Rhaglen a chofnodion

Ethol Cadeirydd/Is-Gadeirydd, Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio - Dydd Iau, 12fed Mai, 2016 4.10 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatagnaid o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.

 

2.

Cadeirydd

Ethol Cadeirydd i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu.

 

(Dygir sylw’r Aelodau ar Baragraff  3.4.8.3.5 o Gyfansoddiad y Cyngor  sy’n dweud

 

Bydd y Pwyllgor Archwilio yn penodi ei Gadeirydd ac ni fydd y person hwnnw yn aelod o unrhyw un o’r grwpiau a gynrychiolir ar y Pwyllgor Gwaith ac eithrio pan fo’r holl grwpiau wedi eu cynrychioli ar y Pwyllgor Gwaith (a gall fod yn aelod cyfetholedig)

 

Cofnodion:

Etholwyd y Cynghorydd R. Ll. Jones yn Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu.

3.

Is-Gadeirydd

Ethol Is-Gadeirydd i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu.

 

(Noder ei fod yn ofyniad gan  Swyddfa Archwilio Cymru bod yn rhaid i’r Is-Gadeirydd fodloni’r un gofynion â’r Cadeirydd h.y. ni fydd y person hwnnw yn aelod o unrhyw un o’r grwpiau a gynrychiolir ar y Pwyllgor Gwaith)

 

 

Cofnodion:

Etholwyd y Cynghorydd John Griffith yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu.