Rhaglen a chofnodion

Cyfarfod Hybrid - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni /Yn rhithiol drwy Zoom, Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio - Dydd Mawrth, 18fed Ebrill, 2023 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 - Swyddfeydd y Cyngor/Yn rhithiol drwy Zoom

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

 

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 371 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a gynhaliwyd ar 7 Chwefror, 2023.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a gynhaliwyd 7 Chwefror, 2023 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

Mewn perthynas â'r camau pellach dan eitem 8 ar y cofnodion ynghylch statws y Gofrestr Risg Strategol fel eitem eithriedig ynteu gyhoeddus ar raglen y Pwyllgor, cadarnhaodd y Pennaeth Archwilio a Risg ei fod wedi cymryd cyngor gan y Prif Weithredwr a'r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/ Swyddog Monitro yn ôl y gofyn ac, wrth symud ymlaen, byddai’r Gofrestr Risg Strategol yn cael ei thrafod mewn sesiwn agored.

 

3.

Archwilio Allanol:Cyngor Sir Ynys Môn - Crynodeb Archwilio Blynyddol 2022 pdf eicon PDF 218 KB

Cyflwyno adroddiad Archwilio Cymru.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor er gwybodaeth adroddiad Archwilio Cymru, oedd yn crynhoi’r gwaith a gwblhawyd gan Archwilio Cymru ers y Crynodeb Archwilio Blynyddol diwethaf yn 2021,. Roedd y crynodeb yn rhan o ddyletswyddau Archwilydd Cyffredinol Cymru oedd yn cwmpasu gwelliant parhaus; archwilio cyfrifon; gwerth am arian a'r egwyddor datblygu cynaliadwy.

 

Rhoddodd Yvonne Thomas, Rheolwr Archwilio Ariannol Archwilio Cymru drosolwg o’r gwaith archwilio ariannol a wnaed yn ystod y cyfnod, gan gadarnhau bod yr Archwilydd Cyffredinol, 31 Ionawr, 2023, wedi rhoi barn wir a theg ddiamod ar ddatganiadau ariannol y Cyngor. Roedd yr Archwilydd Cyffredinol, hefyd, yn gyfrifol am ardystio nifer o hawliadau grant. Roedd gwaith archwilio’r ffurflenni Pensiwn Athrawon a Threthi Annomestig bellach wedi’i gwblhau. Ardystiwyd Cymhorthdal Budd-daliadau Tai 2019-20 ar 22 Rhagfyr, 2022, a, bellach, roedd cynnydd sylweddol wedi’i wneud ar archwilio Cymhorthdal Budd-daliadau Tai 2020-21.

 

Cyfeiriodd Alan Hughes, Arweinydd Perfformiad Archwilio Cymru at waith a wnaed i adolygu trefniadau gwerth am arian y Cyngor oedd yn canolbwyntio ar agweddau yn ymwneud â Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 a chynlluniau lleihau carbon. Yn ystod 2021-22, cynhaliwyd gwaith i archwilio sut roedd cynghorau’n cryfhau eu gallu i drawsnewid, addasu a chynnal y modd y darperid gwasanaethau, gan ganolbwyntio, yma ar Ynys Môn, ar reolaeth strategol y Cyngor o’i asedau a’i weithlu trwy’r adolygiad ‘Llamu Ymlaen’. Adolygwyd, hefyd, gynnydd y Cyngor wrth brosesu’r hawliad Cymhorthdal Budd-daliadau Tai’n gywir a’i ardystio’n amserol. Roedd canfyddiadau'r gwaith adolygu ac ymateb y Cyngor iddynt, ac eithrio Llythyr Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, wedi'u hadrodd i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a byddai diweddariad ar yr eitem oedd yn disgwyl sylw’n cael ei roi maes o law. Yn ogystal â gwaith lleol ym mhob cyngor, cynhelid astudiaethau ar draws y sector llywodraeth leol er mwyn gwneud argymhellion i wella gwerth am arian ac roedd disgwyl i gynghorau ystyried yr argymhellion hynny a’u rhoi ar waith, lle y bo’n berthnasol. Roedd yr astudiaethau a gyhoeddwyd ers yr adroddiad gwella blynyddol diwethaf wedi'u nodi yn yr adroddiad.

 

Wrth ystyried adroddiad cryno’r archwiliad, cododd y Pwyllgor y pwyntiau a ganlyn yn benodol mewn perthynas â’r datganiad o ffeithiau allweddol -

 

  • Eglurhad o'r ail ffaith allweddol lle dywedwyd yr ystyriwyd bod 2.3% o 44 ardal Cyngor Sir Ynys Môn yn cael ei ystyried o fewn 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.
  • Effaith bosibl poblogaeth sy'n lleihau - rhagwelwyd y byddai poblogaeth yr Ynys yn gostwng 1% rhwng 2020 a 2040 - ar gynllunio a darparu gwasanaethau.
  • Cydnabod bod cynnydd a ragwelwyd o 23% yn nifer y bobl 65 oed a throsodd yn debygol o achosi her i ddarparu gwasanaethau awdurdodau lleol

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod gan Awdurdod Lleol Ynys Môn 44 “ardal”, y cyfeirid atynt, hefyd, yn Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (LSOA). Roedd un o’r 44 LSOA yn Ynys Môn o fewn 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru, oedd yn cyfateb i 2.3%. Cadarnhawyd bod y ffigyrau yn seiliedig ar y wybodaeth orau oedd ar gael, bod niferoedd y boblogaeth yn amrywio a nifer o ffactorau  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Archwilio Allanol: Rhaglen Waith ac Amserlen Archwilio Cymru - Cyngor Sir Ynys Môn pdf eicon PDF 251 KB

Cyflwyno adroddiad Archwilio Cymru.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor adroddiad Archwilio Cymru yn ymgorffori’r diweddariad chwarterol, 31 Rhagfyr 2022, ar gynnydd rhaglen waith ac amserlen Archwilio Cymru. Wedi ei gynnwys yn yr adroddiad, hefyd, roedd diweddariad ar statws gwaith gan Estyn ac Arolygiaeth Gofal Cymru.

 

Rhoddodd Yvonne Thomas, Rheolwr Archwilio Ariannol Archwilio Cymru'r sefyllfa ddiweddaraf i’r Pwyllgor ynghylch cynnydd y gwaith archwilio ariannol, gan gadarnhau bod gwaith archwilio datganiadau ariannol y Cyngor wedi’i gwblhau ym mis Ionawr, 2023; y ffurflen ar gyfer Trethi Annomestig wedi’i hardystio ym mis Mawrth, 2023 a chyfraniadau Pensiwn Athrawon ar gyfer 2021-22 wedi’u harchwilio ddechrau mis Ebrill, 2023. Roedd gwaith ardystio’r ffurflen Grant Cymhorthdal Budd-daliadau Tai ar gyfer 2020-21 yn dal i fynd rhagddo ac roedd gwaith ar Ffurflen Grant Cymhorthdal Budd-daliadau Tai ar gyfer 2021-22 wedi dechrau.

 

Cadarnhaodd Alan Hughes, Arweinydd Perfformiad Archwilio Cymru, fod y rhan fwyaf o waith archwilio perfformiad 2021-22 wedi’i gwblhau a bod y gwaith dan raglen archwilio perfformiad 2022-23 yn mynd rhagddo ar wahanol gamau, fel y’i dogfennid yn yr adroddiad, gydag amserlen y rhaglen wedi llithro ychydig. Fodd bynnag, roedd yn disgwyl y byddai’n adrodd i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn y misoedd nesaf ar ganlyniad yr adolygiadau a restrwyd.

 

Wrth nodi nad oedd ardystiad y Cymhorthdal Grant Budd-daliadau Tai yn dal i fod yn gyfredol, gofynnodd y Pwyllgor i'r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 egluro'r sefyllfa.

 

Cyfeiriodd y Swyddog Adran 151 at broses ardystio ffurflenni hawlio cymhorthdal grant Budd-daliadau Tai ac eglurodd fod canlyniad gwaith archwilio’r cyfryw ffurflen yn dylanwadu ar waith y flwyddyn ddilynol cymaint â bod gwallau a nodwyd gan yr archwilwyr ar ddiwedd archwiliad un flwyddyn yn golygu y gofynnir i'r Cyngor gynnal profion CAKE ychwanegol y flwyddyn ganlynol. Roedd hyn yn golygu gwaith ychwanegol ac os byddai unrhyw wallau pellach yn cael eu hadnabod, yn arwain at brofion ychwanegol y flwyddyn nesaf mewn patrwm ailadroddus oedd wedi cyfrannu at yr ôl-groniad yn y blynyddoedd diwethaf. Hefyd, bu'n her cydlynu capasiti ac amser yr archwilydd allanol a'r Gwasanaeth Cyllid fel bod modd gwneud y gwaith ychwanegol. Er bod ffurflen hawlio grant cymhorthdal Budd-daliadau Tai 2019-20 wedi’i hardystio bellach, bu’n ofynnol cynnal profion pellach arni ar ddechrau proses ardystio 2020-21. Roedd y gwaith hwn i raddau helaeth bellach wedi'i gwblhau ac roedd yr archwilwyr hefyd wedi cwblhau eu profion sampl cychwynnol; roedd angen mynd i'r afael â rhai ymholiadau yn codi o hynny. Er bod y Cyngor yn cynnal profion pellach ar elfennau penodol o wallau a nodwyd o'r profion sampl cychwynnol, y gobaith oedd y gellid ardystio'r hawliad erbyn diwedd mis Mai, 2023. Roedd y Cyngor, hefyd, wedi bod yn gweithio’r un pryd ar ffurflen hawlio cymhorthdal Budd-daliadau Tai 2021/22 ac roedd wedi datblygu elfennau o'r profion CAKE, gyda'r nod o fynd i'r afael â chanlyniadau profion sampl yr archwilwyr dros fisoedd yr haf. Os  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Strategaeth Archwilio Mewnol 2023-24 pdf eicon PDF 656 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg yn ymgorffori’r Strategaeth Archwilio Mewnol ar gyfer 2023/24 i’r Pwyllgor ei ystyried a’i gymeradwyo.

 

Rhoddodd y Pennaeth Archwilio a Risg rywfaint o wybodaeth gyd-destunol i'r strategaeth gan nodi bod digwyddiadau a chynnwrf byd-eang dros y ddwy flynedd ddiwethaf wedi llunio'r amgylchedd risg i'r Cyngor, oedd yn golygu bod cyflwr o argyfwng wedi datblygu i fod y normal newydd. O ran y dull archwilio, tynnodd sylw at y ffaith y byddai Archwilio Mewnol yn defnyddio dull seiliedig ar risg, yn unol â Safon 2010 Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus, gan gysoni gweithgarwch archwilio mewnol â chofrestr risg strategol y Cyngor a chanolbwyntio ar y risgiau cynhenid ​​a raddiwyd yn goch a lle'r oedd y risg weddilliol wedi'i graddio'n goch neu'n oren (roedd rhestr o archwiliadau arfaethedig dan Atodiad A i'r adroddiad). Mabwysiadwyd methodoleg archwilio ystwyth, hefyd, oedd yn caniatáu i'r Archwilwyr Mewnol ymateb i newid wrth i risgiau newydd ddod i'r amlwg neu wrth i flaenoriaethau newid. O ystyried bod seiberddiogelwch a diogelwch data yn parhau i gael eu gweld yn brif fygythiadau mewn arolwg o brif weithredwyr archwilio, roedd Archwilio Mewnol yn cynnig, yn ystod 2023/24, y dylid cynnal rhaglen waith oedd yn cwmpasu’r elfennau TG penodol a nodid yn yr adroddiad gyda chefnogaeth Archwilwyr TG Cyngor Dinas Salford i roi sicrwydd i'r Cyngor y câi ei wendidau TG eu rheoli'n effeithiol. Fel maes risg uchel arall, câi dull y Cyngor o atal twyll ei adolygu’n barhaus a’r Cynllun Ymateb i Dwyll ei ddiweddaru yn unol â hynny. Roedd gwaith archwilio arall, oedd wedi’i gynllunio ar gyfer 2023/24, yn cynnwys rhoi sicrwydd o ran rheoli risgiau partneriaeth ac asesu parodrwydd y Cyngor am y Ddeddf Caffael newydd.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Archwilio a Risg at nifer staff y Gwasanaeth gan gadarnhau y cafwyd aelod newydd o’r tîm yn sgil ymarfer recriwtio llwyddiannus yn ddiweddar a olygai mai dim ond un swydd wag (yn cyfateb ag un swydd llawn amser) ar lefel yr Uwch-archwiliwr oedd gan y gwasanaeth bellach oherwydd secondiad a ddefnyddid i gomisiynu arbenigedd archwilio allanol. Byddai’r penodiad hefyd yn fodd i ailddechrau gwaith ar rai o'r meysydd blaenoriaeth is oedd yn weddill o 2022/23, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad. Gyda lefel cynhyrchiant o 72%, roedd tua 700 diwrnod o adnoddau archwilio ar gael i roi barn sicrwydd blynyddol. Byddai’r gwasanaeth yn parhau i fuddsoddi'n sylweddol mewn hyfforddiant a datblygiad gyda 115 diwrnod yn cael eu clustnodi i'r perwyl hwnnw yn 2023/24.

 

Er mwyn sicrhau gwelliant parhaus yn y Gwasanaeth Archwilio Mewnol, roedd rhaglen sicrhau ansawdd a gwelliant wedi ei sefydlu a chyfres symlach o fesurau perfformiad a thargedau wedi eu mabwysiadu fel y’u hadlewyrchi

d yn y tabl ar dudalen 16 yr adroddiad.

 

Roedd trafodaeth y Pwyllgor a ddilynodd yn canolbwyntio ar yr isod -

 

6.

Diweddariad Archwilio Mewnol pdf eicon PDF 546 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg a roddai’r wybodaeth ddiweddaraf hyd at 31 Mawrth, 2023 am yr archwiliadau a gwblhawyd ers y diweddariad blaenorol i’r Pwyllgor 31 Ionawr, 2023. Roedd yr adroddiad, hefyd, yn nodi llwyth gwaith presennol Archwilio Mewnol a'i flaenoriaethau ar gyfer y tymor byr i'r tymor canolig wrth symud ymlaen. Rhoddwyd copïau i aelodau'r Pwyllgor o'r pum darn o waith sicrwydd a gwblhawyd yn y cyfnod mewn perthynas ag Adennill Dyledion y Cyngor ac Effaith Covid-19 (Yr Ail Ddilyniant) (Sicrwydd Cyfyngedig); Cydymffurfiaeth Rheoleiddio Diogelwch Nwy (Tai) (Sicrwydd Rhesymol), Archwiliad TG – Rheoli’r Cwmwl (Sicrwydd Rhesymol); Taliadau cynhaliaeth cyflenwyr a thaliadau dyblyg (Sicrwydd Rhesymol) ac effeithiolrwydd y Cyngor o ran rheoli ei risg strategol YM11 – Tlodi (Sicrwydd Rhesymol) dan yswiriant ar wahân.

 

Rhoddodd y Pennaeth Archwilio a Risg drosolwg o'r adroddiad gan gynnwys crynodeb o ganlyniad y gwaith a gwblhawyd a'r meysydd gwaith oedd ar y gweill ar hyn o bryd, fel y gwelid yn y tabl ym mharagraff 38 yr adroddiad. Cyfeiriodd at yr Ail adolygiad o’r dilyniant ar Sicrwydd Cyfyngedig mewn perthynas ag Adennill Dyledion y Cyngor ac Effaith Covid-19 oedd wedi ceisio sefydlu a oedd y rheolwyr wedi mynd i'r afael â'r materion/risg oedd yn disgwyl sylw ac a godwyd yn yr adroddiad Sicrwydd Cyfyngedig, dyddiedig Tachwedd, 2021. Er i’r adolygiad ganfod fod y Gwasanaeth wedi gwneud rhywfaint o gynnydd cadarnhaol, ni allai’r Archwilwyr Mewnol gynyddu’r sgôr sicrwydd o Cyfyngedig oherwydd bod y cwmni ymgynghori TG a gomisiynwyd i weithio gyda’r Gwasanaeth i fynd i’r afael â’r materion a’r risgiau a godwyd a gwella prosesau o fewn yr adran Incwm wedi cael eu symud i weithio ar uwchraddio system Capita Revenue. Cadarnhaodd fod Uwch-archwilydd newydd wedi’i benodi ac wedi dechrau yn ei swydd 1 Ebrill, 2023. Dywedodd y câi'r arbedion cyllidebol o’r un swydd wag oedd yn weddill ar lefel yr Uwch-archwiliwr eu defnyddio i gomisiynu cymorth allanol, gan gynnwys gwaith archwilio TG technegol gan Dîm Archwilio yng Nghyngor Salford. Roedd gwaith yn mynd rhagddo i gefnogi gwasanaethau i roi'r holl gamau gweithredu oedd yn disgwyl sylw ar waith, gan gyflwyno gwybodaeth fanylach am statws y camau gweithredu oedd yn disgwyl sylw mewn adroddiad ar wahân i'r cyfarfod.

 

Gofynnodd y Pwyllgor am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y sefyllfa gyda dyledion drwg yng nghyd-destun adroddiad yr ail Ddilyniant (Sicrwydd Cyfyngedig) ar Adennill Dyled y Cyngor ac Effaith Covid-19.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 y bu gostyngiad bychan yn Nhreth y Cyngor a gasglwyd yn ystod y flwyddyn oherwydd yr argyfwng costau byw, yn ôl pob tebyg. Nid proses blwyddyn oedd casglu Treth y Cyngor, o gymryd i ystyriaeth yr ystod o gamau adennill a gorfodi a'r amser yr oedd y rheiny'n ei gymryd i'w gweithredu. Fodd bynnag, nid oedd y gosb  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Materion a Risgiau Sydd Angen Sylw pdf eicon PDF 508 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg ar y cynnydd o ran mynd i’r afael â materion a risgiau oedd yn disgwyl sylw.

 

Dywedodd y Prif Archwilydd wrth y Pwyllgor am yr isod -

 

·          Roedd 49 o gamau gweithredu oedd yn disgwyl sylw yn cael eu holrhain yn y system pedwar cam hyd at 31 Mawrth, 2023, gyda 12 ohonynt wedi'u graddio'nbwysig” (ambr) a 37 yngymedrol” (melyn) mewn blaenoriaeth risg. Ni chodwyd unrhyw faterion/risgiaucochyn ystod y flwyddyn ac nid oedd yr un ohonynt yn disgwyl sylw ar hyn o bryd.

·         Roedd un mater/risg mawr â sgôr, bellach, yn hwyr ac roedd yn ymwneud ag archwilio dyraniadau Tai, yn benodol i ddatblygu a gwella'r broses ymgeisio am dai.

·         Bod Graff 3 yn yr adroddiad yn dangos statws yr holl gamau gweithredu oedd yn disgwyl sylw, waeth pryd oedd y dyddiad rhoi sylw iddynt ac yn dangos bod y rheolwyr bellach wedi mynd i’r afael â 73% a bod Archwilio Mewnol wedi gwirio 70% gyda'r 3% oedd yn disgwyl sylw yn ymwneud ag archwilio gwaith Rheoli Trwydded Meddalwedd a gâi ei ddilyn i fyny ym mis Ebrill, 2023.

·         Roedd y rhan fwyaf o'r camau gweithredu oedd yn dangos nad oeddynt wedi’u dechrau yn ymwneud â sawl archwiliad a gwblhawyd yn ddiweddar, lle nad oedd y camau gweithredu a nodwyd wedi cyrraedd eu dyddiadau cwblhau disgwyliedig eto.

·         Roedd Graff 4 yn dangos statws yr holl gamau gweithredu oedd wedi cyrraedd eu dyddiad targed ac yn dangos yr aethpwyd i'r afael â 99% lle'r oedd angen.

·         O’r 49 o faterion/risgiau oedd yn disgwyl sylw, roedd un oedd wedi’i raddio’n gymedrol neu’n felyn mewn blaenoriaeth risg yn dyddio’n ôl i 2018/19 ac yn ymwneud â gwella gosodiadau cymhlethdod cyfrinair ar gyfer system archebu Hamdden allanol y Cyngor. Bu oedi wrth gytuno ar ddyddiad i fynd yn fyw gyda'r cyflenwr meddalwedd oherwydd materion technegol yr oedd y tîm TG yn gweithio i'w datrys gyda'r cyflenwr.

·         Roedd diweddariad statws manwl o bob un o'r 12 mater/risg fawr oedd yn disgwyl sylw yn cael eu holrhain ar hyn o bryd mewn pedwar cam, i'w gweld yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth (Tai Cymunedol) y wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am y sefyllfa o ran mynd i’r afael â’r materion/risgiau a nodwyd mewn archwiliad o’r broses Ceisiadau Tai ym mis Medi, 2021 lle 50% yn unig ohonynt oedd wedi’u cwblhau ac oedd 12 mis dros y dyddiad targed gwreiddiol, sef Mawrth, 2022. Eglurodd y Swyddog fod y ffurflen gais bapur a anfonwyd at ddarpar ymgeiswyr am dai yn hir a manwl a chanfu'r archwiliad fod y broses ymgeisio yn cymryd llawer o amser a’i fod yn aneffeithlon. Argymhellodd y dylid defnyddio’r system ar-lein yn ei lle. Er mai’r nod oedd ymgorffori’r broses o  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Adolygiad o'r Fframwaith Rheoli Risg pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg yn ymgorffori Polisi a Strategaeth Rheoli Risg newydd arfaethedig ynghyd â Chanllawiau Rheoli Risg cysylltiedig.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Risg ac Yswiriant at brif agweddau'r Polisi Rheoli Risg oedd yn cydnabod y gall risgiau gael effaith ar nodau, amcanion a darpariaeth gwasanaeth; eu bod yn fygythiad a, hefyd, yn darparu cyfleoedd a bod angen eu hadnabod a’u rheoli er mwyn llywio’r broses gwneud penderfyniadau. Roedd y Strategaeth Rheoli Risg yn egluro sut y câi’r polisi ei gyflawni ac yn nodi'r datganiad o ran bod yn barod i dderbyn risg, sef lefel y risg yr oedd y Tîm Arwain yn teimlo bod y Cyngor yn ceisio gweithredu oddi mewn iddi. Roedd y Canllawiau Rheoli Risg yn rhoi manylion y broses i'w dilyn ac yn egluro'r gwahanol ystyriaethau oedd eu hangen, gan ddibynnu ar natur y risg. Roedd y canllawiau'n cynnwys adran newydd ar agweddau cadarnhaol neu gyfleoedd risg. Roedd fersiwn newydd o'r feddalwedd rheoli risg yn cael ei chyflwyno, oedd hefyd yn golygu newid yn y ffordd y câi risg ei sgorio o'r dull alffa-rifol o sgorio risgiau i'r dull rhifol traddodiadol, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Wrth ystyried y dogfennau’r oedd y Pwyllgor yn cydnabod eu bod yn gynhwysfawr, codwyd y pwyntiau a ganlyn -

 

  • Ystod y gosodiadau parodrwydd i dderbyn risg ar gyfer y gwahanol gategorïau risg yn y Datganiad Parodrwydd i Dderbyn Risg a sut y penderfynwyd ar y rhain. Dywedodd y Rheolwr Risg ac Yswiriant y gofynnwyd i bob aelod o'r Tîm Arweinyddiaeth Strategol werthuso'n unigol y parodrwydd i dderbyn risg ar gyfer pob categori risg. Wedi hynny, casglwyd y wybodaeth a ddeilliodd o hynny, diystyrwyd y gwerthoedd uchaf ac isaf a chymerwyd gwerth canolrif y gweddill a gynhyrchodd y gwerthoedd, fel y’u nodir yn y datganiad parodrwydd i dderbyn risg.
  • Y dull a ddefnyddid i reoli risg contract, yn enwedig y rhai yn y sector adeiladu er mwyn lleihau'r risg o golledion ariannol a gorwariant. Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod contractau adeiladu y mae’r Cyngor yn ymrwymo iddynt yn seiliedig ar asesiad o allu contractwr i gyflawni yn ogystal ag ystyriaethau pris a gwerth am arian ac y gwneid gwiriadau diwydrwydd dyladwy. Roedd rheolaethau lliniarol fel arfer ar ffurf bond perfformiad oedd yn cwmpasu cost ail-dendro ac unrhyw gostau uwch a godai o hynny pe na fyddai contractwr yn gallu cwblhau prosiect. Cyflawni lefel o wariant cyfalaf yn unol â dyheadau’r Cyngor e.e. gall adeiladu 45 o gartrefi cyngor newydd bob blwyddyn fod yn anodd oherwydd problemau capasiti contractwyr lleol ac roedd ymgysylltu â chontractwyr o ymhellach i ffwrdd, fel arfer, yn golygu costau uwch. Roedd y Cyngor yn ceisio gweithio gyda chontractwyr lleol mewn ysbryd partneriaid contract ac fel ffynhonnell fusnes tymor hir dibynadwy.
  • Y diffyg cyfeiriad yn y Strategaeth Rheoli Risg  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 8.

9.

Adolygiad o'r Blaen Raglen Waith 2023-24 pdf eicon PDF 251 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i'w ystyried a'i adolygu, adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg yn ymgorffori'r Blaenraglen Waith arfaethedig ar gyfer 2023/24, yn seiliedig ar gylch gorchwyl a chyfrifoldebau'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, ynghyd â rhaglen hyfforddi.

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch amserlennu hyfforddiant newid hinsawdd, dywedwyd wrth y Pwyllgor bod y pecyn hyfforddi newid hinsawdd yn cael ei adolygu er mwyn sicrhau'r ffordd orau o gyflawni'r amcanion hyfforddi.

 

Penderfynwyd derbyn bod y Blaenraglen Waith arfaethedig yn bodloni cyfrifoldebau’r Pwyllgor yn unol â’i gylch gorchwyl.