthynas â chyflwyniad Swyddfa Archwilio Cymru eglurodd fod rhan o'r cyflwyniad yn ymwneud â chynigion a gynhwysir yn y Mesur Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) sy'n cyflwyno diwygiadau etholiadol a threfniadau llywodraethu newydd ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru a fydd, pan gaiff ei ddeddfu, yn debygol o arwain at newidiadau gan gynnwys newid yn aelodaeth y pwyllgor hwn. Ar hyn o bryd, mae aelodaeth a chylch gorchwyl y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru). Mewn ymateb i gais am ddiweddariad ar y trefniadau i'r Pwyllgor gynnal hunanasesiad, dywedodd y Swyddog, gan fod y cyfarfod o’r 22 o gadeiryddion archwilio yn gwneud darn o waith ar effeithiolrwydd pwyllgorau archwilio, byddai’n synhwyrol i oedi cyn cynnal yr hunanasesiad, a hynny er mwyn osgoi dyblygu. Mae  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Blaen Raglen Waith pdf eicon PDF 265 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.

Cofnodion:

Cyflwynwyd Blaenraglen y Pwyllgor i’w hadolygu ac fe’i cymeradwywyd heb ei newid.

9.

Gwahardd y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 388 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol -

“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gall olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd amgaeëdig.”

 

Cofnodion:

Penderfynwyd o dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygolrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd a gyflwynwyd.

10.

Polisi Gwirio ar sail Risg

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 a oedd yn ceisio sylwadau'r Pwyllgor ar bolisi arfaethedig i wirio ar sail risg. Roedd yr adroddiad yn nodi sut y penderfynwyd ar y grwpiau risg ar gyfer y Polisi arfaethedig; yr arbedion / manteision a ddisgwylir a sut byddai'r polisi'n cael ei weithredu a'i fonitro.

 

Adroddodd y Rheolwr Budd-daliadau fod y Gwasanaeth Budd-daliadau ar hyn o bryd yn gwneud yr un lefel o waith gwirio ar gyfer pob achos. Dyma'r lefel wirio sylfaenol fel y nodir yn fframwaith yr Adran Gwaith a Phensiynau ond nid yw’r fframwaith hwnnw’n cael ei ddefnyddio mwyach. Gan fod y gwaith yn llafurddwys, mae'n ei gwneud hi'n anoddach rhoi ffocws ychwanegol ar achosion penodol ac mae’n cyfyngu ar y gallu i adolygu’r achosion hynny lle mae'r risg o dwyll / camgymeriad ar ei uchaf. Er bod yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi caniatáu disgresiwn i awdurdodau weithredu eu prosesau eu hunain ar gyfer gwirio risg ers 2011, nid yw'r Awdurdod wedi ymrwymo i wneud hynny tan nawr. Mae adolygiad o brosesau a'r gostyngiad mewn achosion Budd-dal Tai wedi arwain at ailystyried hyn i weld a yw'n cael ei wneud yn y ffordd fwyaf effeithiol.

 

Er mwyn cynorthwyo i sefydlu ym mha gategori o hawlwyr y mae’r risg fwyaf o newid, gwnaed dadansoddiad ym mis Mehefin 2019 o'r holl achosion lle gordalwyd hawlwyr  oherwydd camgymeriad a wnaed gan yr hawlwyr eu hunain. Rhoddwyd sylw i’r rhesymau dros y gordaliadau yn ogystal â phroffil o sefyllfa'r hawlydd. Dadansoddwyd yr hawliadau a dderbyniwyd ym mis Mawrth ac Ebrill 2019 hefyd i ddarganfod i ba grŵp risg y byddai'r rhain yn disgyn. Mae'r adroddiad yn nodi canfyddiadau'r dadansoddiadau hynny gan gynnwys yr elfennau o’r hawliadau a gafodd sylw er mwyn pennu'r grŵp risg. Aseswyd yr effaith ar y gwasanaeth ac fe'i crynhoir yn yr adroddiad. Yn ogystal, cynhaliwyd Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb i weld a fydd y newid arfaethedig yn y dull o weithredu yn cael mwy o effaith  ar grwpiau penodol o hawlwyr.

 

Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad ac wrth ystyried amcanion y polisi newydd o geisio canolbwyntio adnoddau ar yr achosion hynny lle mae anghysondebau / camgymeriadau yn debygol o ddigwydd h.y. y rheini yn y categori risg uchel, mynegodd rai amheuon ynghylch y fethodoleg a fabwysiadwyd mewn perthynas â’r elfennau o’r hawliadau a ystyriwyd ac amlygodd yn benodol anawsterau posib gyda'r dadansoddiad grŵp oedran a'r ffordd y penderfynwyd ar yr ystod oedran gan ei fod yn credu y gallai arwain at broffil risg anghywir a fyddai’n gogwyddo’r casgliad y daethpwyd iddo tuag at grŵp oedran penodol. Awgrymodd y Pwyllgor efallai yr hoffai'r Swyddogion feddwl am y rhan hon o'r polisi cyn ei gyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith i'w gymeradwyo; argymhellodd y Pwyllgor ymhellach y dylid cymryd sampl ar hap o achosion o bob grŵp oedran, pob  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10.