Rhaglen a chofnodion

Arbennig, Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio - Dydd Iau, 10fed Ebrill, 2014 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

 

2.

Cofnodion Cyfarfod 4 Chwefror, 2014 pdf eicon PDF 226 KB

Bydd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 4ydd Chwefror, 2014 yn cael eu cyflwyno i’w cadarnhau.

Cofnodion:

Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 2 Chwefror.

3.

Uned Cynnal a Chadw'r Gwasanaeth Tai pdf eicon PDF 236 KB

Adrodd ar y camau allweddol a gymerwyd ers y diweddariad blaenorol i’r Pwyllgor Archwilio.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai yn nodi’r camau a gymerwyd hyd yn hyn i adolygu Uned Cynnal a Chadw Busnes y Gwasanaethau Tai.

 

Adroddodd y Gwasanaethau Tai fel a ganlyn 

 

           Roedd ail weithdy gyda staff wedi ei gynnal ac mae cyfarfodydd unigol gyda staff yn cynnwys Swyddogion Rheoli Perfformiad a Swyddogion Ariannol wedi eu cynnal gyda mewnbwn gan Adnoddau Dynol.  Mae gwerthusiad opsiynau cynhwysfawr o ddyfodol gwasanaeth atgyweirio Gwasanaeth Tai wedi ei gynnal ac fe’i cwblhawyd yn Chwefror 2014.  Roedd crynodeb o’r gwerthusiad opsiynau wedi ei gynnwys yn yr adroddiad.

           Daeth y canlyniadau o’r ymarfer gwerthuso i’r casgliad ac argymhelliad y dylid cadw’r gwasanaeth yn fewnol, ond uno’r timau cleient a chontractwr i un gwasanaeth atgyweirio tra y byddai moderneiddio a thrawsnewid y gwasanaeth yn dod â’r manteision gorau posibl i’r gwasanaeth ar gost resymol.

           Roedd yr adroddiad drafft wedi ei dosbarthu i’r UDA ac i Aelodau’r Pwyllgor Gwaith a bydd yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar 17 Ebrill ac wedi hynny i’r Pwyllgor Gwaith.

           Wrth argymell yr opsiwn hwn, roedd y Pennaeth Gwasanaethau Tai wedi nodi nifer o anghenion bydd yn rhaid eu cyflawni er mwyn rhoi sicrwydd i’r Cyngor a’i gydranddeiliaid y bydd lefelau gwasanaeth rhagorol yn cael ei gyflawni yn y dyfodol ac o fewn cyfnod amser rhesymol.  Roedd y rhain wedi eu nodi yn adran 3 yr adroddiad ac ymhelaethwyd arnynt yn y cyfarfod gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

           Yn y cyfnod ers drafftio’r adroddiad a’r cyfarfod o’r Pwyllgor Archwilio, roedd gwaith pellach wedi ei wneud i ddatblygu Cynllun Busnes ac Achos Busnes yn dangos sut y bydd y gwasanaeth yn sicrhau statws o ragoriaeth.

           Roedd y nodweddion allweddol a oedd yn sail i’r opsiwn a argymhellir i’w gweld yn rhan 2 yr adroddiad.

 

Ystyriodd yr Aelodau y wybodaeth a gyflwynwyd a nodwyd y pethau canlynol yn codi o’r adroddiad -

 

           Y dulliau ar gyfer cyflawni’r isafswm targed o £250k o arbedion blynyddol, ac a fyddai’r arbedion hynny yn rhai parhaol ac o dan ba benawdau y byddent yn cael eu cyflawni. 

           Gofynnwyd a oedd ceisio ennill statws rhagoriaeth yn angenrheidiol pan mae darparu gwasanaeth da yn amcan sy’n cael ei dderbyn ac a fydd iddo oblygiadau cost.

           Y gyfran o holl gyllideb atgyweirio a chynnal a chadw y mae’r £250k yn ei gynrychioli.

           Yr agwedd a gymerir gan awdurdodau eraill tuag at gynnal a chadw’r stoc dai cymdeithasol ac a oedd yna unrhyw gyfleon i ddysgu oddi wrth hynny.

           Yr angen i gynnal archwiliadau rheolaidd o’r stoc dai lle y gwnaed buddsoddiadau i sicrhau bod y stoc yn cael ei gynnal a’i gadw ac nad yw tenantiaid yn caniatáu i eiddo fynd â’u pen iddynt.  Awgrymwyd y dylid dweud wrth denantiaid am y costau i’r Cyngor pan nad yw eiddo yn cael ei gynnal a’i gadw’n briodol.

 

Eglurodd Pennaeth  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Asesiad Corfforaethol

Derbyn diweddariad gan y Dirprwy Brif Weithredwraig.

Cofnodion:

Cafwyd cyflwyniad gweledol gan y Dirprwy Brif Weithredwr mewn perthynas a’r Asesiad Corfforaethol o Gyngor Sir Ynys Môn sydd i’w gynnal yn Chwefror 2015 fel rhan o raglen gylchol 4 blynedd Swyddfa Archwilio Cymru o asesiadau corfforaethol awdurdodau lleol.

 

Dygodd y Dirprwy Brif Weithredwr sylw at yr ystyriaethau canlynol 

 

           Y ffactorau sy’n bwysig i ddarparu Asesiad Corfforaethol da.

           Pwrpas yr Asesiad Corfforaethol o ran darparu datganiad sefyllfa o gapasiti a gallu’r Cyngor i sicrhau gwelliant parhaus a’r hyn y mae hynny’n ei olygu o ran archwilio hanes yr Awdurdod mewn perthynas â pherfformiad a chanlyniadau a’r trefniadau allweddol sydd eu hangen i gefnogi gwelliannau mewn gwasanaethau a swyddogaethau.

           Y deilliannau yng nghyswllt darparu sicrwydd bod y trefniadau sydd yn eu lle ar hyn o bryd yn yr awdurdod yn rhesymol ac yn gadarn.

           Y cwestiynau allweddol fydd yn cael eu gofyn ynglŷn â gallu’r Awdurdod o ran cyflawni ei flaenoriaethau ac ar sicrhau gwell canlyniadau i ddinasyddion yr Ynys, y cynnydd gyda chyflawni gwelliannau a gynlluniwyd; gweledigaeth a chyfeiriad strategol; trefniadau llywodraethu ac atebolrwydd; rheolaeth o adnoddau ac effeithlonrwydd ei drefniadau cydweithio a phartneriaeth.

           Bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal gyda’r holl Benaethiaid Gwasanaeth a’u timau rheoli i drafod cwestiynau allweddol gyda golwg ar gael dealltwriaeth ynghylch ble y mae gwasanaethau’r Awdurdod ar hyn o bryd o ran y meysydd y bydd yr Asesiad Corfforaethol yn canolbwyntio arnynt ac i weld ym mhle ac ym mha fodd y mae angen gyrru perfformiad.

           Blaenoriaethau sy’n dod i’r amlwg.

           Y trefniadau a’r strwythur llywodraethu yn cynnwys noddwr prosiect a swyddog cyfrifol.

           Trefniadau cyfathrebu â staff, partneriaid ac Aelodau Etholedig a’r amserlen fydd yn arwain at yr asesiad corfforaethol.

 

Ystyriodd Aelodau’r Pwyllgor y wybodaeth a cheisiwyd cael sicrwydd bod fframwaith yn ei le i sicrhau bod yr hyn sydd angen ei wneud o ran y gwaith paratoadol yn cael ei wneud fel a gynlluniwyd, ac ar amser.  Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr bod tri maes creiddiol o waith o amgylch diffinio a mireinio’r model hunanasesu er mwyn sicrhau ei fod yn gadarn, rheoli prosiect yng nghyswllt dynodi pwy sy’n gwneud beth a phryd a pharatoadau mewn perthynas â chyfathrebu fel bod pawb yn gwybod beth yw’r amcanion.  Fel Swyddog cyfrifol byddai’n gweithio i sicrhau bod y gwaith hwn yn cael ei wneud; bod momentwm yn cael ei sefydlu a’i gadw a bod y cynnydd yn cael ei wneud fel a ragamcanwyd.

 

Penderfynwyd nodi’r wybodaeth.

 

CAMAU GWEITHREDU’N CODI:  Y Dirprwy Brif Weithredwr i gadw’r Cadeirydd ac Is-Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio wedi’u briffio ar gynnydd ar reoli’r paratoadau ar gyfer yr asesiad corfforaethol.

5.

Gwiriad Ffitrwydd Caffael - KPMG pdf eicon PDF 96 KB

Cyflwyno crynodeb o adroddiad KPMG.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er gwybodaeth y Pwyllgor - crynodeb crynhoi ar adolygiad ffitrwydd KPMG o drefniadau caffael Cyngor Sir Ynys Môn.

 

Dywedodd y Pennaeth Caffael Dros Dro wrth y Pwyllgor bod KPMG wedi’i gomisiynu i gynnal adroddiadau ffitrwydd ar drefniadau caffael yr holl Awdurdodau yng Nghymru yn dilyn adolygiad a gomisiynwyd gan Weinidog Cyllid Llywodraeth Cymru i sicrhau fod Polisi Caffael Cymru yn cael y effaith fwyaf bodib.   Roedd yr adolygiad wedi argymell y dylid ailgyflwyno asesiadau gallu ac roedd y Gweinidog wedyn wedi cadarnhau y byddent yn cael eu hailgyflwyno.  Amcan y gwaith gan KPMG oedd penderfynu a oedd gallu caffael sefydliadol yn ddigonol a hefyd i alluogi sefydliadau i nodi eu cryfderau a meysydd ar gyfer eu gwella.  Eglurodd y Swyddog beth fyddai’r fethodoleg fyddai’n cael ei mabwysiadu i gynnal yr adolygiad a chadarnhaodd bod y camau gwella a argymhellwyd i’r Awdurdod yn cydnabod y gweithgareddau sydd eisoes ar droed a rhai a gynlluniwyd ac sydd wedi eu bwriadu i gefnogi’r gweithgareddau hynny a darparu cyngor ymarferol i gefnogi’r gwelliannau hynny. 

 

Gwnaeth Aelodau’r Pwyllgor Archwilio sylwadau i’r perwyl y byddent wedi hoffi cael gweld mwy o fanylion o adroddiad KPMG o ran yr agweddau a archwiliwyd a’r canfyddiadau, o ystyried bod caffael yn faes o ddiddordeb i’r Pwyllgor ac yn un oedd wedi ei nodi fel un oedd angen ei gryfhau. 

 

Ymhelaethodd y Pennaeth Caffael Dros Dro ar brif gasgliadau adroddiad KPMG o dan bob un o’r penawdau a adolygwyd a’r camau oedd yn cael eu hargymell ynghyd â sylwadau eglurhaol a wnaed ynglyn â’r statws cyfredol a’r cyd-destun.  Dywedodd y Swyddog bod gwendidau wedi eu hamlygu mewn nifer o feysydd a bod yr adroddiad yn gyffredinol yn dod i’r casgliad y bydd y manteision o weithredu’r argymhellion ynghyd â’r rhai yn adroddiad Archwilio Mewnol Rhagfyr 2012 yn golygu y bydd gan yr Awdurdod agwedd gyson ac un fydd yn cydymffurfio tuag at gaffael i’r sefydliad ac y bydd yn gweithredu fel sylfaen lle y gellir gwneud gwelliannau i’r dyfodol ac arbedion o ran cost.  Pwysleisiodd y Pennaeth Caffael Dros Dro ei fod wedi trafod y mater o gaffael gyda phob un o’r Penaethiaid Gwasanaeth a’u bod wedi bod yn rhagweithiol yn ceisio atebion i gywiro’r diffygion.  Cadarnhaodd bod y Penaethiaid Gwasanaeth yn hollol gefnogol i’r camau sydd i’w cymryd.  Roedd y strategaeth gaffael wedi ei drafftio hefyd a bydd yn cael ei chyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith ac y mae rheolau gweithdrefn contract newydd yn cael sylw gan yr Adain Gyfreithiol a bydd hyn i gyd yn ychwanegu at y manteision.

 

Dywedodd y Rheolwr Archwilio Mewnol bod yr adolygiad yn darparu cyfle i roi system gaffael yn ei lle fydd yn bodloni anghenion yr Awdurdod ac a fydd yn cynhyrchu arbedion.

 

Roedd yr Aelodau yn gytûn bod angen cyfarfod arall o’r Pwyllgor er mwyn iddynt allu ystyried argymhellion adolygiad KPMG mewn mwy o fanylder a hefyd y camau oedd wedi eu cynllunio i’w gweithredu a phenderfynwyd ailgyfarfod i’r pwrpas  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Adolygiad Gwasanaethau TGCh

Adrodd ar lafar ar adolygiad allanol o Wasanaethau TGCh.

Cofnodion:

Cafodd y mater ei ohirio.

 

7.

System Gyfrifo CIVICA

Derbyn diweddariad ar lafar ynglyn â’r adolygiad ôl-weithrediad.

Cofnodion:

Cafodd y mater ei ohirio.

 

8.

Adolygiad Blynyddol o Strategaeth Rheoli Risg pdf eicon PDF 306 KB

Cyflwyno Adolygiad Blynyddol o’r Strategaeth Rheoli Risg.

(Adroddiad hwyr)

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd er gwybodaeth i’r Pwyllgor adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) yn crynhoi’r sefyllfa ddiweddaraf o safbwynt rheoli risg a hawliadau yswiriant.  Roedd yr adroddiad yn rhestru pedair prif risg yr Awdurdod yn ogystal â thair o risgiau newydd oedd wedi eu nodi ac a ystyrir fel rhai lefel ganolog. Roedd y sefyllfa yswiriant yn adlewyrchu cynnydd sylweddol yn nifer yr hawliadau eiddo yn ystod 2013/14 sydd i’w briodoli i stormydd gaeaf 2013/14. 

 

Roedd Aelodau’r Pwyllgor Archwilio am amlygu’r materion canlynol yn yr adroddiad

 

           Bod risg YM40 a ddynodwyd fel methiant i gydymffurfio â deddfwriaeth RhGC mewnol a chaffael yn arbediad yn ogystal â mater cydymffurfiaeth i’r graddau bod methiant yn hyn o beth yn golygu nad yw adnoddau’n cael eu defnyddio’n effeithiol a bod hynny felly’n cael effaith ar allu’r Cyngor i ddarparu gwasanaethau eraill neu beidio.

           Roedd pryder bod y risgiau uchaf yn parhau heb newid a bod hynny felly yn nodi nad yw camau adfer yn cael yr effaith a ddymunir o rhan lleihau’r risgiau hynny.  Cyfeiriwyd yn arbennig at gydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data. 

           Dywedwyd y byddai o gymorth i Aelodau pe bai’r dull o adrodd yn ôl yn cynnwys mwy o naratif / gwybodaeth gyd-destunol yn arbennig mewn perthynas â symudiadau risg.

 

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr bod yr Awdurdod wedi buddsoddi mewn hyfforddiant a’r anghenion Diogelu Data a’i fod wedi sefydlu Rhaglen Waith Diogelu Data cynhwysfawr ond bod i’r camau hyn oblygiadau cost.  Un o’r risgiau uchaf o hyd yw methiant i gynllunio ar gyfer gostyngiad sylweddol mewn cyllid o 2015/16 ac yn y cyd-destun hwn, rhaid i’r Awdurdod flaenoriaethu ei adnoddau yn ariannol ac o ran staff a chanolbwyntio ar ei risgiau lefel uchaf.  Mae rhai o’r risgiau a nodwyd yn gyffredin i awdurdodau eraill hefyd.  Mae’r her o roi sylw i risgiau mewn rhai meysydd yn un fawr iawn ac ni chaiff ei ddatrys dros nos.  Fodd bynnag, rhaid i’r Awdurdod fonitro a sicrhau ei fod yn cadw at y targedau.

 

Penderfynwyd nodi’r wybodaeth.

 

CAMAU GWEITHREDU’N CODI: Y Rheolydd Yswiriant a Risg i gynnwys yn yr adroddiad wybodaeth gefnogol/esboniadol lle bu symudiad o ran risg.

9.

Adolygiad Blynyddol o Effeithiolrwydd y Pwyllgor Archwilio a Threfniadau Gwrth Dwyll pdf eicon PDF 622 KB

Cyflwyno Adolygiad Blynyddol o effeithiolrwydd y Pwyllgor Archwilio a threfniadau gwrth dwyll.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor ei ystyried ac er gwybodaeth - Adroddiad gan y Rheolwr Archwilio a oedd yn disgrifio’r allbynnau o weithdy blynyddol Aelodau’r Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 28 Ionawr i adolygu effeithiolrwydd y Pwyllgor a’r trefniadau gwrth-dwyll ar gyfer 2013/14.  Roedd canlyniadau manwl hunanasesiad y Gweithdy o Arfer Dda Archwilio ar ffurf Rhestr Wirio Hunan Asesiad o Arfer Dda CIPFA wedi ei chynnwys yn Atodiad A yr adroddiad.

 

Dywedodd y Rheolwr Archwilio bod hunanasesiad y Pwyllgor Archwilio o’i berfformiad yn erbyn arfer orau yn gadarnhaol ar y cyfan gyda dim ond 3 allan o’r 20 o arferion gwerth gorau heb eu cyflawni gan y Pwyllgor a gyda 8 arall o 20 lle teimlwyd y gellid gwneud gwelliant.  Nodwyd y prif feysydd lle yr oedd gwendidau yn rhan 2.2 yr adroddiad.  Roedd y Rheolwr Archwilio hefyd wedi cwblhau’r rhestr wirio er mwyn nodi meysydd lle yr oedd y Pwyllgor, yn ei farn ef, yn gryf, a’r meysydd hynny y gellid gwella arnynt.  Roedd y rhestr wirio a gwblhawyd gan y Rheolwr Archwilio ynghlwm yn Atodiad B yr adroddiad ac roedd y meysydd a nodwyd gan y Swyddog fel rhai y gallai’r Pwyllgor ystyried eu gwella wedi eu rhestru yn rhan 2.5 yr adroddiad.  Yn ychwanegol at hyn, bu’r Pwyllgor yn ystyried prif ganfyddiadau Adroddiad Gwrth-dwyll yr Archwiliwr Mewnol 1906.13/14 a oedd yn seiliedig ar restr wirio Atodiad 2 y Comisiwn Archwilio - Diogelu’r Pwrs Cyhoeddus.  Yn yr adroddiad, nodwyd nifer o feysydd lle yr oedd y trefniadau gwrth-dwyll yn wan ar hyn o bryd fel y cawsant eu nodi yn y Crynodeb Gweithredol i adroddiad yr Archwiliwr Mewnol sydd yn Atodiad C.

 

Cododd yr Aelodau fater hyd rhaglenni’r Pwyllgor Archwilio ac a oedd yr amserlen gyfredol o gyfarfodydd yn ddigonol i drafod yr holl faterion sydd angen sylw.  Dywedodd y Rheolwr Archwilio y byddai’n cynnwys y mater hwn yn y Cynllun Gweithredu arfaethedig fel sail ar gyfer trafodaeth yn y dyfodol.

 

Penderfynwyd cymeradwyo

 

           Datblygu Cynllun Gweithredu Effeithiolrwydd a nodi meysydd gwella ar gyfer y Pwyllgor Archwilio a sut i roi sylw i’r rhain yn 2014/15.

           Datblygu Cynllun Gweithredu trefniadau Gwrth-dwyll yn nodi’r gwendidau yn y trefniadau gwrth-dwyll a sut i fynd i’r afael â'r rhain yn 2014/15.

 

DIM CAMAU GWEITHREDU PELLACH YN CODI

10.

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio pdf eicon PDF 286 KB

Cyflwyno Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio ar gyfer y flwyddyn ddinesig 2013/14.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd Adroddiad Blynyddol drafft y Pwyllgor Archwilio ar gyfer blwyddyn ddinesig 2013/14 er sylw’r Aelodau.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol ar gyfer ei gyflwyno i’r Cyngor Sir ym mis Mai.

11.

Adroddiad Blynyddol y Gwasanaeth Archwilio Mewnol 2013/14 pdf eicon PDF 217 KB

Cyflwyno Adroddiad Blynyddol y Gwasanaeth Archwilio Mewnol 2013/14.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd Adroddiad Blynyddol drafft y Pwyllgor Archwilio ar gyfer blwyddyn ddinesig 2013/14 er sylw’r Aelodau.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol ar gyfer ei gyflwyno i’r Cyngor Sir ym mis Mai.

12.

Cynllun Strategol Archwilio Mewnol a'r Cynllun Cyfnodol pdf eicon PDF 434 KB

Cyflwyno Cynllun Strategol Archwilio Mewnol 2012-15 a’r Cynllun Cyfnodol

2014-15.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Adroddiad gan y Rheolwr Archwilio yn cynnwys y Cynllun Strategol Archwilio Mewnol am 2014/15 a’r Cynllun Cyfnodol 2014/15.  Yn yr adroddiad, cafwyd amlinelliad o’r broses asesu anghenion archwilio y mae’r dull archwilio yn seiliedig arno ynghyd â materion yn ymwneud ag adnoddau ac ystyriaethau perthnasol.

 

Gofynnodd Aelodau’r Pwyllgor am sicrwydd ynghylch a oes digon o staff yn y Tîm Archwilio Mewnol i’w alluogi i gyflawni’r rhaglen a bennwyd ar gyfer y gwasanaeth o ystyried y problemau gydag absenoldeb salwch.  Cadarnhaodd y Rheolwr Archwilio ei fod ef o’r farn y bydd modd i’r Gwasanaeth Archwilio Mewnol, gyda staff llawn, gyflawni’r Cynllun Gweithredu Archwilio ar gyfer y flwyddyn.  Oherwydd yr ystyriaethau o safbwynt absenoldeb salwch a chan Ddibynnu ar ba mor gyflym y gellir sicrhau staff ar gyfer pob swydd, efallai y bydd raid i’r gwasanaeth adolygu meysydd gweithgaredd.

 

Mewn ymateb i awgrymiad a wnaed ynglŷn â’r posibilrwydd o gyflwyno achos ar gyfer cael cefnogaeth ychwanegol i’r Gwasanaeth Archwilio Mewnol, dywedodd Mr Patrick Green y gall y Pwyllgor, oherwydd bod y Rheolwr Archwilio Mewnol yn adrodd i’r Pwyllgor yn rheolaidd ar gynnydd yn erbyn y Cynllun Gweithredu, ar unrhyw bwynt yn y flwyddyn a chan ddibynnu ar yr amgylchiadau, ystyried gwneud argymhelliad mewn perthynas â chefnogaeth ychwanegol yn seiliedig ar yr hyn y mae’r Rheolwr Archwilio Mewnol yn ei ddweud am yr hyn y mae diffyg staff yn ei olygu i’r gwasanaeth yn ymarferol.

 

Penderfynwyd

 

           Derbyn y Cynllun Gweithredu Archwilio Mewnol am 2014/15 fel un sy’n adlewyrchu’r meysydd y mae’r Pwyllgor o’r farn y dylid eu cynnwys.

           Derbyn bod y lefel o adnoddau archwilio yn briodol ar gyfer y lefel sicrwydd sydd ei hangen ar yr amod y ceir diweddariad rheolaidd gan y Rheolwr Archwilio Mewnol ynghylch digonolrwydd yr adnoddau staff Archwilio Mewnol.

 

CAMAU GWEITHREDU’N CODI: Y Rheolwr Archwilio Mewnol i roi gwybod i’r Pwyllgor am unrhyw effaith y mae diffyg staff yn ei gael ar allu’r Gwasanaeth Archwilio Mewnol i gyflawni’r Cynllun Gweithredu.

13.

Archwilio Allanol - Amlinelliad o'r Archwiliad Ariannol pdf eicon PDF 322 KB

·        Cyflwyno Amlinelliad o’r Archwiliad Ariannol

 

·        Cenadwri ar dwyll, annibyniaeth ac ansawdd

 

·        Diweddariad ar y Rhaglen Waith Perfformiad

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

13.1    Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor - Amlinelliad Archwilio Ariannol Blynyddol yr Archwilwyr Allanol yn nodi’r modd yr aethpwyd ati i gynnal archwiliad ariannol 2013/14 a’r canlyniadau disgwyliedig.

 

Roedd Mr Joe Hargreaves, Rheolwr Archwiliol Ariannol PwC grynodeb o’r prif ystyriaethau yn yr adroddiad a chyfeiriodd yn benodol at yr agweddau a ganlyn

 

           Y risgiau sylweddol ynglŷn â’r amgylchedd rheoli ynghyd â’r risgiau cynyddol mewn perthynas â datganiadau ariannol fel y nodir hynny yn atodiad 3 a’r ymatebion arfaethedig.

           Y risgiau ychwanegol a nodwyd mewn perthynas â’r broses o baratoi’r cyfrifon a gweithrediad y system ledjer gyffredinol newydd.

           Oherwydd gofynion Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013, bu’n rhaid adolygu’r dull o bennu ffioedd yn y modd ac am y rhesymau a nodir yn yr adroddiad.   Bu gwybodaeth ynghylch canllawiau newydd Swyddfa Archwilio Cymru ar werthu a phennu ffioedd yn cael ei chyflwyno unwaith y bydd wedi ei chwblhau.

 

Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ar rai pwyntiau mewn perthynas â’r trothwy ar gyfer cam-ddatgan a gofynnwyd hefyd am sicrwydd na fyddai’r mater ynghylch atebolrwydd pensiynau a digonolrwydd a chywirdeb gwybodaeth a data ynghylch gweithwyr a ddarparwyd i gynllun pensiwn Cyngor Gwynedd yn digwydd eto eleni.  Cadarnhaodd y Prif Weithredwr fod Swyddogion y Gwasanaeth Cyllid yn gweithio i ddarparu cynllun pensiwn Cyngor Gwynedd gyda gwybodaeth gyfredol yn unol â’r amserlen fandadol.

 

Penderfynwyd nodi’r wybodaeth.

 

DIM CAMAU GWEITHREDU PELLACH YN CODI

 

13.2    Cyflwynwyd a nodwyd gan y Pwyllgor - wybodaeth gan yr Archwilwyr Mewnol ynghylch twyll, annibyniaeth ac ansawdd.

 

Dywedodd Mr Joe Hargreaves, PwC bod cyfrifoldeb ar yr Archwiliwr Allanol i gyflwyno’r datganiad ac y byddai’n falch o dderbyn sylwadau’r Aelodau ynghylch twyll ar lafar yn y cyfarfodydd neu wedi hynny ar e-bost.

 

DIM CAMAU GWEITHREDU PELLACH YN CODI

 

13.3    Rhoes Mr Andy Bruce, SAC ddiweddariad i’r Pwyllgor ar statws y Rhaglen Gwaith Perfformiad.  Nodwyd y wybodaeth gan y Pwyllgor.

 

DIM CAMAU GWEITHREDU PELLACH YN CODI

14.

Adroddiad Blynyddol 2014 Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol

Diweddariad ar lafar gan y Rheolwr Archwilio.

Cofnodion:

Dywedodd y Rheolwr Archwilio fod Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol wedi adolygu gweithrediad y system Aelodau Cyfetholedig/Aelodau Lleyg a’i fod wedi gwneud newidiadau i’r trefniadau cydnabyddiaeth ariannol er mwyn adlewyrchu’r amser a dreulir gan Aelodau Lleyg a Chyfetholedig yn paratoi ar gyfer cyfarfodydd ac yn teithio iddynt yn ychwanegol at eu presenoldeb yn y cyfarfodydd hynny.  Mae’r Panel wedi gofyn fod swyddog priodol yn yr Awdurdod yn gwneud y penderfyniad ynghylch beth ddylai hynny fod yn achos y Pwyllgor Archwilio.  Mae’r ffi a hyn o bryd yn £198 am ddiwrnod a £99 am hanner diwrnod (hyd at 4 awr).  Yn achos yr holl bwyllgorau hynny y mae Aelodau Lleyg Cyfetholedig yn gwasanaethu arnynt gan gynnwys y Pwyllgor Archwilio, yr amser y maent yn eu treulio ar baratoi, teithio a mynychu cyfarfodydd dros 4 awr, cytunwyd y bydd modd iddynt hawlio am ddiwrnod llawn yn unol â chanllawiau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ac y daw’r trefniant hwn i rym o 1 Ionawr 2014.

 

Penderfynwyd nodi’r wybodaeth.

 

DIM CAMAU GWEITHREDU PELLACH YN CODI

 

15.

Gwahardd y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 236 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol

 

“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y Wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gall olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd amgaeëdig.”

Cofnodion:

Nid ystyriwyd y mater.

 

16.

Cytundeb ar gyfer Rheolaeth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol

Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) i adrodd ar lafar.

Cofnodion:

Nid ystyriwyd y mater.

 

17.

Cyfarfodydd 2014/15

·        Dydd Mawrth, 22 Gorffennaf, 2014 am 2 o’r gloch y prynhawn.

·        Dydd Mawrth, 23 Medi, 2014 am 2 o’r gloch y prynhawn.

·        Dydd Mercher, 10 Rhagfyr, 2014 am 2 o’r gloch y prynhawn.

·        Dydd Mawrth, 3 Chwefror, 2015 am 2:00 o’r gloch y prynhawn.

·        Dydd Mawrth, 14 Ebrill, 2015 am 2o’r gloch y prynhawn.

Cofnodion:

Cyflwynwyd a nodwyd dyddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Archwilio am y flwyddyn ddinesig 2014/15.