Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio - Dydd Mawrth, 4ydd Rhagfyr, 2018 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 359 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu a gynhaliwyd ar 19 Medi, 2018.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu a gynhaliwyd ar 19 Medi, 2018, a chadarnhawyd eu bod yn gywir yn amodol ar newid y cyfeiriad at 31 Mawrth, 2017 yn y pwynt bwled cyntaf o dan eitem 8.2 i 31 Mawrth, 2018.

 

Materion yn codi

 

           Adroddodd y Pennaeth Archwilio a Risg fod y Pwyllgor Gwaith wedi cymeradwyo Cylch Gorchwyl diwygiedig y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu ar 29 Hydref ac fe’i cyflwynir i’r Cyngor Llawn er mwyn ei gymeradwyo ar 11 Rhagfyr 2018.

 

Nododd y Pwyllgor fod y cylch gorchwyl newydd yn ymestyn ei gyfrifoldebau yn sylweddol; roedd y Pwyllgor yn pryderu nad yw’n cyfarfod â’r disgwyliadau hynny ar hyn o bryd a gofynnodd am sicrwydd y bydd modd iddo gyflawni popeth sy’n ddisgwyliedig ganddo o fewn yr amserlen o gyfarfodydd a drefnwyd ar gyfer y Pwyllgor yn ystod y flwyddyn.

 

Dywedodd y Pennaeth Archwilio a Risg fod canllawiau newydd CIPFA ynghylch swyddogaeth a gweithrediad Pwyllgorau Archwilio mewn sefydliadau llywodraeth leol a’r heddlu wedi cynyddu eu cyfrifoldebau ac o ganlyniad bydd rhaid darparu gwybodaeth i’r Pwyllgor fydd yn caniatáu iddo gyflawni ei holl gyfrifoldebau goruchwylio. Mae’n annhebygol bod pob pwyllgor archwilio yn cydymffurfio’n llwyr â chylch gorchwyl CIPFA ar hyn o bryd; mae canllawiau CIPFA hefyd yn cynnwys hunan-arfarniad o arfer dda a bydd y Pwyllgor Archwilio yn ei gwblhau er mwyn sefydlu beth yw ei sefyllfa bresennol; a oes angen darparu hyfforddiant ac er mwyn asesu pa adroddiadau a phapurau fydd y Pwyllgor eu hangen yn y dyfodol er mwyn cyflawni ei rôl oruchwylio uwch ac i berfformio’n effeithiol. Dywedodd y Swyddog nad oedd hi’n pryderu’n ormodol am y disgwyliadau newydd ar bwyllgorau archwilio mewn perthynas â’r Pwyllgor hwn yn benodol oherwydd proses gam wrth gam fydd ymgymryd â’r cyfrifoldebau newydd a’r bwriad yw cyflwyno’r dyletswyddau newydd yn raddol. Hefyd, mae is-grŵp Partneriaeth Archwilwyr Gogledd a Chanolbarth Cymru (Penaethiaid Archwilio) yn edrych ar y mater o safbwynt datblygu pwyllgorau archwilio er mwyn sicrhau eu bod yn gwneud yr hyn y mae disgwyl iddynt ei wneud. Bydd yr is-grŵp yn cyfarfod ym mis Ionawr, 2019 ac yn ystyried cynllun gweithredu er mwyn galluogi pwyllgorau archwilio i gydymffurfio’n llawn. Maent yn gweithio ar gynllun rhanbarthol ac un awgrym yw y byddai’n fuddiol i aelodau Pwyllgor Archwilio fynychu cyfarfod pwyllgor archwilio mewn awdurdod lleol arall er mwyn arsylwi arferion mewn pwyllgorau archwilio eraill.

 

           Nododd y Pwyllgor fod trefn yn arfer bodoli lleroedd y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd yn gallu cael cyfarfod preifat gyda’r Archwiliwr Mewnol/Allanol a bod hynny’n ddefnyddiol er mwyn codi materion ac yna adrodd yn ôl i’r Pwyllgor yn ôl yr angen.

 

Dywedodd y Pennaeth Archwilio a Risg fod y Cylch Gorchwyl newydd yn ffurfioli trefniadau i’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd gwrdd yn breifat ag Archwilio Mewnol ac Allanol heb i Reolwyr fod yn bresennol.

 

Nodwyd y wybodaeth ac ni chafodd unrhyw gamau  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2.

3.

Archwilio Allanol: Cyngor Sir Ynys Môn: Trosolwg a Chraffu - Addas i'r Dyfodol? pdf eicon PDF 381 KB

Cyflwyno adroddiad Archwilio Allanol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Archwilio Allanol ar ganlyniad yr adolygiad o drefniadau craffu yng Nghyngor Sir Ynys Môn er ystyriaeth gan y Pwyllgor. Roedd yr adolygiad yn archwilio pa moraddas ar gyfer y dyfodolyw swyddogaethau pob un o’r 22 cyngor yng Nghymru a pha mor dda mae cynghorau yn ymateb i’r heriau presennol o ran eu gweithgareddau yn ogystal â sut y mae cynghorau yn dechrau craffu ar Fyrddau Gwasanaeth Cyhoeddus. Yn ogystal, roedd yr adolygiad yn archwilio a yw’r cynghorau mewn sefyllfa dda i allu ymateb i heriau’r dyfodol ac yn arbennig pwysau parhaus ar gyllid cyhoeddus a’r posibilrwydd o symud tuag at fwy o weithio rhanbarthol rhwng awdurdodau lleol.

 

Adroddodd Mr Alan Hughes, SAC, fod yr adolygiad o swyddogaeth craffu Cyngor Sir Ynys Môn wedi canfod fod y Cyngor wedi cryfhau ei swyddogaeth trosolwg a chraffu a’i fod yn gwneud trefniadau i fodloni heriau’r dyfodol. Daeth yr adolygiad i’r casgliad hwn oherwydd-

 

           Mae’r Cyngor yn cefnogi trosolwg a chraffu, ac mae’r trefniadau sydd eu hangen i helpu aelodau pwyllgorau trosolwg a chraffu i fodloni heriau’r dyfodol yn cael eu rhoi ar waith.

           Mae arfer pwyllgorau trosolwg a chraffu yn gwella, mae’r amrywiaeth o ffynonellau tystiolaeth y maent yn eu defnyddio wedi cynyddu, ac mae blaen raglenni gwaith y pwyllgorau craffu yn alinio â gwaith y Pwyllgor Gwaith.

           Mae’r swyddogaeth trosolwg a chraffu yn cyfrannu at welliannau mewn perfformiad a gwneud penderfyniadau, ac mae’r Cyngor yn gwerthuso ei effeithiolrwydd yn rheolaidd.

 

Roedd yr adolygiad yn gwneud y ddau argymhelliad a ganlyn ar gyfer ffyrdd y gallai’r Cyngor wella effeithiolrwydd ei swyddogaeth trosolwg a chraffu er mwyn ei roi mewn gwell sefyllfa i fodloni heriau’r presennol a’r dyfodol -

 

           Dylai swyddogaeth trosolwg a chraffu'r Cyngor wella ymhellach trefniadau ar gyfer hyrwyddo ymgysylltiad y cyhoedd a rhanddeiliaid eraill mewn gweithgareddau craffu.

           Dylai’r Cyngor ategu ei brofiad drwy hunanasesu pellach, er mwyn ystyried dulliau mwy arloesol o gynnal gweithgareddau craffu.

 

Mae rhai o’r gwelliannau sydd wedi cryfhau swyddogaeth Trosolwg a Chraffu'r Cyngor yn cynnwys y canlynol -

 

           Mae swyddogaethau a chyfrifoldebau craffu Cynghorwyr yn cael eu nodi yn glir yn y Cyfansoddiad ac mae’n cynnwys disgrifiadau swyddogaethau aelodau a chadeiryddion, ac mae’r rhaglen hyfforddi a datblygu aelodau wedi galluogi’r rhai sy’n ymwneud â’r swyddogaeth craffu i ddatblygu dealltwriaeth glir o’u swyddogaethau.

           Mae’r Cyngor yn darparu hyfforddiant ar sgiliau craffu a chadeirio effeithiol fel rhan o’i raglen gynefino ar gyfer cynghorwyr a rhaglen ddatblygu’r aelodau craffu.

           Mae’r Cyngor yn cydnabod bod angen cryfhau trefniadau craffu ar y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ac wedi dechrau craffu ar elfennau o weithgareddau’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus gan gynnwys ei gynllun llesiant drafft ym mis Mawrth 2018. Mae cynllun gweithredu'r Rhaglen Gwella Sgriwtini hefyd yn nodi gwaith pellach sydd angen ei wneud mewn perthynas â chraffu ar y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae hyn yn cael ei nodi yn yr adroddiad  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Diweddariad Archwilio Mewnol pdf eicon PDF 1002 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor ei ystyried, adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg a oedd yn rhoi diweddariad ar gynnydd diweddaraf y Gwasanaeth Archwilio Mewnol mewn perthynas â darparu gwasanaeth, darpariaeth sicrwydd ac adolygiadau a gwblhawyd.

 

Amlygodd y Pennaeth Archwilio a Risg y prif bwyntiau fel a ganlyn -

 

           Cwblhawyd dau adroddiad adolygu archwilio yn ystod y cyfnod sef un yn ymwneud â Threfniadau Casglu Incwm Ysgolion a dderbyniodd farn Sicrwydd Cyfyngedig a’r llall yn ymwneud â Thwyll Tocynnau Teithio Rhatach a dderbyniodd farn Sicrwydd Rhesymol.

           Cynhaliwyd yr adolygiad Twyll Tocynnau Teithio Rhatach yn dilyn adroddiadau yn y wasg am dwyll yn erbyn Cyngor Gwynedd a chafwyd perchnogion dau gwmni bysiau yn euog o droseddau yn cynnwys cynllwynio i gyflawni twyll trwy wybodaeth ffug. Gwnaed ymholiadau gyda Chyngor Gwynedd a Gwasanaeth Cludiant y Cyngor er mwyn sicrhau nad yw’r Cyngor yn agored i’r twyll hwn. Roedd un o’r cwmnïau wedi gweithredu dau gontract gyda’r Cyngor yn ad-dalu tocynnau teithio rhatach ond nid oeddent yn llwyddiannus pan wnaeth y Cyngor ail-dendro’r contractau yn 2015. Nid oedd y cwmni arall wedi derbyn unrhyw daliadau ers Mehefin, 2014. Yn ogystal, mae’r mesurau rheoli canlynol mewn lle a ddylai sicrhau fod llai o risg i’r Cyngor wrth ad-dalu tocynnau rhatach –

           Mae Cyngor Sir y Fflint, ar ran holl Gynghorau Gogledd Cymru, yn darparu adroddiadau cryno yn uniongyrchol o’r system Wayfarer i gefnogi ad-dalu hawliadau ar gyfer tocynnau rhatach rhag i’r contractwyr allu ymyrryd â nhw. Mae Gwasanaeth Trafnidiaeth y Cyngor yn gwirio pob cais am docynnau rhatach a gyflwynwyd gan y gweithredwr bysiau yn erbyn yr adroddiadau.

           O fis Gorffennaf 2016, cyflwynodd Llywodraeth Cymru adroddiadau system fisol manwl er mwyn i Gynghorau allu monitro gweithgaredd cardiau clyfar. Mae’r system adrodd newydd yn golygu bod y Cyngor yn gallu canfod unrhyw anghysonderau ac ymchwilio iddynt, ac felly mae llai o risg o golledion yn sgil hawliadau rhy uchel neu dwyllodrus ar gyfer ad-dalu tocynnau rhatach.

           Mae’r Cyngor yn cymryd rhan yn y cynllun “Dywedwch Wrthym Unwaith” ac mae’n canslo cardiau pan fydd rhywun yn marw. Mae’r Cyngor yn cadw cardiau wedi’u difrodi ac os dywedir wrth y Cyngor bod cerdyn ar goll mae’n cael ei ganslo.

 

           Cynhaliwyd yr adolygiad Archwilio Allanol o Drefniadau Casglu Incwm Ysgolion yn dilyn cais gan y Pennaeth Dysgu blaenorol o ganlyniad i amryw o bryderon ynghylch prosesau casglu incwm ysgolion. Ymwelwyd â thair ysgol gynradd fel rhan o’r archwiliad. Canfu’r adolygiad bod polisïau a gweithdrefnau yn ymwneud ag incwm wedi dyddio; anghysondebau ynghylch rhoi cyfrif am incwm; diffyg monitro corfforaethol, trefniadau monitro dyledion yn amrywio o ysgol i ysgol; trefn lywodraethu wan ar gyfer cronfeydd ysgolion a systemau rheoli mynediad amhriodol. Roedd y rhan fwyaf o’r gwendidau a ganfuwyd yn y prosesau casglu incwm a fabwysiadwyd gan ysgolion yn deillio o ddiffyg gwybodaeth a hyfforddiant, h.y. nid yw’r Gwasanaeth Dysgu wedi cyflwyno polisïau cyfredol i ysgolion, wedi’u cefnogi gan weithdrefnau a hyfforddiant. Hefyd, mae diffyg monitro cydymffurfiaeth gorfforaethol gan y Gwasanaeth Dysgu yn golygu bod  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Archwilio Allanol : Adolygiad Dilynol o Gynigion ar gyfer Gwella - Cyngor Sir Ynys Môn pdf eicon PDF 142 KB

Cyflwyno adroddiad Archwilio Allanol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor ei ystyried, yr adroddiad Archwilio Allanol ar ganlyniad adolygiad o effeithiolrwydd trefniadau’r Cyngor ar gyfer mynd i’r afael â chynigion ar gyfer gwella ac argymhellion gan Swyddfa Archwilio Cymru. Roedd yr adroddiad hefyd yn ystyried a yw’r Cyngor yn gwerthuso i ba raddau y mae ei gamau gweithredu yn cyfrannu at gyflawni perfformiad gwasanaeth a chanlyniadau gwell i ddinasyddion.

 

Adroddodd Charlotte Owen, SAC, fod yr Archwiliwr Cyffredinol wedi cyhoeddi ei Adroddiad Gwella Blynyddol ar gyfer y Cyngor ym mis Rhagfyr 2015. Daeth yr adroddiad, a oedd yn cynnwys canfyddiadau o Asesiad Corfforaethol 2015, i’r casgliad bod hunanymwybyddiaeth y Cyngor a’i hanes o wella trefniadau llywodraethu a rheoli yn debygol o’i helpu i wneud trefniadau i sicrhau gwelliant parhaus yn 2015/16. Roedd yr adroddiad yn cynnwys 6 chynnig ar gyfer gwella y manylir arnynt yn yr adroddiad uchod. Er mwyn cael sicrwydd bod gan y Cyngor drefniadau effeithiol ar gyfer mynd i’r afael â’r cynigion ar gyfer gwella, ym mis Mehefin 2018 adolygodd SAC y cynnydd yr oedd y Cyngor wedi’i wneud wrth weithredu ar y cynigion hynny ar gyfer gwella ac effeithiolrwydd ei drefniadau i wneud hynny. Canfu’r adolygiad fod gan y Cyngor brosesau boddhaol ar gyfer mynd i’r afael â’r cynigion ar gyfer gwella ac argymhellion gan Swyddfa Archwilio Cymru ond y gellid cryfhau trefniadau er mwyn rhoi mwy o sicrwydd o ran cynnydd i aelodau etholedig. Daeth yr adolygiad i’r casgliad hwn oherwydd

 

           Mae gan y Cyngor drefniadau boddhaol ar gyfer ymateb i’r cynigion ar gyfer gwella ac argymhellion gan Swyddfa Archwilio Cymru, ond nid yw aelodau etholedig yn cael gwybod yn gyson am gynnydd; ac

           Mae’r Cyngor wedi mynd i’r afael â’r cynigion ar gyfer gwella a gyflwynwyd yn yr adroddiadau dethol.

 

Mae’r adroddiad yn gwneud y cynigion a ganlyn ynglŷn â sut y gallai’r Cyngor wella ei drefniadau ar gyfer ymateb i gynigion ar gyfer gwella ac argymhellion - 

 

           Sicrhau bod aelodau etholedig yn derbyn gwybodaeth am gynigion ar gyfer gwella ac argymhellion gan Swyddfa Archwilio Cymru, a chynnydd y Cyngor yn ymwneud â nhw drwy:

 

           Ddosbarthu holl adroddiadau Swyddfa Archwilio Cymru i aelodau’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu er gwybodaeth, ac

           Adrodd yn flynyddol i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu ar gynnydd a wnaed tuag at gynigion ar gyfer gwella ac argymhellion Swyddfa Archwilio Cymru sy’n weddill.

 

Wrth dderbyn yr adroddiad a’i gynigion, nododd y Pwyllgor, mewn perthynas â’r sylwadau ynglŷn â’r Gwasanaeth TGCh, fod yr argymhelliad sy’n weddill yn dilyn yr adolygiad allanol  Gwasanaeth TGCh yn ymwneud â defnyddio trefniadau rheoli prosiectau corfforaethol mewn prosiectau sy’n ymwneud â thechnoleg. Ni chafodd yr argymhelliad ei weithredu oherwydd bod y Cyngor yn penderfynu ar ei ddull o reoli prosiect. Nododd y Pwyllgor yn ogystal ei fod wedi nodi yn y gorffennol pa mor ddefnyddiol yw mewnbwn rheoli prosiect wrth weithredu argymhellion Archwilio Mewnol fel modd o gydlynu’r ymateb i weithredu  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Rheoli'r Trysorlys: Adolygiad Canol Blwyddyn 2018/19 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor ei ystyried, adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn ymgorffori adolygiad o sefyllfa a gweithgareddau Rheoli Trysorlys canol blwyddyn ariannol 2018/19 yn unol â gofynion Côd Ymarfer CIPFA ar Reoli Trysorlys.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 at y prif bwyntiau canlynol

 

           Roedd gan y Cyngor £6.089m o fuddsoddiadau ar 30 Medi, 2018 a’r enillion o’r portffolio buddsoddiadau am 6 mis cyntaf y flwyddyn oedd 0.65%. Mae rhestr lawn o fuddsoddiadau ar 30 Medi, 2018 i’w weld yn Atodiad 3 yr adroddiad.

           Ni thorrwyd y terfynau a gymeradwywyd o fewn y Strategaeth Fuddsoddi Blynyddol yn ystod 6 mis cyntaf 2018/19.

           Mae’r Cyngor wedi cyllidebu y bydd yn derbyn incwm o £0.017m o’i fuddsoddiadau ar gyfer 2018/19 ar ei hyd; mae perfformiad am y flwyddyn hyd yma’n uwch na’r gyllideb, gyda £0.023m wedi’i dderbyn ar ddiwedd Chwarter 2. Y rheswm am hyn yw’r cynnydd yn y gyfradd banc o 0.5% i 0.75% a ddigwyddodd yn Awst 2018.

           Ni fenthycwyd unrhyw arian yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn ariannol. Fodd bynnag, rhagwelir y bydd angen benthyca arian yn ystod ail hanner y flwyddyn.

           Yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn ariannol, roedd benthyciad tymor byr gan y Tyne & Wear Pension Fund ym mis Ionawr 2018 yn aeddfedu ac ad-dalwyd y benthyciad ym mis Ebrill 2018.

           Mae cyfleoedd i aildrefnu dyledion wedi bod yn gyfyngedig iawn yn yr hinsawdd economaidd bresennol fel y manylir ym mharagraff 6.4 yr adroddiad. Ni aildrefnwyd unrhyw ddyledion hyd yma yn ystod y flwyddyn ariannol hon.

           Ers i Chwarter 2 ddod i ben, mae’r Awdurdod wedi trefnu i fenthyca £5m gan Gyngor Sir Gogledd Efrog. Bydd y benthyciad yn digwydd o 16/10/18 hyd at 16/01/19 ar gyfradd o 0.85%. Mae’r penderfyniad hwn yn unol â’r strategaeth fenthyca bresennol, sef cymryd benthyciadau tymor hirach dim ond pan ydym angen yr arian yn hytrach na benthyca i fanteisio ar gyfraddau benthyca isel yn unig, am fod y gost o wneud hynny’n rhy uchel.

           Mae Adran 7 yr adroddiad yn dangos sefyllfa a pherfformiad cyfalaf y Cyngor mewn perthynas â’r Dangosyddion Darbodus allweddol, yn cynnwys dangosyddion ar gyfer gwariant cyfalaf (Tabl 7.2 yn yr adroddiad).

           Mae Tabl 7.4.3 yr adroddiad yn dangos y Gofyniad Cyllido Cyfalaf, sef angen allanol sylfaenol i fenthyca at ddibenion cyfalaf. Ar hyn o bryd, mae’r Awdurdod ychydig yn is na’r Gofyniad Cyllido Cyfalaf gwreiddiol a ragwelwyd oherwydd y tanwariant a ragwelir o ran benthyca, o ganlyniad yn bennaf i raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif a’r dull cyllido diwygiedig ar gyfer Gofal Ychwanegol Seiriol.

           Mae’r Awdurdod hefyd yn cadw o fewn y Terfyn Gweithredol sydd yn dangos y lefel dyled disgwyliedig yn ystod y cyfnod. Y swm benthyca agoriadol ar gyfer 2018/19 oedd £117.778m a rhagwelir y bydd y swm yn £125.623m  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Archwilio Allanol : Llythyr Archwilio Blynyddol 2017/18

Cyflwyno’r Llythyr Archwilio Blynyddol a’r Llythyr Cwblhau Archwiliad am 2017/18.

 

(Adroddiad i ddilyn)

Cofnodion:

Ymddiheurodd Mr Alan Hughes, SAC, i’r Pwyllgor am beidio â chyflwyno Llythyr Archwilio Cyngor Sir Ynys Môn 2017/18 i’r cyfarfod; mae oedi mewn perthynas â Llythyr Ynys Môn ynghyd ag ambell i gyngor arall o ganlyniad i ymarferiad cymedroli yn ymwneud â phrosesau mewnol Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer gwirio cynnwys sy’n ymwneud â phob cyngor. Disgwylir y bydd y Llythyr Archwilio yn cael ei gwblhau yn fuan ond yn anffodus ni wnaethpwyd hynny mewn pryd ar gyfer y cyfarfod hwn. Fodd bynnag, bydd y llythyr yn cael ei anfon at y Cyngor ddiwedd yr wythnos hon neu ddechrau’r wythnos nesaf. Disgwylir y bydd y Llythyr Archwilio ar gyfer blwyddyn ariannol 2017/18 yn cyfeirio at yr her y mae cynghorau ar draws Cymru yn ei wynebu ac mae’r oedi yn rhannol oherwydd yr angen i gytuno ar sut i eirio’r neges hon.

 

Wrth dderbyn yr esboniad am absenoldeb Llythyr Archwilio 2017/18 a nodi nad yw’r oedi o ganlyniad i unrhyw broblem yn ymwneud â’r Cyngor hwn, mynegodd y Pwyllgor ei siom na fydd nawr yn gweld y Llythyr tan ei gyfarfod nesaf ym mis Chwefror 2019, sydd yn agosáu at ddiwedd y flwyddyn ariannol bresennol, ac roedd y Pwyllgor o’r farn fod yr oedi hwnnw yn ormodol.

 

Cadarnhaodd Mr Alan Hughes y byddai’n cyfleu pryderon y Pwyllgor i Swyddfa Archwilio Cymru ond dywedodd, er ei bod yn arferiad gan Ynys Môn i gyflwyno’r Llythyr Archwilio i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu, nid yw pob cyngor yn gwneud hynny.

 

Penderfynwyd derbyn yr esboniad am yr oedi wrth gyflwyno Llythyr Archwilio 2017/18 Ynys Môn.

 

NI CHYNIGIWYD UNRHYW GAMAU GWEITHREDU PELLACH

8.

Blaen Rhaglen Waith 2018/19 pdf eicon PDF 346 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.

Cofnodion:

Cyflwynwyd Blaen Raglen Waith y Pwyllgor er mwyn ei hadolygu neu gyflwyno sylwadau arni.

 

Penderfynwyd nodi a derbyn y Blaen Raglen Waith yn amodol ar gynnwys Llythyr Archwilio 2017/18 fel eitem ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor ym mis Chwefror, 2019.

 

CAMAU GWEITHREDU YCHWANEGOL: Y Pennaeth Archwilio a Risg i ddiweddaru’r Blaen Raglen Waith yn ôl y gofyn.