Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio - Dydd Mawrth, 15fed Mawrth, 2016 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

Croesawodd y Cadeirydd bawb a oedd yn bresennol i'r cyfarfod ac estynnodd groeso arbennig i'w chyfarfod cyntaf i Clare Edge o Deloitte, sef archwilwyr ariannol newydd y Cyngor.

1.

Datgan Diddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

2.

Cofnodion Cyfarfod 8 Rhagfyr, 2015 pdf eicon PDF 189 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol -

 

·        8 Rhagfyr, 2015

·        18 Chwefror, 2016 (arbennig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir - gofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethiant gynhaliwyd ar 8 Rhagfyr, 2015 a chofnodion y cyfarfod arbennig a gynhaliwyd ar 18 Chwefror, 2016.

 

Yn codi o gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Rhagfyr, 2015 -

 

Mewn perthynas ag Archwiliad yr Asiantaeth Safonau Bwyd, cadarnhaodd y Pennaeth Adnoddau a Swyddog Adran 151 fod y Cynllun Gweithredu i fynd i'r afael â’r materion sy'n codi o'r archwiliad yn cael ei fonitro ac y bydd y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu yn derbyn diweddariad ar gynnydd maes o law.

3.

Gweithio mewn Partneriaeth: Rôl y Pwyllgor wrth Adolygu Partneriaethau pdf eicon PDF 638 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Effaith Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er ystyriaeth a chymeradwyaeth y Pwyllgor - Adroddiad y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau, Cymuned a Gwella Gwasanaethau) yn amlinellu rôl arfaethedig y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethiant o ran monitro partneriaethau pwysig y Cyngor gyda chyfeiriad penodol at adolygu trefniadau llywodraethu partneriaethau.

 

Rhoes y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau, Cymuned a Gwella Gwasanaethau) adroddiad ar y cyd-destun a dywedodd fod trefniadau llywodraethiant partneriaethau’r Awdurdod yn cael eu hamlygu yn y Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2014/15 fel mater llywodraethiant o bwys. Mae gweithio mewn partneriaeth wedi dod yn rhan annatod o arferion gwaith Awdurdodau Lleol ac mae hefyd yn elfen hanfodol o'r modd y mae'r Cyngor hwn yn ymdrechu i wireddu ei uchelgeisiau a'i raglen drawsnewid. Ymhelaethodd y Swyddog ar sgôp y ffrydiau gwaith partneriaeth sy'n anelu at ffurfioli trefniadau ar gyfer monitro, adolygu a llywodraethu partneriaethau cyfredol a’r rhai a all gael eu sefydlu yn y dyfodol fel ym mharagraff 3 yr adroddiad, a chyfeiriodd yn benodol at ddatblygu dogfen Bolisi ar gyfer Partneriaethau (ynghlwm fel Atodiad 1 i'r adroddiad) sy'n crynhoi gweledigaeth y Cyngor ar gyfer gweithio mewn partneriaeth.

 

Dywedodd y Swyddog Effaith ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol fod un o'r ffrydiau gwaith partneriaeth yn golygu sefydlu rôl ar gyfer y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu wrth adolygu trefniadau llywodraethu partneriaethau, gan gynnwys cael trosolwg o'r cofrestrau risg sy’n ymwneud â phartneriaethau allweddol arwyddocaol. Er y gall gweithio mewn partneriaeth ddod â manteision sylweddol, gall hefyd gario risgiau sylweddol oni bai eu bod yn cael eu darparu o fewn fframwaith llywodraethu cadarn. Mae'r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu yn gyfrifol am adolygu trefniadau rheoli risg yr Awdurdod fel y'u diffinnir ym mharagraff 3.4.8.3.4 o Gyfansoddiad y Cyngor. Mae'r Cyfansoddiad yn nodi mai ei swyddogaeth yw adolygu proffil risg y Cyngor a mofyn sicrwydd fod materion y mae risg yn gysylltiedig â nhw, gan gynnwys y rheini sy'n ymwneud â phartneriaethau sylweddol, yn cael sylw. Rôl y Pwyllgor hwn, felly, yw canolbwyntio ar sicrhau bod partneriaethau allweddol yn rheoli risg yn ddigonol ac nid yw'n ymwneud ag adolygu cyfraniad a chanlyniadau partneriaethau. Amlinellodd y Swyddog y camau nesaf ynghyd â'r trefniadau arfaethedig ar gyfer adrodd i'r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu ar y risgiau i'r Cyngor o fod mewn partneriaeth fel y nodir ym mharagraff 5.5 yr adroddiad a chadarnhaodd y bydd y rhain yn cael eu hymgorffori yn y trefniadau presennol ar gyfer adrodd ar risgiau a’u rheoli.

 

Rhoes y Pwyllgor sylw i’r adroddiad a gofynnodd am eglurhad ar y materion canlynol o ran ei rôl arfaethedig mewn perthynas â phartneriaethau -

 

           Nododd y Pwyllgor, er mwyn gallu cyflawni'r disgwyliadau o ran darparu sicrwydd bod partneriaethau allweddol yn rheoli eu risgiau, bod angen iddo gael gwybodaeth lefel uchel a dadansoddiad ynghylch perfformiad y prif bartneriaethau corfforaethol fel y gall adnabod y risgiau y maent yn eu hwynebu a bodloni ei hun eu bod yn cael eu  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Llywodraethu Gwybodaeth pdf eicon PDF 229 KB

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Busnes y Cyngor.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth Busnes y Cyngor / Swyddog Monitro yn amlinellu'r cynnydd a wnaed mewn perthynas ag ymateb i'r Rhybudd Gorfodaeth a gyhoeddwyd gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) ym mis Hydref, 2015 a materion a amlygwyd yn yr adroddiad.

 

Dywedodd  Pennaeth Busnes y Cyngor fod y naw argymhelliad a nodir yn Hysbysiad Gorfodi'r ICO yn cael eu nodi yn Atodiad 1 yr adroddiad. Mae'r rhain bellach yn destun trydydd Cynllun Gweithredu (lluniwyd y ddau gynllun blaenorol mewn ymateb i archwiliad yr ICO o drefniadau'r Cyngor ar gyfer diogelu data yn 2012 ac ail-archwiliad dilynol yn 2014) a ddyfeisiwyd gan y Bwrdd Llywodraethu Gwybodaeth Corfforaethol (CIGB ) ac sy’n cael eu gweithredu gan is-grŵp o'r CIGB. O'r naw cam gweithredu penodol, mae camau gweithredu 1, 2, 3, 5, 6 a 9 wedi cael eu cwblhau. Rhoes y swyddog ddiweddariad i’r Pwyllgor ar statws y camau gweithredu hynny sydd ond wedi eu cwblhau’n rhannol fel a ganlyn -

 

           Cam Gweithredu Rhif 4 (Polisïau gan gynnwys y Polisi Rheoli Cofnodion yn cael eu darllen, eu deall a’u cwblhau gan bawb). Er mwyn sicrhau’r lefel hon o asesiad, mae'r Cyngor wedi tendro, caffael a chofrestru ar gyfer system bolisi newydd gyda RSM ac mae’r system wrthi’n cael ei dylunio ar hyn o bryd. Mae'r amserlen ar gyfer gweithredu'r system wrthi’n cael ei threfnu a disgwylir cytundeb yn ei chylch cyn diwedd mis Mawrth, 2016.

           Cam Gweithredu Rhif 7 (hawliau mynediad ffisegol yn cael eu diddymu ar unwaith pan fo staff yn   gadael a’u hadolygu o bryd i’w gilydd er mwyn sicrhau bod rheolaethau priodol yn parhau i fod yn eu lle). Mae Tîm Trawsnewid y Cyngor yn ymwneud â gwahanol ddarnau o brosesau ail-ddylunio busnes fel rhan o'i gylch gwaith ac ar hyn o bryd mae’n gweithio ar dasg ar gyfer y CIGB a fydd yn cynhyrchu canlyniad ar y mater hwn. Mae trafodaethau’n cael eu cynnal gyda Northgate, y system TGCh Adnoddau Dynol gyda golwg ar weithredu proses newydd erbyn mis Medi a fydd yn darparu'r lefel angenrheidiol o sicrwydd.

           Cam Gweithredu Rhif 8 (Bod sylw’n cael ei roddi i’r prinder o le storio ar gyfer cofnodiadau papur). Mae'r Cyngor bron wedi mynd i’r afael yn llawn â’r mater hwn a’r Gwasanaethau Cyllid a Thai yw’r unig ddau wasanaeth bellach sydd yn cadw lefel sylweddol o gofnodiadau maniwal y tu allan i Bencadlys y Cyngor ond nad ydynt eto mewn storfa archif. Bydd y ddau wasanaeth yn adrodd yn ôl i'r CIGB ym mis Ebrill ar eu cynlluniau unigol ar gyfer mynd i'r afael yn llawn â'r mater.

 

Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf ac roedd yn fodlon bod cynnydd wedi, ac yn parhau i gael ei wneud, o ran mynd i’r afael â'r materion sydd wedi codi. Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ynghylch ymateb yr ICO i'r Cynllun Gweithredu a luniwyd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Adfer ar ôl Trychineb a Pharhad Busnes TGCh

Cyflwyno diweddariad ar lafar ynglyn ag Adfer ar ôl Trychineb a Pharad Busnes TGCh.

Cofnodion:

           Parhad Busnes

 

Adroddodd y Rheolwr Archwilio Mewnol y cynhaliwyd archwiliad o Barhad Busnes yn gynharach yn y flwyddyn ariannol a chyhoeddwyd adroddiad ym mis Awst a arweiniodd at farn Sicrwydd Cyfyngedig yn gyffredinol gyda phump o argymhellion Categori Uchel a dau argymhelliad Categori Canolig. Cyfeiriodd at brif ganfyddiadau archwiliad a'r gwendidau a nodwyd. Cadarnhaodd y Swyddog fod archwiliad dilynol wedi cadarnhau bod y ddau argymhelliad Lefel Uchel wedi cael eu gweithredu a bod y pump sy’n weddill yn y broses o gael eu gweithredu. Mae canfyddiadau'r gwaith dilynol ac ailasesiad o'r rheolaethau bellach yn cefnogi Barn Sicrwydd Rhesymol.

 

Ymhelaethodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar y camau penodol a gymerwyd i gywiro'r gwendidau a amlygwyd gan yr adolygiad archwilio yn ogystal â'r camau hynny sydd ar y gweill.

 

Croesawodd y Pwyllgor y cynnydd a wnaed a'r momentwm cyfredol a gofynnodd am gadarnhad o'r llinell amser ar gyfer cwblhau a gwireddu’r holl ffrydiau gwaith y cafwyd adroddiad arnynt. O ystyried bod hyn yn cael ei gydnabod fel maes blaenoriaeth uchel, gofynnodd y Pwyllgor hefyd am ddiweddariad pellach yn ddiweddarach yn y flwyddyn i ddangos i ba raddau y gwnaed cynnydd ar y rhaglen weithredu.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ei fod yn fwriad i adrodd yn ôl i'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth ym mis Mehefin; nid yw Cynlluniau Parhad Busnes yn statig ac maent yn cael eu hadolygu ar lefel gwasanaeth er mwyn sicrhau eu bod yn parhau'n berthnasol ac yn gyfoes yng nghyd-destun yr amgylchedd y maent yn gweithredu ynddynt.

 

Penderfynwyd nodi'r sefyllfa a'r wybodaeth a gyflwynwyd.

 

CAMAU GWEITHREDU: Y Pwyllgor i dderbyn diweddariad pellach ar Barhad Busnes yn ddiweddarach yn y flwyddyn i ddarparu sicrwydd bod cynnydd yn cael ei wneud mewn perthynas â’r materion a nodwyd a bod y camau gweithredu'n cael eu cwblhau.

 

           Adfer TGCh ar ôl Trychineb

 

Dywedodd y Rheolwr Archwilio Mewnol fod adolygiad archwilio o Adfer TGCh ar ôl Trychineb arwain at farn Sicrwydd Isel iawn ynghyd ag 13 o argymhellion - o'r rhain roedd 8 yn argymhellion categori Uchel a 3 yn rhai Categori Canolig. Cyfeiriodd y Swyddog at brif ganfyddiadau’r archwiliad a’r gwendidau a nodwyd ynddo. Yn y gwaith dilynol, aseswyd bod 5 o'r argymhellion Categori Uchel wedi'u gweithredu; 3 wedi’u gweithredu'n rhannol a 5 heb eu gweithredu. Mae canfyddiadau'r gwaith dilynol ac ailasesiad o'r rheolaethau bellach yn cefnogi Barn Sicrwydd Rhesymol.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Cefnogi Parhad Busnes a Chymorth TGCh bod y rhan fwyaf o'r camau a oedd yn parhau i fod angen sylw wedi cael eu datrys gyda chaffael system wrth gefn. Bydd y system hon yn cael ei sefydlu ym Mhencadlys y Cyngor unwaith y bydd wedi adnabod lleoliad addas oddi ar y safle ac yna, bydd y caledwedd wrth gefn yn cael ei ail-leoli oddi ar y safle gan olygu y byddai modd i'r Cyngor redeg gwasanaethau allweddol o leoliad oddi ar y safle petai dim modd defnyddio’r Pencadlys.  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Archwilio Allanol - Diweddariad Rhaglen Waith Perfformiad pdf eicon PDF 215 KB

·        Cyflwyno diweddariad Archwilio Allanol ar y Rhaglen Waith Perfformiad.

 

·        Cyflwyno Adroddiad Asesiad Cydnerthedd Ariannol Ynys Môn

 

·        Cyflwyno adroddiad Ardystio Grantiau a Dychweliadau (Adroddiad i ddilyn)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd a nodwyd gan y Pwyllgor - adroddiad ar statws y prosiectau dan  Raglen Waith perfformiad yr Archwilwyr Allanol yn cwmpasu Astudiaethau Llywodraeth Leol, Astudiaethau Cenedlaethol Gwerth am Arian a gweithgarwch rheoleiddio. Rhoes Mr Andy Bruce, Swyddfa Archwilio Cymru ddiweddariad i'r Pwyllgor ar ddarnau unigol o waith ers yr adroddiad diwethaf a chadarnhaodd y byddai'n parhau i ymdrechu i dynnu allan y meysydd hynny sy’n berthnasol a / neu o ddiddordeb i lywodraeth leol o fewn yr astudiaethau cenedlaethol.

 

Gan gyfeirio at y gwaith dilynol ar argymhellion cenedlaethol fel rhan o'r gwerthusiad o gynnydd ar yr argymhellion ym mhob cyngor, nododd y Pwyllgor yn y cyd-destun hwn y byddai'n ddefnyddiol i bwrpas sicrwydd petai ganddo gofrestr o'r holl argymhellion archwilio mewnol ac / neu faterion a godwyd gan y Pwyllgor fel y gellir eu monitro'n rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn sylw. Cadarnhaodd y Pennaeth Adnoddau a'r Swyddog Adran 151 bod yna system ar gyfer cofnodi argymhellion Archwilio Mewnol sy'n atgoffa rheolwyr o’r angen i'w gweithredu, a bod ystyriaeth yn cael ei rhoi hefyd i ymestyn y system i gynnwys argymhellion archwilio eraill nad ydynt yn rhai mewnol. Dywedodd y Swyddog y byddai'n cyflwyno adroddiad ffurfiol i’r Pwyllgor yn ei gyfarfod nesaf.

 

CAMAU GWEITHREDU: Y Pennaeth Adnoddau a’r Swyddog Adran 151 Adnoddau i gyflwyno adroddiad i’r cyfarfod nesaf ar y system ar gyfer cofnodi argymhellion Archwilio Mewnol a'r bwriad i’w datblygu i gynnwys argymhellion eraill.

 

           Cyflwynwyd er ystyriaeth y Pwyllgor - adroddiad y Pennaeth Adnoddau a'r Swyddog Adran 151 yn cynnwys Asesiad Swyddfa Archwilio o Gydnerthedd Ariannol Cyngor Sir Ynys Môn yn cwmpasu tair elfen sef cynllunio ariannol, rheolaeth ariannol a llywodraethu ariannol. Derbyniwyd a nodwyd yr adroddiad gan y Pwyllgor.

 

Dywedodd Mr Andy Bruce, er bod canfyddiadau’r adroddiad yn dweud bod y Cyngor yn wynebu rhai heriau ariannol sylweddol, mae ei drefniadau cyfredol ar gyfer sicrhau cydnerthedd ariannol yn briodol ac yn parhau i wella. Yn ogystal, tybir bod y risg i’r Cyngor o ran cyflawni ei gynllun ariannol gan ystyried pob un o'r tair elfen a aseswyd (fel y nodir uchod) yn isel.

 

Dim gweithredu pellach

 

           Penderfynwyd gohirio ystyried mater ardystio grantiau a ffurflenni tan y cyfarfod nesaf.

7.

Archwilio Grantiau pdf eicon PDF 330 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Adnoddau a Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Derbyniwyd a nodwyd gan y Pwyllgor - adroddiad y Pennaeth Adnoddau a'r Swyddog Adran 151 yn nodi'r grantiau sydd angen ardystiad Archwilio Mewnol ac adolygiad gan Archwilwyr Allanol ynghyd â manylion y gwaith y mae'n rhaid i Archwilio Mewnol ei wneud er mwyn i’r grant gael ei ardystio.

 

Dim gweithredu pellach

8.

Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad cynnydd Archwilio Mewnol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw'r Pwyllgor - Adroddiad y Pennaeth Archwilio Mewnol ar waith y gwasanaeth Archwilio Mewnol yn ystod y cyfnod o 1 Ebrill, 2015 i 31 Rhagfyr, 2015. Roedd yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth am natur y gwaith a wnaed yn ystod y cyfnod a chanlyniadau hynny gan gynnwys y farn archwilio a'r argymhellion sy'n ymwneud â phob maes a adolygwyd; archwiliadau a arweiniodd at farn Sicrwydd Cyfyngedig; archwiliadau dilynol a thracio argymhellion ynghyd â rhestr o argymhellion Uchel a Chanolig sy’n parhau i fod angen sylw.

 

Dywedodd y Rheolwr Archwilio bod dadansoddiad o berfformiad y Gwasanaeth Archwilio Mewnol am y cyfnod o 1 Ebrill i 31 Rhagfyr, 2015 yn dangos bod lefelau perfformiad yn fwy neu lai yn unol â’r targed. Fodd bynnag, bydd gallu'r gwasanaeth i gyflawni Cynllun Gweithredu 2015/16 yn dibynnu ar lefel y galw am adnoddau archwilio o ran cyfeiriadau, gwaith heb ei gynllunio cyn diwedd y flwyddyn ac absenoldeb salwch. Rhoes y swyddog y wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor mewn perthynas â'r sefyllfa staffio a dywedodd y collwyd 101 o ddiwrnodau oherwydd absenoldeb salwch hyd at fis Rhagfyr 2015, ac oherwydd bod swydd wag yn y tîm, roedd 135 o ddyddiau archwilio heb eu llenwi gan wneud cyfanswm o 236 o ddiwrnodau neu 20% o'r adnoddau sydd ar gael ar gyfer cynllun archwilio 2015/16. Fodd bynnag, cadarnhaodd y Swyddog ei bod yn parhau i fod yn hyderus y byddai'r gwasanaeth yn gallu cyflawni 60% o'r Cynllun Archwilio erbyn diwedd y mis.

 

Dywedodd y Pennaeth Adnoddau a'r Swyddog Adran 151 bod y broses o ddarparu'r gwasanaeth archwilio yn dibynnu ar argaeledd staff a bod y Rheolwr Archwilio yn ymdrechu i reoli'r tîm i wella'r sefyllfa. Mae cyfrifydd dan hyfforddiant wedi cael ei neilltuo i'r gwasanaeth ar sail dros dro i ddarparu adnodd ychwanegol. Mae'r Gwasanaeth Cyllid wedi derbyn cadarnhad gan y Rheolwr Archwilio fod y Gwasanaeth Archwilio Mewnol yn gallu darparu'r lefel angenrheidiol o sylw i ddarparu sicrwydd o ran yr archwiliad o systemau ariannol allweddol yr Awdurdod; yr hyn sydd ar goll ar hyn o bryd yw’r gwerth ychwanegol y gall y gwasanaeth Archwilio Mewnol ei roi i feysydd eraill yn y Cyngor gyda'r gwasanaeth yn cael ei gyfyngu yn hytrach i ganolbwyntio ar y deilliannau craidd. Gan edrych ymlaen dros y 3 blynedd nesaf, bydd y Gwasanaeth Archwilio Mewnol, yr un modd â llawer o wasanaethau eraill, yn cael ei adolygu i benderfynu sut y bydd y gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn y dyfodol.

 

Dywedodd y Pennaeth Archwilio Mewnol fod nifer o ffactorau wedi ei gwneud yn flwyddyn heriol i'r gwasanaeth. Mae pwysau cynyddol ar y gwasanaeth y mae angen i reolwyr eu cydnabod o ran eu heffaith ar staff. Y brif dasg ar hyn o bryd yw sicrhau y gall y gwasanaeth Archwilio Mewnol roi’r sicrwydd angenrheidiol ar sail y gwaith a wnaed; dywedodd y Swyddog ei fod yn hyderus y byddai hynny'n digwydd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 8.

9.

Cynllun Strategol Archwilio Mewnol 2016/17 - 2018/19 a Chynllun Blynyddol 2016/17 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Archwilio Mewnol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er ystyriaeth a chymeradwyaeth y Pwyllgor - adroddiad y Pennaeth Archwilio Mewnol yn ymgorffori Strategaeth Archwilio Mewnol 2016/17 i 2018/19 a Chynllun Blynyddol ar gyfer 2016/17.

 

Adroddodd y Rheolwr Archwilio ar y Strategaeth a’r Cynllun Blynyddol Archwilio Mewnol fel y’u nodwyd  dan Atodiad A yr adroddiad a chyfeiriodd at Atodiadau ategol B i E a oedd yn manylu ar y Cynllun Blynyddol ar gyfer 216/17, y Cynllun Strategol ar gyfer y cyfnod 2016-2019, dadansoddiad o adnoddau Archwilio Mewnol a'r targedau perfformiad mewn perthynas â 2016/17.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Adnoddau a'r Swyddog Adran 151 ei fod yn fodlon bod y Cynllun yn cwrdd ag anghenion y Gwasanaeth Cyllid mewn perthynas â rhoi sicrwydd am y systemau ariannol allweddol a thargedu meysydd risg uchel.

 

Gofynnodd y Pwyllgor eglurhad a oedd y targed perfformiad o 85% ar gyfer gweithredu argymhellion categorïau Uchel a Chanolig yn ystod yr archwiliad dilynol ar gyfer 2016/17 yn gyraeddadwy o ystyried bod perfformiad gwirioneddol wedi bod yn llawer is na'r lefel honno yn y ddwy flynedd ddiwethaf. Dywedodd y Rheolwr Archwilio fod y gyfradd weithredu wedi codi i 76% ers 22 Chwefror eleni a’i bod yn hyderus y bydd modd cwrdd â’r targed.

 

Penderfynwyd -

 

           Cymeradwyo'r Strategaeth Archwilio Mewnol a’r Cynllun Blynyddol ar gyfer 2016/17.

           Cymeradwyo targedau perfformiad y Gwasanaeth Archwilio Mewnol ar gyfer 2016/17.

 

DIM GWEITHREDU PELLACH

10.

Adolygiad Rheoli Trysorlys Canol Blwyddyn 2015/16 pdf eicon PDF 764 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Adnoddau a Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Derbyniwyd a nodwyd gan y Pwyllgor - adroddiad y Pennaeth Adnoddau a'r Swyddog Adran 151 yn cynnwys adroddiad ar yr adolygiad canol blwyddyn o reoli'r trysorlys ar gyfer 2015/16.

 

Dim gweithredu pellach

11.

Adroddiad Blynyddol i'r Cyngor pdf eicon PDF 870 KB

Cyflwyno Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor am 2015/16 cyn ei gyflwyno i’r Cyngor Sir ym Mai, 2016.

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor ei gymeradwyo, Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu ar gyfer blwyddyn ddinesig 2015/16 cyn iddo gael ei gyflwyno i'r Cyngor Llawn ym mis Mai, 2016.

 

Nododd y Pwyllgor yr adroddiad ac awgrymodd ei fod yn gyfle euraidd i ddwyn sylw at berfformiad ar draws gwasanaethau'r Cyngor mewn perthynas â gweithredu neu beidio gweithredu ar argymhellion Archwilio Mewnol. Cynigiwyd a derbyniwyd y dylid cynnwys darpariaeth i'r perwyl hwnnw yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd derbyn yr Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2015/16 i'w gyflwyno i'r Cyngor Llawn ym mis Mai, 2016, yn amodol ar gynnwys darpariaeth a fydd yn dwyn sylw at berfformiad ar draws gwasanaethau'r Cyngor mewn perthynas â gweithredu neu beidio gweithredu ar argymhellion Archwilio Mewnol.