Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio - Dydd Llun, 27ain Ebrill, 2015 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

2.

Cofnodion Cyfarfod 23 Chwefror, 2015 pdf eicon PDF 207 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 23 Chwefror, 2015.

Cofnodion:

Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywirgofnodion y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 23 Chwefror 2015.

 

Yn codi o’r cofnodion - Cadarnhaodd y Pennaeth Adnoddau a’r Swyddog Adran 151 Dros Dro y byddai llythyr yn cael ei anfon yn o fuan at Heddlu Gogledd Cymru a’r Comisiynydd Trosedd mewn perthynas â’r penderfyniad i beidio ag ymchwilio ymhellach i’r ymgais gan gredydwr i dwyllo’r Cyngor yn unol â’r camau y penderfynwyd arnynt yn y cyfarfod diwethaf. 

3.

Adroddiad Blynyddol Archwilio Mewnol 2014-15 pdf eicon PDF 342 KB

Cyflwyno Adroddiad Blynyddol Archwilio Mewnol am 2014/15.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgoryr Adroddiad Archwilio Mewnol Blynyddol yn crynhoi gwaith y Gwasanaeth Archwilio Mewnol yn 2014/15 o ran allbynnau, perfformiad, casgliad cyffredinol y meysydd a archwiliwyd a’r modd y mae hyn yn adlewyrchu ar effeithiolrwydd system rheolaeth fewnol yr Awdurdod.

 

Dygodd Mr John Fidoe, Baker-Tilly sylw at brif bwyntiau’r adroddiad o ran nifer cyfanswm nifer yr adroddiadau terfynol a drafft a gyhoeddwyd; canran yr argymhellion categori Uchel a Chanolig a oedd wedi eu gweithredu ar 31 Mawrth 2015 a’r farn gyffredinol mewn perthynas â’r systemau a adolygwyd sydd, fel barn Werdd/Ambr yn golygu mai risg fechan iawn/isel sydd i’r Awdurdod yn seiliedig ar sgôp y gwaith a wnaed, gweithredu’r camau a argymhellwyd i reolwyr a bod y systemau hynny’n parhau i weithredu yn unol â’r bwriad. Ar sail y gwaith Archwilio Mewnol a wnaed yn 2014/15 a chan gymryd i ystyried y meysydd pryder a nodir dan adran 4.4 yr adroddiad a nifer yr adroddiadau Coch/Coch Ambr a gyhoeddwyd dan adrannau 6.3 a 6.4, dywedodd y Swyddog fod gan y Cyngor drefniadau rheoli digonol i reoli’r risgiau gyda’r amod fod rhaid cymryd camau yn ystod 2015/16 i roi sylw i’r meysydd hynny sy’n parhau i beri pryder ac y dygwyd sylw atynt.

 

Rhoes y Pwyllgor sylw i’r adroddiad gan godi’r pwyntiau canlynol ar y wybodaeth a gyflwynwyd

 

           Y broblem barhaus mewn perthynas â gweithredu ar argymhellion archwilio mewnol yn yr ysgolion. Roedd y Pwyllgor yn arbennig o bryderus nad yw argymhellion archwilio mewnol i wella rheolaeth ariannol yn yr ysgolion yn cael eu gweithredu’n brydlon a’r risg y gallai hynny ei golygu a gofynnodd am eglurhad ar yr hyn oedd yn cael ei wneud i gywiro’r sefyllfa. Dywedodd Mr John Fidoe fod anhawster oherwydd nad oedd Prifathrawon yn gallu cael i mewn i’r system 4Action sy’n golygu fod diweddariadau ynghylch gweithrediad yn cael eu paratoi gan y Gwasanaeth Addysg sy’n golygu fod oedi rhwng amser cyhoeddi’r argymhellion a chael cadarnhad eu bod wedi, neu yn cael eu gweithredu. Mae materion eraill hefyd sydd angen sylw. Trafodwyd ffyrdd posibl o ddatrys y broblem yn yr ysgolion gyda’r Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes.  Fodd bynnag, cynhelir adolygiad blynyddol o’r argymhellion archwilio mewnol sy’n parhau i fod angen sylw yn yr ysgolion a bydd adroddiad dilyn-i-fyny yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor.

           Mewn perthynas â’r Fframwaith Partneriaethau yr oedd Archwilio Mewnol wedi dwyn sylw ato o ran agweddau ar reolaeth fewnol o ran gweithio mewn partneriaeth, gofynnodd y Pwyllgor am sicrwydd fod y rheolwyr yn cymryd perchenogaeth o’r mater hwn ac yn ymrwymo i symud y Fframwaith Partneriaethau yn ei flaen yn unol ag argymhellion Archwilio Mewnol. Dywedodd y Pennaeth Adnoddau a’r Swyddog Adran 151 Dros Dro y bydd y Prif Weithredwr newydd yn rhoi sylw i’r materion sy’n ymwneud â Phartneriaethau ac y byddant ar raglen y Tîm Uwch Arweinyddiaeth. Mae cryn waith  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Siarter Archwilio Mewnol - Adolygiad a Diweddariad pdf eicon PDF 221 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Archwilio Mewnol Gweithredol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw a chymeradwyaeth y Pwyllgoradroddiad y Rheolwr Archwilio Mewnol yn cynnwys Siarter Archwilio Mewnol ddiwygiedig. Rhaid i’r Gwasanaeth Archwilio Mewnol, yn unol â Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus (PSIAS) gyhoeddi Siarter Archwilio Mewnol y bydd raid i’r Pwyllgor Archwilio ei chymeradwyo sy’n nodi gweithgareddau, pwrpas, awdurdod a chyfrifoldeb y Gwasanaeth Archwilio Mewnol.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r Siarter Archwilio Mewnol ddiwygiedig fel y cafodd ei chyflwyno.

 

DIM CAMAU PELLACH YN CODI

5.

Protocol Archwilio Mewnol - Diweddariad ac Adolygiad pdf eicon PDF 448 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Archwilio Mewnol Gweithredol.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor - adroddiad y Rheolwr Archwilio Mewnol yn cynnwys Protocol diwygiedig ar gyfer y Gwasanaeth Archwilio Mewnol. Yn y Protocol, nodir methodoleg ac amserlenni y cytunwyd arnynt ar gyfer cynllunio, perfformiad a rhoi gwybod am ganlyniadau adolygiadau Archwilio Mewnol yn unol â PSIAS o ran yr hyn sy’n ofynnol gan y Gwasanaeth Archwilio Mewnol a’i gleientiaid er mwyn cyflawni’r amcanion archwilio a osodwyd.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r Protocol diwygiedig ar gyfer Archwilio Mewnol fel y cafodd ei gyflwyno.

 

DIM CAMAU GWEITHREDU PELLACH YN CODI 

6.

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio 2014-5 pdf eicon PDF 578 KB

Cyflwyno adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw a chymeradwyaeth y Pwyllgoradroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio yn nodi gweithgareddau’r Pwyllgor Archwilio ar gyfer blwyddyn ddinesig 2014/15.

 

Penderfynwyd cymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio am 2014/15 ar gyfer ei gyflwyno i’r Cyngor llawn ym mis Mai 2015.

7.

Archwilio Allanol - Diweddariad Rhaglen Waith Perfformiad pdf eicon PDF 370 KB

Cyflwyno diweddariad Archwilio Allanol ar y Rhaglen Waith Perfformiad.

Cofnodion:

Rhoes Mr Andy Bruce, SAC ddiweddariad i’r Pwyllgor ar gynnydd a statws o ran gwaith gwella ac asesu sy’n mynd rhagddo ar gyfer 2014/15 ynghyd â’r adolygiadau sydd wedi eu rhaglennu ar gyfer 2015/16 a’u hamserlenni tebygol. Yn ychwanegol at hyn, rhoddwyd crynodeb o’r astudiaethau Llywodraeth Leol sydd wedi eu cynllunio ar gyfer 2015/16 ynghyd â dyddiad tebygol cyhoeddi’r astudiaethau hynny ar gyfer 2014/15 sydd bron â dod i ben a’r ddolen i’r wefan ar gyfer y rheiny sydd eisoes wedi eu cwblhau. Ynghlwm wrth yr adroddiad o ddiweddariad, oedd rhestr o argymhellion yn codi o adroddiad yr Archwiliwr Cyffredinol ar Reoli Ymadawiadau Cynnar ar draws Cyrff Cyhoeddus yng Nghymru yn seiliedig ar arolwg cyffredinol ac ymarfer casglu data yr ymgymerwyd ag ef gan SAC yn hytrach nag ar unrhyw adolygiad o drefniadau sefydliad unigol.

 

Nododd y Pwyllgor yr adroddiad a gofynnodd am eglurhad am y modd y penderfynir ar Raglen Waith Perfformiad SAC ac a oes modd iddo ystyried awgrymiadau gan bartïon allanol ar gyfer adolygiadau penodol - yn y cyd-destun hwn, soniwyd yn benodol am effeithiau’r Dreth Ystafell Wely a defnyddioldeb archwilio’r data cysylltiedig. Eglurodd Mr Andy Bruce fod y rhan fwyaf o’r Rhaglen Waith Perfformiad ac yn arbennig felly’r agweddau gwelliant, wedi eu nodi mewn deddfwriaeth dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011; caiff y Rhaglen Waith benodol ei phennu’n flynyddol mewn ymgynghoriad gyda sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus a chydranddeiliaid perthnasol. Dywedodd Mrs Lynn Pamment, PwC wrth y Pwyllgor fod gwneud i ffwrdd â chymhorthdal ystafell sbâr fel rhan o ddiwygiadau Lles Llywodraeth Ganolog ac effaith hynny ar Gymru yn bwnc sydd wedi ei gynnwys yn adroddiad SAC ar Reoli Effaith Newidiadau Diwygio Lles ar Denantiaid Tai Cymdeithasol yng Nghymru a gyhoeddwyd yn Ionawr 2015.

 

Nododd y Pwyllgor yr eglurhad ac awgrymodd y byddai’n ddefnyddiol petai mecanwaith ar gael i roi gwybod i’r pwyllgor am adroddiadau rheoleiddiol/astudiaethau thematig sydd ar gael ac a all fod o ddiddordeb neu’n berthnasol iddo fel Pwyllgor Archwilio ond na fyddant o angenrheidrwydd yn cael eu dwyn at sylw’r Aelodau drwy’r sianelau democrataidd arferol. Dywedodd Mr Andy Bruce y byddai, mewn achosion lle mae gwaith maes ar gyfer adroddiadau cenedlaethol wedi cael ei wneud yn Ynys Môn, yn ceisio cael y wybodaeth berthnasol i’r Pwyllgor ac y byddai’n gwneud hynny yn achos yr Adolygiad o’r Bwrdd Gwasanaeth Lleol ar gyfer Ynys Môn a Gwynedd.

 

Roedd y Pwyllgor hefyd eisiau bodloni ei hun fod yr Awdurdod yn cydymffurfio gydag argymhellion SAC ynghylch arfer orau o ran rheoli ymadawiadau cynnar a gofynnodd am adroddiad i’r perwyl hwnnw.

 

Penderfynwyd nodi’r adroddiad o ddiweddariad ar Raglen Waith Perfformiad SAC.

 

CAMAU GWEITHREDU’N CODI: Y Pennaeth Adnoddau a’r Swyddog Adran 151 Dros Dro i baratoi adroddiad ar gyfer y Pwyllgor ar gydymffurfiaeth Rheolwyr gydag egwyddorion arfer dda mewn perthynas â rheoli a llywodraethu ymadawiadau cynnar.

8.

Archwilio Allanol - Cynllun Archwilio Blynyddol

Cyflwyno’r Cynllun Archwilio Blynyddol.

(Adroddiad i ddilyn)

Cofnodion:

Ar gais yr Archwilwyr Allanolpenderfynwyd gohirio’r drafodaeth ar yr eitem hon tan y cyfarfod nesaf fel y gellir cwblhau d y Cynllun Archwilio.

9.

Adroddiad Adolygiad Archwilio Mewnol - Disel Arforol pdf eicon PDF 221 KB

Derbyn adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth (Adfywio Economaidd a Chymunedol) ar gynnydd ar ymateb i’r adolygiad gan Archwilio Mewnol.

(Adroddiad i ddilyn)

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor - adroddiad gan y Pennaeth Adfywio Economaidd a Chymunedol ar yr ymateb a’r camau a gymeradwywyd yn dilyn yr Adolygiad Archwilio Mewnol (Diesel Arforol) ym mis Tachwedd 2014.

Soniodd y Pennaeth Adfywio Economaidd a Chymuned wrth y Pwyllgor am y cynnydd a wnaed hyd yma yn erbyn argymhellion yr Uned Archwilio Mewnol yn dilyn ei hadolygiad o’r prosesau a’r gweithdrefnau ar gyfer derbyn, storio, dosbarthu, anfonebu a chasglu arian a derbyn a chofnodi incwm ar Ledjer Cyffredinol y Cyngor mewn perthynas â Diesel Arforol fel y manylir ar hyn yn rhan 3 yr adroddiad. Dygodd y Swyddog sylw’r Pwyllgor ar y ffaith y bydd cwblhau’n llwyddiannus yr argymhellion sy’n parhau i fod angen sylw (sef rhan o argymhelliad 2 ac argymhelliad 6 yn y rhestr dan ran 3) yn dibynnu ar y gost a’r gyllideb sydd ar gael. Ymhelaethodd y Swyddog ar gostau tebygol y gwaith uwchraddio y mae angen ei wneud a dywedodd bod angen penderfynu ar strategaeth ar gyfer y tymor byr i'r tymor canolig ar gyfer gwerthu tanwydd arforol cyn gwneud penderfyniad i fuddsoddi.

 

Rhoes y Pwyllgor sylw i’r adroddiad ac mewn trafodaeth fanwl, codwyd y materion isod

 

           Er bod y Pwyllgor yn nodi bod sgôp yr adolygiad archwilio mewnol wedi’i gyfyngu i asesu ba mor ddigonol oedd y systemau, prosesau a gweithdrefnau ar gyfer gwerthu, paratoi biliau a thalu am danwydd arforol, roedd yr Aelodau hefyd yn awyddus i ddysgu mwy am agweddau masnachol y gwasanaeth ac a oedd ffyrdd o wella elfen gwerth am arian y gwasanaeth gan gynnwys drwy ddarparu’r gwasanaeth mewn ffordd wahanol, e.e. allanoli. Cadarnhaodd y Swyddogion fod y gwasanaeth yn fasnachol hyfyw ac yn darparu dychweliadau oddeutu 20% i 30% a bod y gwasanaeth yn un gwerth ei ddarparu. Mae’r materion caffael wedi cael sylw ac mae’r gwasanaeth yn gystadleuol o ran cost ond y cwestiwn sylfaenol yn y tymor hir yw a ydyw’r Awdurdod yn dymuno parhau i gyflenwi tanwydd arforol nid o angenrheidrwydd er budd masnachol ond er mwyn cefnogi’r diwydiant pysgota. 

           Ystyriodd y Pwyllgor a ddylid ymestyn cwmpas yr adolygiadau archwilio y tu draw i faterion rheoli a llywodraethiant er mwyn rhoi sylw i elfennau gwerth am arian y gwasanaeth lle mae hynny’n berthnasol ac a oes modd i’r Pwyllgor gael mewnbwn i sgopio’r adolygiadau. Awgrymodd y Pwyllgor y gallai fod gwell cysylltiad rhwng adolygiadau archwilio ac ystyriaethau gwerth am arian fel y gall y Pwyllgor roi’r materion a godir mewn adolygiadau archwilio yn eu cyd-destun ehangach a deall yn well yr ystyriaethau mwy pellgyrhaeddol a all fod yn sylfaen i’r adolygiadau. Dywedodd y Pennaeth Adfywio Economaidd a Chymunedol y cynhaliwyd gwerthusiad annibynnol o’r gwasanaeth arforol a oedd yn mynd y tu draw i faterion llywodraethiant a rheoliadau mewnol a oedd wedi edrych ar agweddau statudol ac anstatudol y gwasanaeth ynghyd â sawl model ar gyfer ei ddarparu. Dywedodd y Rheolwr  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 9.

10.

Argaeledd Grantiau ac Uchafu Cyllid pdf eicon PDF 383 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Adnoddau a Swyddog Adran 151 Dros Dro.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgoradroddiad y Pennaeth Adnoddau a’r Swyddog Adran 151 Dros Dro yn nodi’r prif ffynonellau ar gyfer grantiau a oedd ar gael i’r Awdurdod yn ystod 2014/15 a’r modd y gellir sicrhau’r incwm grant mwyaf posibl yn ystod y blynyddoedd nesaf.

 

Nododd y Pwyllgor yr adroddiad a gwnaed y pwyntiau canlynol

 

           Roedd o’r farn bod y broses grantiau yn ei chyfanrwydd yn ffordd annheg o ryddhau cyllid i awdurdod lleol ac y byddai’n decach, yn hwyluso’r gwaith o gynllunio gwasanaethau’n well ac y byddai o gymorth i’r Cyngor gael darlun cliriach o’i sefyllfa ariannol petai incwm grant yn cael ei gynnwys yn y Grant Cymorth Refeniw. Dywedodd Mr Andy Bruce, SAC y gall grantiau fod yn gymhleth ac ar adegau’n seiliedig ar y tymor byr yn unig. Bydd rhan o astudiaeth SAC o effeithiolrwydd partneriaethau diogelwch cymunedol lleol yn cynnwys ymchwilio i ffynonellau cyllido a bydd yn gwneud argymhellion os canfyddir bod angen gwneud hynny.

           Gan fod nifer o’r grantiau yn cael eu dyrannu am gyfnod tymor byr yn unig, gofynnodd y Pwyllgor a oes gan yr Awdurdod drefniadau i benderfynu sut y bydd gwasanaethau a ariennir drwy grantiau am gyfnod penodol yn cael eu hymgorffori wedyn yn y prif-lif. Dywedodd y Cydlynydd Grantiau y dylai strategaeth ymadael fod yn rhan o reolaeth cyffredinol y prosiect yn y gwasanaeth a bod angen ystyried yr hyn a fydd yn parhau wedi i’r cyllid ddod i ben gan gynnwys y goblygiadau o ran staffio.

           Gofynnodd y Pwyllgor am gadarnhad ynghylch a yw’r Awdurdod yn manteisio i’r eithaf ar y cyfleon grantiau sydd ar gael iddo. Dywedodd y Cydlynydd Grantiau wrth y Pwyllgor bod swyddogion fel rhan o’u gwaith o ddydd i ddydd yn ceisio dod o hyd i ffynonellau cyllido allanol, ond nid oes gan yr Awdurdod berson penodol sy’n ymchwilio i’r ffynonellau niferus o ffrydiau cyllido sydd ar gael, h.y. swyddog sy’n edrych ar ddata-basau er mwyn chwilio am ffynonellau cyllido sydd, yn Lloegr, yn cael ei ystyried fel arfer dda.

           Awgrymodd y Pwyllgor y dylid ystyried y rhestr flaenoriaeth o ran prosiectau cyfalaf a’r prosiectau hynny nad ydynt wedi cael cyllid fel rhan o’r rhaglen gyfalaf ond sy’n barod i wario petai cyllid grant yn cael ei ryddhau ar fyr rybudd os ydynt yn cydymffurfio gyda’r meini prawf.

 

Penderfynwyd derbyn a nodi’r adroddiad.

 

DIM CAMAU GWEITHREDU PELLACH YN CODI

11.

Rheoli Risg pdf eicon PDF 651 KB

Cyflwyno  adroddiad y Rheolwr Risg ac Yswiriant.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgoradroddiad y Rheolydd Risg ac Yswiriant yn nodi’r cynnydd a wnaed o ran gweithredu’r gofrestr/matrics risg corfforaethol diwygiedig a’r canllawiau risg cysylltiedig. Roedd copïau o’r Polisi Risg drafft newydd, y meini prawf ar gyfer asesu risg a diwyg y Gofrestr Risg newydd ynghlwm wrth yr adroddiad.

 

Ymhelaethodd y Rheolydd Risg ac Yswiriant ar y cynnydd a wnaed fel y nodwyd ym mharagraff 2 yr adroddiad a chadarnhaodd y bydd y dogfennau risg yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith ym mis Mai ac y bydd y Gofrestr Risg Gorfforaethol yn dod yn ôl i’r Pwyllgor Archwilio wedi hynny.

 

Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ar rai pwyntiau penodol o ran y meini prawf newydd ar gyfer asesu risg a diwyg y gofrestr risg ac awgrymodd y byddai o gymorth petai’r gofrestr risg ar gael i’r holl wasanaethau’n electronig i ddiben rhannu logiau risg. Dywedodd y Pennaeth Adnoddau a’r Swyddog Adran 151 Dros Dro nad cynhyrchu’r Gofrestr Risg Gorfforaethol yw’r nod yn y pen draw ond, yn hytrach, gyflawni’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Lliniaru Risgiau. Cyfrifoldeb y Pwyllgor Archwilio yw sicrhau a bodloni ei hun fod y Cynllun Gweithredu’n cael ei weithredu.

 

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad ynghyd â’r gwaith papur cysylltiedig ar Reoli Risg.

 

CAMAU GWEITHREDU: Rhoi diweddariadau i’r Pwyllgor ar weithredu’r Cynllun Gweithredu Lliniaru Risgiau.

12.

Gwahardd y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 237 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-

 

“O dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y Wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gall olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd amgaeëdig.

 

 

Cofnodion:

Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol, cau’r wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd a gyflwynwyd eithriad ohoni.

13.

Contract Gwasanaeth Rheoli Archwilio Mewnol

Derbyn diweddariad gan y Pennaeth Adnoddau a Swyddog Adran 151 Dros Dro.

Cofnodion:

Dywedodd y Pennaeth Adnoddau a’r Swyddog Adran 151 Dros Dro bod contract Baker-Tilly ar gyfer rheoli tîm  y Gwasanaeth Archwilio Mewnol wedi dod i ben ar 31 Mawrth 2015 a bod Rheolwr Archwilio Mewnol Dros Dro wedi cael ei benodi ac y bydd yn y swydd hyd ddiwedd mis Gorffennaf 2015. Bwriedir cyflwyno adroddiad ar fodel ar gyfer y dyfodol mewn perthynas â darparu’r Gwasanaeth Archwilio Mewnol i gyfarfod nesaf y Pwyllgor. Dywedwyd wrth gyfarfod diwethaf y Pwyllgor fod nifer o opsiynau’n cael eu hystyried ac y cafwyd trafodaethau cychwynnol ar gyfer darparu’r gwasanaeth gyda Phartneriaeth Gwasanaeth a Rennir y GIG a chydag awdurdod lleol arall; roedd y trafodaethau hynny am wahanol resymau wedi disgyn drwodd ers hynny. Mae’r Awdurdod yn awr yn ystyried sefydlu partneriaeth gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar gyfer rheoli’r gwasanaeth Archwilio Mewnol ac y bydd y bartneriaeth honno, os daw i rym, yn golygu trefniant rheoli a rennir ar gyfer y Gwasanaeth Archwilio Mewnol ond gyda’r sector cyhoeddus yn gyfan gwbl y tro hwn. 

 

Dywedodd y Rheolwr Archwilio Mewnol Dros Dro y byddai’r trefniant arfaethedig yn golygu ymrwymiad ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i ddarparu’r gwasanaeth am nifer o flynyddoedd hyd nes ac os bydd llywodraeth leol yng Nghymru’n cael ei ad-drefnu a bydd yn cynnwys cytundeb lle bydd Cyngor Conwy yn darparu ar gyfer Cyngor Ynys Môn nifer benodol o ddyddiau am gost i’w chytuno arni i reoli’r Gwasanaeth Archwilio Mewnol gyda’r gwaith hwnnw’n cynnwys rheoli a sicrhau ansawdd y tîm Archwilio Mewnol a’r adroddiadau archwilio a gynhyrchir.

 

Penderfynwyd nodi’r wybodaeth.

 

DIM CAMAU GWEITHREDU PELLACH YN CODI

14.

Cyfarfod Nesaf sydd wedi'i Drefnu

Dydd Llun, 27 Gorffennaf, 2015 am 2 o’r gloch y prynhawn.

Cofnodion:

Wedi ei drefnu ar gyfer dydd Llun, 27 Gorffennaf, 2015 am 2:00 p.m. Dywedodd y Cadeirydd y cynhelir cyfarfod arbennig hefyd o’r Pwyllgor Archwilio am 10:30 a.m. ar ddydd Iau, 4 Mehefin 2015 i drafod y Datganiad Cyfrifon drafft ar gyfer 2014/15.