Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio - Dydd Llun, 25ain Gorffennaf, 2016 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.

2.

Cofnodion Cyfarfod 27 Mehefin, 2016 pdf eicon PDF 160 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu a gynhaliwyd ar 27 Mehefin, 2016.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu a gynhaliwyd ar 27 Mehefin, 2016 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

Mater yn codi -

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a'r Swyddog Adran 151 wrth y Pwyllgor bod yr archwiliad o gyfrifon 2015/16 yn mynd rhagddo ac er gwaethaf peth llithriad yn yr amserlen wreiddiol, mae'r Gwasanaeth Cyllid yn dwyn ynghyd y wybodaeth y mae’r archwilwyr allanol ei hangen a rhagwelir y byddant mewn sefyllfa i adrodd ar ganlyniad yr archwiliad o'r datganiadau ariannol ar gyfer 2015/16 i'r Pwyllgor ym mis Medi fel sy’n ofynnol.

3.

Diweddariad Adfer Trychineb TGCh

Adolygu’r cynnydd ynglyn â gweithredu ar unrhyw faterion sy’n weddill mewn perthynas ag Adfer Trychineb TGCh (Rheolwr Gwasanaeth TGCh a Rheoli Perfformiad i adrodd)

 

Cofnodion:

Cafwyd diweddariad llafar gan y Rheolwr Gwasanaeth a Rheoli Pherfformiad TGCh ar y cynnydd a wnaed ynghylch gweithredu argymhellion yr adain archwilio mewnol yn dilyn yr archwiliad a wnaed yn 2015/16 o drefniadau Adfer ar ôl Trychineb TGCh a ddarganfu diffygion yn y trefniadau llywodraethu, rheoli risg a rheolaeth fewnol yn y maes hwn.

 

Dywedodd y Swyddog bod y Gwasanaeth TGCh yn awr bron â gorffen dylunio canolfan cefnogi data bwrpasol.  Cynigir cael ail ganolfan ddata i ffwrdd o'r ystafelloedd TGCh ym mhrif swyddfeydd y Cyngor a fydd bob amser yn weithredol, ynghyd â'r brif ganolfan.  Gyda’i gilydd, byddant yn rhannu’r  pŵer prosesu o redeg systemau allweddol y Cyngor. Os digwydd na fydd modd defnyddio prif swyddfeydd y Cyngor, bydd yr ail ganolfan ddata yn gallu rhedeg gwasanaethau allweddol, sef y gwasanaethau hynny a nodwyd fel rhai hollbwysig e.e gofal cymdeithasol a chyllid. Erys rhywfaint o waith i'w wneud o ran cadarnhau bod y rhestr o wasanaethau allweddol yn gyfoes ac un elfen sydd angen sylw o ran dyluniad yw gallu’r adeilad i wrthsefyll tân a fyddai'n penderfynu am ba hyd y gall y ganolfan ddata oroesi mewn tân. Bydd gan y ganolfan ddata bŵer cydnerth drwy UPS a generadur ar y safle. Mae cyllid cyfalaf ar gyfer y cyfleuster newydd ac mae'r Gwasanaeth TGCh yn hyderus y bydd y prosiect yn cael ei gyflawni o fewn y gyllideb ac erbyn y dyddiad cwblhau a gynlluniwyd, sef Rhagfyr, 2016. Yn ogystal â bod yn gyfleuster wrth gefn, mae hwn yn ddatrysiad o ansawdd a fwriadwyd i gwrdd ag anghenion newidiol y Cyngor, gan ganiatáu iddo ddefnyddio'r pŵer prosesu fel a phan y bydd y busnes ei angen.

 

O'r wybodaeth a gyflwynwyd cymerodd y Pwyllgor sicrwydd bod cynnydd boddhaol wedi'i wneud o ran ymateb yn briodol i'r materion a nodwyd yn yr adroddiad archwilio mewnol a luniwyd yn 2015/16 o ran cryfhau'r rheolaethau mewn perthynas â threfniadau Adfer ar ôl Trychineb fel bod modd rheoli’r risgiau yn y maes hwn yn effeithiol. Nododd y Pwyllgor y byddai'n ddefnyddiol iddo gael gweld y cynllun ar gyfer adfer ar ôl trychineb yn y man. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth a Rheoli Perfformiad TGCh fod y Cynllun Adfer ar ôl Trychineb h.y y gallu i ymateb i drychineb wedi’i gyfyngu gan yr isadeiledd presennol ond y gellid rhoi i’r Pwyllgor ddyluniad o sut y byddai'r system yn gweithredu os digwydd  trychineb. Unwaith yr isadeiledd newydd wedi ei sefydlu byddai’r dyluniad hwnnw’n cael ei gynnwys yn y Cynllun Adfer ar ôl Trychineb a byddai modd cyflwyno cynllun i'r Pwyllgor hwn. Cadarnhaodd y Swyddog y bwriedir rhoi prawf ar y system cyn iddi fynd yn fyw, a hynny yn unol â gofynion arfer gorau er mwyn sicrhau ei bod yn gweithio’n iawn a bod modd adfer data mewn ffordd brydlon a dibynadwy os digwydd  trychineb.

 

Penderfynwyd derbyn a nodi'r diweddariad mewn perthynas  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol Chwarter 1 2016/17 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad cynnydd Archwilio Mewnol am Chwarter 1 2016/17.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor, adroddiad y Pennaeth Archwilio Mewnol ar waith y gwasanaeth Archwilio Mewnol yn ystod y cyfnod o 1 Ebrill, 2016 hyd at 30 Mehefin, 2016 yn unol â gofynion Safonau Archwilio Mewnol Sector Cyhoeddus y DU a Safonau CIPFA yn y DU lle mae gofyn i'r Pennaeth Archwilio Mewnol adrodd o bryd i’w gilydd i'r Pwyllgor ar berfformiad y Gwasanaeth Archwilio Mewnol o gymharu â’r Cynllun  Archwilio ar gyfer 2016/17.

 

Adroddodd y Rheolwr Archwilio Mewnol ar yr agweddau canlynol ar berfformiad y Gwasanaeth :

 

           Bod 6 o brosiectau archwilio sy'n amrywio o ran cymhlethdod yn 2015/16 nad oeddent wedi'u cwblhau na’u cyhoeddi erbyn 31 Mawrth, 2016 ac maent yn disgyn i’r categori gwaith sy'n mynd rhagddo fel y rhestrir ym mharagraff 3.1.1 yr adroddiad.

           Mae rhestr o dargedau perfformiad ar gyfer y cyfnod hyd at 30 Mehefin, 2015 wedi ei chynnwys yn Atodiad A i'r adroddiad ac mae’n dangos bod 24.19% o archwiliadau a gynlluniwyd wedi'u cwblhau ar hyn o bryd yn erbyn targed blynyddol o 80%.

           Mae rhestr o'r holl aseiniadau archwilio a gwblhawyd yn ystod y flwyddyn hyd yma gan gynnwys gwaith ar y gweill ar gyfer 2015/16 i’w gweld yn Atodiad C i'r adroddiad, ac mae’n crynhoi'r farn a’r argymhellion archwilio mewn perthynas â phob maes a adolygwyd. Ers 1 Ebrill, 2016, cyhoeddwyd dau adroddiad terfynol o Gynllun Gweithredu ‘r Gwasanaeth Archwilio Mewnol ar gyfer 2015/16 a chwech o Gynllun 2016/17.

           Mae dau o'r archwiliadau cynlluniedig a gwblhawyd yn ystod y chwarter cyntaf wedi cael eu hasesu fel rhai nad ydynt yn darparu lefelau cadarnhaol o sicrwydd. Aseswyd System Rheolaethau Allweddol Budd-daliadau Tai a’r Gyfundrefn Rheoliadau Adeiladu – Ffioedd Arolygu a Gorfodi fel rhai a oedd yn darparu lefel gyfyngedig o sicrwydd.

           Mae argymhellion Archwilio Mewnol yn cael eu graddio fel Uchel, Canolig neu Isel, a hynny yn ôl y risg fel y diffinnir hi yn Atodiad B i'r adroddiad.  Y gyfradd gweithredu fel yr oedd ar 30 Mehefin, 2016 oedd bod 72% o’r argymhellion lefel Uchel a Chanolig wedi eu cofnodi fel rhai a weithredwyd.

           Mae rhestr o'r 3 archwiliad dilynol a gynhaliwyd yn ystod y chwarter cyntaf wedi ei chynnwys yn Atodiad E i'r adroddiad ac mae’n dangos nifer yr argymhellion a dderbyniwyd ac a weithredwyd gan Reolwyr ynghyd â'r farn archwilio ddiwygiedig.

           Mae'r ymchwiliadau arbennig a gynhaliwyd gan y gwasanaeth Archwilio Mewnol yn ystod y cyfnod yn gyfanswm o 37.70 o ddiwrnodau ac fe’u hamlinellir yn Atodiad F.

           Mae dadansoddiad o berfformiad y Gwasanaeth Archwilio Mewnol am chwarter cyntaf blwyddyn ariannol 2016/17 yn dangos bod lefelau perfformiad ar hyn o bryd ar darged.

 

Rhoddodd y Pwyllgor sylw i’r wybodaeth a gyflwynwyd a nododd y canlynol:

 

           Nododd y Pwyllgor fod yr archwiliadau mewn perthynas â dau faes (Budd-dal Tai a Ffioedd Adeiladu - Cyfundrefnau Arolygu a Gorfodi) wedi dod o hyd i wendidau yn y rheolaethau allweddol yn y meysydd hynny sy'n golygu na ellir ystyried bod y trefniadau ar gyfer llywodraethu  a  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Pryderon, Cwynion a Chwythu Chwiban 2015/16 pdf eicon PDF 263 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Monitro.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor, adroddiad y Swyddog Monitro a oedd yn rhoi amlinelliad o'r materion sy'n codi o dan Bolisi Pryderon a Chwynion y Cyngor am y cyfnod 1 Ebrill, 2015 i 31 Mawrth 2016. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys crynodeb lefel uchel o faterion chwythu'r chwiban y rhoddwyd gwybod amdanynt yn ystod yr un cyfnod, yn ogystal â chwynion am y Gwasanaethau Cymdeithasol lle nad yw'r achwynydd yn ddefnyddiwr gwasanaeth.

 

(Datganodd y Cynghorydd Peter Rogers ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu yn y mater hwn ac ni chymerodd ran yn y drafodaeth na’r penderfyniad yn ei gylch. Hysbysodd Mrs Sharon Warnes y Pwyllgor ei bod yn aelod o Fwrdd Ymgynghorol yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus)

 

Amlygodd y Swyddog Monitro yr ystyriaethau canlynol:

 

           Yn ystod y cyfnod dan sylw, cofnodwyd 261 o bryderon a derbyniwyd 59 o gwynion ffurfiol.

           Mae nifer y cwynion a dderbyniwyd wedi gostwng i 59 o 65 yn 2014/15 ac o 66 yn 2013/14. Y nifer uchaf o gwynion a gofnodwyd ers casglu’r ystadegau oedd yn 2011/12 pan gofnodwyd 89 o gwynion o dan y Polisi.

           Yr ymateb cyffredinol i gwynion a gyhoeddwyd o fewn y terfyn amser penodedig (20 diwrnod gwaith) yw 70%.

           O'r 59 o gwynion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod, cafodd 10 eu cadarnhau yn llawn, 6 eu cadarnhau’n rhannol ac ni chafodd 43 eu cadarnhau o gwbl. Cyfeiriwyd 5 cwyn at yr Ombwdsmon ond ni dderbyniodd yr un ohonynt ar gyfer ymchwiliad. Mae dadansoddiad o'r pryderon a’r cwynion fesul gwasanaeth ym mharagraff 8.

           Mae'r Cyngor hefyd yn cofnodi canmoliaethau a dderbyniwyd a chofnodwyd 561 yn ystod y cyfnod perthnasol. Yn ogystal, derbyniwyd 2,059 o sylwadau cadarnhaol yn yr Oriel a 513 ym Mharc Gwledig y Morglawdd. Mae dadansoddiad o'r ganmoliaeth yn ôl gwasanaeth ym  mharagraff 9.

           Mae'r Polisi Pryderon a Chwynion yn rhoi pwyslais ar ddysgu gwersi o gwynion a thrwy hynny wella gwasanaethau. Mae'r materion a nodir ym mharagraff 10 o'r adroddiad yn cael eu nodi fel gwersi a ddysgwyd, ond nid oedd angen rhoi cynlluniau gweithredu ffurfiol ar waith ar eu cyfer.

           Yn ystod 2015/16, cyflwynwyd 5 o gwynion i'r Ombwdsmon ac roedd y cyfan ohonynt yn ymwneud â'r Gwasanaethau Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd. Ar ôl edrych ar y cwynion ac ymatebion y Cyngor, penderfynodd yr Ombwdsmon beidio ag ymchwilio i'r cwynion.

           Ceir crynodeb o'r cwynion yn erbyn Aelodau Etholedig ym mharagraff 12 yr adroddiad.

           Derbyniwyd un gŵyn yn ymwneud ag iaith yn ystod y flwyddyn ac fe’i cofnodwyd yn y dadansoddiad o'r cwynion o dan y Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes a hefyd ym mharagraff 10 o dan y ‘gwersi a ddysgwyd.’

           Mae crynodeb o gwynion chwythu'r chwiban y cafwyd gwybod amdanynt gan wasanaethau yn  2015/16 ym mharagraff 12 yr adroddiad.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a nododd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Adolygiad Bynyddol ar Reoli'r Trysorlys 2015/16 pdf eicon PDF 792 KB

Cyflwyno Adolygiad Blynyddol ar Reoli’r Trysorlys am 2015/16.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor ac ar gyfer sylwadau, adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a'r Swyddog Adran 151 a oedd yn ymgorffori’r Adolygiad Rheoli'r Trysorlys Blynyddol ar gyfer 2015/16.  Roedd yr adroddiad yn rhoi manylion y sefyllfa alldro ar gyfer gweithgareddau trysorlys yn 2015/16 ac yn cadarnhau y cydymffurfiwyd â pholisïau'r Cyngor a gymeradwywyd eisoes gan yr Aelodau.

 

Ymhelaethodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 ar yr elfennau canlynol o'r adolygiad Rheoli’r Trysorlys:

 

           Gweithgaredd Cyfalaf. Amlinellir gwir wariant cyfalaf y Cyngor a sut mae wedi ariannu yn nhabl 2.2 yr adroddiad ac mae’n un o'r dangosyddion darbodus.

           Effaith y gweithgaredd hwn ar ddyled sylfaenol y Cyngor (y Gofyniad Cyllido Cyfalaf). Mae GCC y Cyngor ar gyfer y flwyddyn yn nhabl 3.3.4 ac mae’n ddangosydd darbodus allweddol.

           Sefyllfa gyffredinol y Trysorlys yn nodi sut mae'r Cyngor wedi benthyca mewn perthynas â'i ddyledion a'r effaith ar falansau buddsoddi. Yn wyneb y cyfraddau llog cyfredol a’r cyfraddau a ragwelir, ynghyd â risgiau credyd gwrthbartïon, y dylid parhau i fewnoli benthyca, o leiaf yn y tymor byr, sydd yn y strategaeth a roddwyd ar waith ym mhob un o’r pum mlynedd diwethaf. Mae'r sefyllfa fenthyca gros wedi cynyddu yn ystod 2015/16 oherwydd y benthyciad gan y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus i brynu allan o’r system gymhorthdal ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai sy’n disodli'r hen gymorthdaliadau i Lywodraeth Cymru.

           Y ffigyrau benthyca a buddsoddi ar gyfer y Cyngor fel yr oeddent ar ddiwedd blynyddoedd ariannol 2014/15 a 2015/16. Dangosir y rhain ym mharagraff 4.1 yr adroddiad ac yn fanylach yn Atodiad 1. Ni chafodd unrhyw ddyledion eu had-drefnu yn ystod y flwyddyn oherwydd bod y gwahaniaeth o 1% rhwng cyfraddau benthyca newydd y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus a chyfraddau ad-dalu cynamserol yn golygu nad yw’n werth ad-drefnu dyledion.

           Gweithgarwch buddsoddi.  Mabwysiadwyd ymagwedd ofalus yn sgil yr ansicrwydd parhaus yn dilyn yr argyfwng ariannol yn 2008 lle byddai buddsoddiadau’n parhau i gael eu dominyddu gan ystyriaethau risg gwrthbartïon isel sy'n golygu dychweliadau cymharol isel o gymharu â chyfraddau benthyca. Yn y sefyllfa hon, y strategaeth trysorlys oedd gohirio benthyca er mwyn osgoi cost cadw lefelau uwch o fuddsoddiadau a lleihau risg gwrthbarti. Y strategaeth fuddsoddi ddisgwyliedig oedd cadw at adneuon tymor byrrach er y cedwir y gallu i fuddsoddi am gyfnodau hwy.

           Diogelwch Buddsoddiadau ac Ansawdd Credyd. Nid chafodd unrhyw sefydliadau yr oedd y Cyngor wedi buddsoddiad ynddynt anhawster i ad-dalu buddsoddiadau a llog ar amser ac yn llawn yn ystod y flwyddyn. Arweinioddcanlyniad Refferendwm y DU at israddio’r rhagolygon tymor hir ar gyfer banciau‘r DU o ragolwg sefydlog i ragolwg negyddol. Fodd bynnag mae eu graddfeydd tymor byr a chanolig yn dal i fod o fewn y graddfeydd priodol a gymeradwywyd yn  Strategaeth Rheoli Trysorlys 2015/16. Mae statws y banciau ac adneuon y Cyngor yn cael eu  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Archwilio Allanol - Adroddiad Gwella Blynyddol Ynys Môn 2015/16 pdf eicon PDF 307 KB

·        Cyflwyno Adroddiad Gwella Blynyddol Ynys Môn 2015/16 gan Archwilio Allanol

 

·        Cyflwyno Tystysgrif Cydymffurfio mewn perthynas â Chynllun Gwella 2016/17 Cyngor Sir Ynys Môn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·        Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor, adroddiad Gwella Blynyddol Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer 2015/16 mewn perthynas â Chyngor Sir Ynys Môn. ‘Roedd yr adroddiad yn crynhoi'r gwaith archwilio a wnaed yn y Cyngor ers cyhoeddi’r adroddiad diwethaf ym mis Rhagfyr 2015 ac ‘roedd yn cynnwys crynodeb o gasgliadau adroddiadau gan reoleiddwyr perthnasol eraill sef AGGCC; Estyn a Chomisiynydd y Gymraeg.

 

Gan gymryd i ystyriaeth y gwaith a wnaed yn y Cyngor gan y cyrff adolygu allanol perthnasol yn 2015/16 cadarnhaodd Mr Gwilym Bury bod yr Archwilydd Cyffredinol yn casglu, ar y cyfan, bod y Cyngor wedi parhau i wneud cynnydd yn y meysydd blaenoriaeth tra'n ailstrwythuro ei drefniadau llywodraethu ac arweinyddiaeth, a’i fod yn parhau i fod yn hunanymwybodol a'i fod yn debygol o gydymffurfio â gofynion  Mesur Llywodraeth Leol 2009 a sicrhau gwelliant yn ystod 2016/17. Er nad yw’r Archwilydd Cyfredinol yn gwneud unrhyw argymhellion statudol, mae'r adroddiad yn gwneud cynigion ar gyfer gwelliannau  mewn rhai o'r meysydd a adolygwyd.

 

Adroddodd Mr Gwilym Bury o Swyddfa Archwilio Cymru ar y canfyddiadau manwl mewn perthynas â'r meysydd allweddol a aseswyd mewn perthynas â Pherfformiad, Defnydd o Adnoddau a Llywodraethiant, gan gynnwys gwasanaethau lle gwnaed gwelliannau yn ogystal â meysydd lle mae angen gwella mwy ar berfformiad a / neu drefniadau.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y wybodaeth a gyflwynwyd a gwnaed y pwyntiau canlynol:

 

           O ran gwerthusiad Estyn o berfformiad ysgolion, nododd y Pwyllgor bod canran y disgyblion sy'n ennill pum gradd A * i A  neu gyfwerth yn Ynys Môn wedi gostwng ers 2012 a’i fod yn is na chyfartaledd Cymru yn 2015. Roedd y Pwyllgor yn pryderu am y dirywiad hwn yn enwedig yng nghyd-destun y fenter Ynys Ynni a'r cyfleoedd cyflogaeth sgil uchel sy’n debygol o gael eu creu a gofynnodd am gadarnhad bod mesurau i wella lefelau cyrhaeddiad disgyblion yn cael eu gweithredu. Hysbyswyd y Pwyllgor bod Swyddfa Archwilio Cymru wedi cyhoeddi adroddiad ar ansawdd y Gwasanaethau Gwella Ysgolion a ddarperir gan Gonsortiwm Gogledd Cymru (GwE).Roedd y Pwyllgor o’r farn y byddai'n ddefnyddiol iddo ystyried adroddiad ar GwE o gofio’r cyswllt rhyngddo â pherfformiad ysgolion, ynghyd ag unrhyw Gynllun Gweithredu a baratowyd gan y consortiwm mewn ymateb i'r adroddiad, yn ogystal â gwybodaeth am y gwasanaethau cymorth a gwella a ddarperir gan GwE o bersbectif penodol Ynys Môn.

           Yn ogystal ag asesu ac adolygu perfformiad a goruchwylio’r trefniadau a'r prosesau sy'n sail i berfformiad, nododd y Pwyllgor y dylai fod yn ystyried ehangu ei bersbectif drwy dderbyn gwybodaeth gymharol yn amlach i helpu'r Pwyllgor roi’r perfformiad yn ei gyd-destun.

           Yng nghyd-destun adroddiad Gwerthuso Perfformiad AGGCC ar gyfer 2014/15 a defnydd y Cyngor o adnoddau, gofynnodd y Pwyllgor am ddiweddariad ar y sefyllfa mewn perthynas â gwasanaethau'r Cyngor ar gyfer oedolion a phlant. Nododd y Pwyllgor, yn wyneb y problemau cyllido cenedlaethol mewn perthynas â darparu gofal cymdeithasol i oedolion a  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Archwilio Allanol - Diweddariad Rhaglen Waith Perfformiad

Diweddariad ar lafar gan Swyddfa Archwilio Cymru  ynglyn â’r  Rhaglen Waith Perfformiad.

Cofnodion:

Cafwyd diweddariad gan Mr Gwilym Bury, Swyddog Archwilio Cymru, ar statws Rhaglen Gwaith Perfformiad SAC a oedd yn cynnwys astudiaethau gwerth am arian, astudiaethau llywodraeth leol a gwaith perfformiad lleol o ran adroddiadau a gyhoeddwyd, adroddiadau a gynlluniwyd ac adroddiadau sydd ar y gweill. Nodwyd y wybodaeth gan y Pwyllgor.