Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio - Dydd Mawrth, 23ain Gorffennaf, 2019 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

Wrth groesawu pawb a yn bresennol i gyfarfod cyntaf Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu’r flwyddyn ddinesig newydd, diolchodd y Cadeirydd i’r Cynghorydd R. Llewelyn Jones am ei gefnogaeth yn ystod ei dymor fel Is-gadeirydd y Pwyllgor

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

2.

Cofnodion y Cyfarfodydd Blaenorol pdf eicon PDF 297 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol

 

·         23 Ebrill, 2019

·         14 Mai, 2019 (ethol Cadeirydd/Is-Gadeirydd)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu a gynhaliwyd ar y dyddiadau a nodir isod a chadarnhawyd eu bod yn gywir yn amodol ar yr isod -

 

           23 Ebrill, 2019 gyda diwygiad i'r cyfeiriad a wneir o dan eitem 4 bod Gwasanaeth Archwilio Mewnol 40% oddi ar y targed o ran cyflawni ei Gynllun Gweithredol fel ei fod yn darllen 60% oddi ar y targed.

 

Yn codi o hynny -

 

Rhoes y Pennaeth Archwilio a Risg ddiweddariad i’r Pwyllgor mewn perthynas â'r holiadur hunan-arfarnu trwy ddweud bod y Gwasanaeth Archwilio Mewnol yn gweithio gyda Chris Tidswell o CIPFA Cymru i edrych ar effeithiolrwydd y Pwyllgor Archwilio. Byddai'n arsylwi cyfarfod heddiw ar cyfarfod ar 3 Medi ac ar ôl hynny, byddai pecyn gwaith yn cael ei lunio i asesu pa mor effeithiol yw'r Pwyllgor a sut y gall gyflawni ei Gylch Gorchwyl.

 

           14 Mai, 2019 (ethol Cadeirydd ac Is-Gadeirydd)

 

3.

Datganiad o'r Cyfrifon Drafft a Datganiad Llywodraethu Drafft 2018/19 pdf eicon PDF 4 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 yn ymgorffori'r Datganiad cyn-archwiliad drafft o'r Cyfrifon ar gyfer blwyddyn ariannol 2018/19 ynghyd â'r Datganiad Llywodraethu drafft ar gyfer 2018/19 i'w hystyried gan y Pwyllgor.

 

Diolchodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 i'r timau Cyfrifeg a Civica am eu gwaith o ran helpu i sicrhau bod y cyfrifon drafft wedi cael eu cwblhau a'u cyhoeddi yn unol â'r dyddiad cau statudol a oedd, ar gyfer blynyddoedd ariannol 2018/19 a 2019/20, wedi ei ddwyn ymlaen i 15 Mehefin. Mewn gwirionedd, cwblhawyd y cyfrifon drafft erbyn diwedd mis Mai, oherwydd mai dyma fydd y dyddiad cau statudol ar gyfer 2020/21 a’r blynyddoedd wedyn.  Mae'r Datganiad o'r Cyfrifon wedi cael ei baratoi a'i nodi yn unol â rheoliadau ac arferion cyfrifyddu ac fe'i cynhyrchir yn flynyddol i roi gwybodaeth i etholwyr, trethdalwyr lleol, Aelodau'r Cyngor, gweithwyr a phartïon eraill â diddordeb am gyllid y Cyngor a sut mae'n gwario arian cyhoeddus. Cyfeiriodd y Swyddog at y prif ddatganiadau ariannol gan dynnu sylw at y pwyntiau allweddol sy'n codi ohonynt fel a ganlyn –

 

           Adroddiad naratif - mae'n adrodd ar hanes perfformiad ariannol y Cyngor am y flwyddyn ac yn darparu canllawiau ar gyfer y materion mwy arwyddocaol yr adroddir arnynt yn y cyfrifon gan gynnwys y cyflawniadau, y materion a'r risgiau allweddol sy'n effeithio ar y Cyngor. Yn 2018/19, nododd y Cyngor orwariant o £ 633k yn erbyn gweithgaredd a gynlluniwyd o

£ 130.9m (cyllideb net) a chyflawnwyd £ 2.064m o arbedion. Mae'r tabl yn 3.4.1 yn adlewyrchu'r gyllideb derfynol ar gyfer 2018/19 a’r incwm a’r gwariant gwirioneddol yn ei herbyn. Roedd tanwariant yn y Gyllideb Gyfalaf yn y flwyddyn gyda chyfanswm y gwariant yn £ 30.678m yn erbyn cyfanswm o £ 62.881m yn y Gyllideb Gyfalaf ar gyfer 2018/19.

           Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr – mae’n dangos y gost gyfrifyddol o ddarparu gwasanaethau yn ystod y flwyddyn yn unol ag arferion cyfrifeg yn hytrach na'r swm a fydd yn cael ei ariannu o drethi a dyna’r rheswm am y diffyg o £ 20.744m sy'n adlewyrchu’r ffaith bod eitemau o wariant heblaw arian parod fel sy’n ofynnol yn ôl arferion cyfrifyddu (atebolrwydd pensiwn, dibrisiant, ailbrisio asedau) yn cael eu cynnwys yn hytrach na manylion am llif arian parod go iawn y Cyngor.

           Crynodeb o'r Symudiadau yng Nghronfeydd Wrth Gefn y Cyngor (tudalen 24 o'r cyfrifon) – mae’n dangos y gorwariant net o £ 633k am y flwyddyn yn unol â'r adroddiad ar yr alldro refeniw a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwaith fel rhan o'r broses monitro ariannol a'r effaith ar y Gronfa Wrth Gefn Gyffredinol.  Mae’r ffigwr yn cynrychioli'r gwahaniaeth rhwng gwariant y cyllidebwyd ar ei gyfer a gwariant gwirioneddol am y flwyddyn. Mae'r tabl Crynodeb o Symudiadau hefyd yn dangos bod gwared o  £ 805k ym malansau’r Cyfrif Refeniw Tai am y flwyddyn a bod cyfanswm cronfeydd wrth gefn defnyddiadwy'r Cyngor ar 31 Mawrth, 2019 yn £ 24.844m o gymharu â £ 24.069m ar 1 Ebrill, 2018.

•  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Archwilio Allanol: Adroddiad Gwella Blynyddol - Cyngor Sir Ynys Môn pdf eicon PDF 377 KB

Cyflwyno adroddiad Archwilio Allanol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad Gwella Blynyddol yr Archwiliwr Allanol ar gyfer 2018/19 mewn perthynas â Chyngor Sir Ynys Môn i'w ystyried gan y Pwyllgor. Roedd yr adroddiad yn crynhoi'r gwaith a wnaed ers yr adroddiad Gwella Blynyddol diwethaf gan gynnwys gwaith y rheolyddion perthnasol.

 

Dywedodd Mr Alan Hughes, Arweinydd Archwilio Perfformiad (WAO) fod y Cyngor yn cwrdd â'i ofynion statudol mewn perthynas â gwelliant parhaus ond, fel gyda phob cyngor yng Nghymru, mae'n wynebu heriau wrth symud ymlaen. Barn yr Archwilydd Cyffredinol yw bod y Cyngor, ar sail, ac yn gyfyngedig, i'r gwaith a wneir gan Swyddfa Archwilio Cymru a rheoleiddwyr perthnasol, yn debygol o gydymffurfio â gofynion y Mesur Llywodraeth Leol (2009) yn ystod 2019/20. Fodd bynnag, cydnabyddir bod pob cyngor yn wynebu pwysau ariannol sylweddol a fydd angen sylw parhaus yn y tymor byr a'r tymor canol i'w galluogi i gyrraedd sefyllfa ariannol sefydlog a chynaliadwy. Er na wnaed unrhyw argymhellion ffurfiol gan yr Archwilydd Cyffredinol yn ystod y flwyddyn, gwnaed nifer o gynigion ar gyfer gwella ac atgynhyrchir y rhain yn yr adroddiad. Bydd cynnydd yn erbyn y cynigion hyn ac yn erbyn yr argymhellion perthnasol o adroddiadau cenedlaethol (Atodiad 3 i'r adroddiad) yn cael ei fonitro gan yr Archwilwyr Allanol fel rhan o'u gwaith ar gyfer asesu gwelliant.

 

Penderfynwyd derbyn a nodi Adroddiad Gwella Blynyddol yr Archwilwyr Allanol ar gyfer Ynys Môn.

 

NI WNAED UNRHYW GYNIGION YCHWANEGOL

5.

Diweddariad ar Gynnydd Archwilio Mewnol pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried gan y Pwyllgor - adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg a oedd yn cynnwys diweddariad ar gynnydd diweddaraf y gwasanaeth Archwilio Mewnol o ran darparu gwasanaethau, darparu sicrwydd a’r adolygiadau a gwblhawyd.

 

Amlygodd y Pennaeth Archwilio a Risg y prif bwyntiau fel a ganlyn -

 

           Bod tri adroddiad archwilio wedi'u cwblhau yn y cyfnod. Arweiniodd y cyntaf a oedd yn ymwneud â CONTEST - Gwrthderfysgaeth - at farn Sicrwydd Rhesymol gyda'r adolygiad yn canfod bod y Cyngor yn gwneud cynnydd da wrth weithredu fframwaith effeithiol o reolaethau i sicrhau y gall gyflawni ei gyfrifoldebau “Atal” statudol yn llwyddiannus mewn perthynas â Strategaeth Gwrthderfysgaeth Llywodraeth EM (CONTEST) 2018. Roedd yr ail adroddiad yn ymwneud â Diwygio Lles - Incwm Rhenti Tai a arweiniodd hefyd at farn Sicrwydd Rhesymol gyda'r adolygiad yn dod i'r casgliad bod gan y Cyngor nifer o reolaethau gweithredol effeithiol ar waith i reoli'r effaith ar allu'r Cyngor i gasglu incwm Rhent Tai. Yn achos y ddau adolygiad, nododd y gwasanaeth Archwilio Mewnol fod sgôp ar gyfer gwella rheolaethau yn y dyfodol yn y meysydd a archwiliwyd gyda hynny’n cael ei adlewyrchu mewn cynlluniau gweithredu y cytunwyd arnynt gyda'r Rheolwyr (ar gael i aelodau'r Pwyllgor ar gais i'r Pennaeth Archwilio a Risg). Cododd y gwasanaeth Archwilio Mewnol 4 Prif Risg / Mater ar yr adolygiad CONTEST - ac 1 Mater / Risg Mawr a 3 Cymedrol mewn perthynas â Diwygio Lles - Incwm Rhent Tai ac ymhelaethwyd ar y rhain gan y Swyddog.

 Y trydydd adroddiad archwilio a gwblhawyd oedd gwiriad iechyd i sicrhau bod llywodraethu gwybodaeth a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol wedi cael eu sefydlu’n gadarn ar draws yr holl ysgolion ar yr Ynys a chynhaliwyd y gwiriad gan Strategic Risk Practice Zurich Risk Engineering (ZRE) fel darn o waith ymgynghori ar gyfer gwybodaeth fewnol yn unig ac sydd ddim felly’n darparu sgôr sicrwydd.

           Cwblhawyd yr un Adolygiad Dilyn-i-Fyny yn ystod y cyfnod yn ymwneud â Chydymffurfiad â Safonau Diogelwch Data'r Diwydiant Cerdyn Talu a arweiniodd at uwchraddio'r sgôr Sicrwydd Cyfyngedig wreiddiol i farn Sicrwydd Rhesymol. Mae adolygiadau dilyn-i-fyny mewn perthynas â Chasglu Incwm Ysgolion Cynradd (adolygiad dilyn-i-fyny cyntaf) a Dyledwyr Amrywiol (yr ail adolygiad dilyn-i-fyny) yn mynd rhagddynt ar hyn o bryd. Mae tri o adolygiadau dilyn-i-fyny pellach wedi'u hamserlennu ar gyfer gweddill y flwyddyn mewn cysylltiad â'r meysydd a restrir ym mharagraff 21 yr adroddiad.

           Bu gostyngiad bach o ran mynd i'r afael â materion/risgiau Uchel/Coch/ Ambr o 89% yn Chwarter 4 2018/19 i 87% yn Chwarter 1 2019/10 er nad oes unrhyw faterion/risgiau Uchel neu Goch sydd heb gael sylw. Ceir esboniad am y dirywiad ym mharagraff 23 yr adroddiad.

           Roedd y gwasanaeth Archwilio Mewnol yn gobeithio cwblhau ac adrodd ar ganlyniad pedwar archwiliad i'r Pwyllgor yn y cyfarfod hwn (Trefniadau Parhad Busnes, Dilyn-i-Fyny Corfforaethol, Gwydnwch TG a Gwiriad Iechyd Llywodraethu Gwybodaeth Gorfforaethol) ond oherwydd y rhesymau a amlinellir ym mharagraff 29 yr adroddiad, ni fu modd gwneud hynny. Yn dilyn yr argymhelliad a wnaed yn y  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Archwilio Allanol:Archwiliad o " Hyrwyddo Ynys Môn er mwyn annog Datblygwyr Mawr i Fuddsoddi yn yr Ynys" pdf eicon PDF 353 KB

Cyflwyno adroddiad Archwilio Allanol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor ei ystyried – adroddiad Archwilio Allanol ar ganfyddiadau ei ymchwiliad i gam y mae’r Cyngor yn ei gymryd i gwrdd â’i amcanion llesiant, sef hyrwyddo Ynys Môn i annog datblygwyr mawr i fuddsoddi yn yr Ynys a defnyddio hyn fel catalydd i ddatblygu busnes a swyddi ar yr Ynys.

 

Adroddodd Mr Alan Hughes, Swyddog Arweiniol Archwilio Perfformiad (SAC), fod gofyn statudol i Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, archwilio cyrff cyhoeddus i asesu i ba raddau maent wedi gweithredu yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy wrth iddynt osod eu hamcanion llesiant a chymryd camau i gwrdd â hwy. Yn yr adroddiad uchod, mae’r Archwilydd Allanol wedi ceisio sefydlu p’un a yw’r Cyngor yn gweithredu yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy yn ei gam i hyrwyddo Ynys Môn er mwyn annog datblygwyr mawr i fuddsoddi yn yr Ynys. Er mwyn gweithredu’n unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy, mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus roi ystyriaeth i’r “pum ffordd o weithio” fel y cânt eu diffinio yn y ddogfen “Yr Hanfodion” yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 sy’n ymwneud â diogelu’r gallu i gwrdd ag anghenion tymor hir; gweithredu i atal problemau rhag digwydd neu fynd yn waeth; ystyried integreiddio amcanion llesiant y corff cyhoeddus gyda’u hamcanion eraill neu amcanion corff cyhoeddus arall; gweithredu gan gydweithio ag unrhyw berson arall neu rannau gwahanol o’r corff ei hun a chynnwys pobl sydd â diddordeb mewn cyflawni’r amcanion llesiant gan sicrhau bod y bobl hynny’n adlewyrchu amrywiaeth yr ardal y mae’r corff yn ei gwasanaethu.

 

Daeth yr adroddiad i’r casgliadau hyn –

 

           Mae’r Cyngor wedi gweithredu yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy o ran datblygu’r cam, ond mae cyfleoedd i wreiddio’r pum ffordd o weithio ymhellach.

           Mae’r Cyngor wedi ceisio cael dealltwriaeth drylwyr o effeithiau anffafriol prosiect ar raddfa fawr, ac mae’n deall pwysigrwydd casglu data i oleuo’i weithgareddau ataliol.

           Mae’r Cyngor yn ystyried sut y gallai ei gam gyfrannu at y saith nod llesiant cenedlaethol a’i amcanion llesiant eraill, ond nid yw wedi ystyried yn ffurfiol sut y bydd y datblygiad yn effeithio ar amcanion llesiant cyrff cyhoeddus eraill.

           Mae’r Cyngor wedi cymryd camau i gydweithio gyda phartneriaid ac adlewyrchu anghenion a dymuniadau cymunedau lleol, ond gallai wella’r modd y mae’n adolygu effeithiolrwydd y cydweithio.

           Mae’r Cyngor wedi cynnwys rhan-ddeiliaid ym mhrosiect Wylfa Newydd, ond mae angen iddo ddatblygu ei ddull o gynnwys amrywiaeth lawn y gymuned.

 

Ar ôl i’r gwaith maes ddod i ben, cyflwynwyd canfyddiadau’r Archwilydd Allanol i Swyddogion y Cyngor mewn gweithdy ym mis Mawrth, 2019 lle dechreuodd y Cyngor ystyried ei ymateb i’r canfyddiadau. O ganlyniad i’r trafodaethau yn y gweithdy a myfyrio ymhellach ar y canfyddiadau, mae’r Cyngor wedi datblygu cyfres o gamau gweithredu o dan themâu penodol ac mae’r rhain wedi eu rhestru yn y tabl yn Rhan 2 yr adroddiad.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod yr archwiliad yn ceisio gofyn a yw’r Cyngor wedi dechrau arddel egwyddorion y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ei waith  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Datganiad Polisi Rheoli Risg pdf eicon PDF 377 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor ei ystyried – adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg yn ymgorffori Datganiad Rheoli Risg sy’n amlinellu cyfrifoldebau o fewn y Cyngor ar gyfer adnabod, rheoli a monitro risgiau.

 

Adroddodd y Pennaeth Archwilio a Risg, fel rhan o’i drefniadau ar gyfer llywodraethiant corfforaethol da, fod angen i’r Cyngor gael datganiad clir o’i bolisi cyffredinol ar gyfer rheoli risgiau wrth iddo gyflawni ei amcanion a darparu ei wasanaethau. Fel sefydliad mawr ac amrywiol, bydd yr archwaeth risg yn amrywio yn ôl y weithgaredd a wneir, a bydd yr archwaeth am risg a’r goddefgarwch i risg yn wahanol trwy’r sefydliad cyfan. Cydnabyddir fod rhaid i’r Cyngor dderbyn rhyw elfen o risg er mwyn gallu cyflawni ei amcanion. Felly, y polisi yw sicrhau diwylliant o gymryd risg yn seiliedig ar wybodaeth. Mae archwaeth risg y sefydliad yn ei gynorthwyo i benderfynu beth sy’n risg berthnasol; beth sy’n risg uchel a beth sy’n risg isel. Wrth benderfynu ar yr archwaeth risg, gall y Cyngor flaenoriaethu risg yn fwy effeithiol er mwyn cymryd camau lliniaru a dyrannu adnoddau’n well.

 

Dywedodd y Swyddog fod sefydlu archwaeth risg y Cyngor yn ddarn o waith yr hoffai ei wneud ar y cyd â’r Aelodau a’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth fel y bydd modd llunio datganiad archwaeth risg clir a’i gymeradwyo. Mae sefyllfa gyfredol y Cyngor o ran ei archwaeth risg i’w weld yn y Matrics Asesiad Rheoli Risg ar ddiwedd yr adroddiad a byddwn yn parhau i ddefnyddio hwn hyd nes y cyhoeddir y datganiad polisi. Bydd gwahanol lefelau o oddefgarwch risg yn berthnasol trwy’r Cyngor, yn dibynnu ar y gwasanaeth unigol e.e. bydd lefel y goddefgarwch risg yn y Gwasanaethau Cymdeithasol yn wahanol i lefel goddefgarwch y Gwasanaethau Priffyrdd.

 

Penderfynwyd derbyn y Datganiad Polisi Rheoli Risg fel y cafodd ei gyflwyno a chymeradwyo i’r Pwyllgor Gwaith ei fod yn ei gymeradwyo.

 

NI WNAED UNRHYW GYNNIG YCHWANEGOL

8.

Adroddiad Yswiriant Blynyddol 2018/19 pdf eicon PDF 551 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor ei ystyried – adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg yn ymgorffori’r adroddiad Yswiriant Blynyddol ar gyfer 2018/19.

 

Adroddodd y Rheolwr Archwilio a Risg fod yr adroddiad yn rhoi crynodeb o’r hawliadau a wnaed yn erbyn trefniadau yswiriant allanol a mewnol y Cyngor am y cyfnod 1 Ebrill, 2014 i 31 Mawrth, 2019 yn seiliedig ar y dyddiad y digwyddodd y digwyddiad ac nid ar y dyddiad y gwnaed neu gyflwynwyd yr hawliad, ac ar gyfer hawliadau a gyflwynwyd cyn 1 Ebrill, 2019. Mae’r adroddiad hefyd yn rhoi sylwadau ar dueddiadau o ran hawliadau, a heriau at y dyfodol. Mae’r crynodeb o hawliadau sydd yn Atodiad A yr adroddiad hefyd yn darparu dadansoddiad fesul polisi, fesul blwyddyn ariannol ar gyfer y Cyngor cyfan o nifer yr hawliadau sydd wedi cael eu talu, yr hawliadau a gafodd eu setlo heb gostau neu heb orfod gwneud taliad, a hawliadau sydd heb eu setlo hyd yn hyn. Mae’r crynodeb yn cynnwys y swm a dalwyd yn achos yr hawliadau hynny sydd wedi eu setlo, a’r swm sydd wedi’i gadw wrth gefn ar gyfer yr hawliadau hynny sydd heb eu setlo eto.

 

Mewn ymateb i ymholiadau gan y Pwyllgor, rhoddodd y Rheolwr Risg ac Yswiriant eglurhad ar y canlynol –

 

           Mae gan y Cyngor yswiriant anaf personol ar gyfer staff a gwirfoddolwyr sy’n gweithredu ar ran y Cyngor, lle bynnag y bo hynny. Fodd bynnag, ni fyddai’r yswiriant yn berthnasol yn achos crefftwyr proffesiynol sy’n gwirfoddoli eu gwasanaethau e.e. trydanwr yn gwirfoddoli i wneud darn o waith mewn ysgol.

           Bod y swm o £174,199 sydd wrth gefn ar gyfer hawliadau atebolrwydd cyhoeddus yn 2018/19, er yn uwch na’r symiau wrth gefn ar gyfer y blynyddoedd cynt, wedi’i osod yn erbyn ffigwr cyfatebol uwch o 39 o hawliadau sydd dal yn agored yn 2018/19 sy’n cynnwys hawliadau mwy diweddar a fydd yn cymryd yn hirach i’w cau, p’un a gânt eu setlo ar gost neu heb gost.

           Bod y mwyafrif (dros 50%) o hawliadau atebolrwydd cyhoeddus yn gysylltiedig â phriffyrdd e.e. llithro, baglu neu godwm ar lithrfa oedd dan reolaeth y Cyngor, a thwll yn y ffordd yn achosi difrod i gerbydau.

           Bod y Cyngor yn ceisio dysgu o hawliadau a wnaed. Mewn achosion lle mae’r hawliadau o ganlyniad i gamgymeriadau gan yrwyr y Cyngor, er enghraifft, mae’r Gwasanaethau Priffyrdd yn trefnu hyfforddiant gyrrwr i geisio lleihau’r tebygolrwydd o gamgymeriadau’n digwydd ac felly hawliadau’n codi o hynny.

 

Penderfynwyd derbyn a nodi’r Adroddiad Yswiriant Blynyddol ar gyfer 2018/19.

 

NI WNAED UNRHYW GYNNIG YCHWANEGOL

 

9.

Adolygiad Blynyddol ar Reoli'r Trysorlys 2018/19 pdf eicon PDF 648 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor ei ystyriedadroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn ymgorffori’r Adolygiad Rheoli Trysorlys ar gyfer 2018/19.

 

Tynnodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 sylw at y canlynol -

 

           Yn wyneb yr ansicrwydd sy’n parhau ynghylch yr economi dros gyfnod Brexit a’r ffaith fod cyfraddau llog yn parhau’n isel, mae’r Strategaeth Rheoli’r Trysorlys wedi parhau i fenthyca dim ond pan fo angen ac i fuddsoddi ar sail diogelwch a hylifedd gan sicrhau bod yr arian parod y mae’r Cyngor wedi’i fuddsoddi ar gael yn rhwydd.

           Am sawl blwyddyn bellach, strategaeth y Cyngor fu defnyddio ei adnoddau arian parod ei hun i ariannu gwariant cyfalaf lle bo’n bosib. Fodd bynnag, oherwydd balansau arian parod isel yn ystod y flwyddyn, penderfynwyd benthyca’n allanol gan gymryd dau fenthyciad hirdymor allan gyda’r PWLB – £15m ym mis Ionawr, 2019 dros 50 mlynedd ar gyfradd llog o 2.49% (defnyddiwyd £5m o hwn i ad-dalu benthyciad a oedd yn aeddfedu) a £10m ym mis Mawrth 2019 dros 46 mlynedd ar gyfradd llog o 2.24%.

           Ar ddechrau’r flwyddyn, roedd y sefyllfa benthyca mewnol yn £19.9m. Trwy dynnu’r benthyciadau y cyfeirir atynt uchod, roedd y sefyllfa benthyca mewnol ar 31 Mawrth, 2019 wedi lleihau i £6.2m.

           Yn ystod y flwyddyn honno, roedd y Cyngor hefyd wedi cymryd dau fenthyciad tymor byr – un am £5m ym mis Hydref, 2018 am 3 mis gyda Chyngor Sir Gogledd Swydd Efrog gyda chyfradd llog o 0.85% a’r llall am £5m ym mis Rhagfyr, 2018 am 1 mis gyda Chronfa Bensiwn Tyne and Wear gyda chyfradd llog o 0.8%. Fe wnaeth y Cyngor gymryd y benthyciadau hyn i leddfu anawsterau llif arian tymor-byr.

           Yn ystod 2018/19, fe wnaeth y Cyngor gydymffurfio â’i ofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol. Roedd y Gofyn Cyllido Cyfalaf (CFR – angen sylfaenol y Cyngor i fenthyca) a ragwelwyd ar adeg cynhyrchu’r dangosyddion darbodus ar gyfer 2018/19 yn £148.940m. Roedd y CFR gwirioneddol yn llawer is, sef £138.660m. Ni aeth y Cyngor dros y Terfyn Benthyca Awdurdodedig (£177M) na’r Terfyn Gweithredol (£172m) yn ystod y flwyddyn, gyda’r ddyled allanol yn dod i uchafswm o £134.4m yn unig. Mae’r perfformiad yn erbyn y Dangosyddion Darbodus a osodwyd gan y Cyngor yn dangos bod gweithgareddau Rheoli Trysorlys y Cyngor yn cael eu gwneud mewn modd rheoledig sy’n sicrhau diogelwch ariannol y Cyngor ac nad ydynt yn rhoi’r Cyngor mewn unrhyw berygl ariannol sylweddol yn nhermau benthyca gormodol neu anfforddiadwy.

           Gan edrych ymlaen, mae’n debyg y bydd y strategaeth yn parhau i fod yn un o fuddsoddiadau risg isel, elw isel, a threfn o gynllunio benthyciadau i gael y taliadau llog isaf posib.

 

Ar y pwynt hwn, eglurwyd fod y Pwyllgor wedi bod yn rhedeg am dair awr bellach, ac o dan ddarpariaethau paragraff 4.1.10 o Gyfansoddiad  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 9.

10.

Blaen Raglen Waith pdf eicon PDF 281 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.

Cofnodion:

Cyflwynwyd Blaen Raglen Waith y Pwyllgor a chafodd ei derbyn a’i nodi heb unrhyw newid.