Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Diddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.

2.

Ethol Cadeirydd

Ethol Cadeirydd i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu

 

(Dygir sylw’r Aelodau at Baragraff 3.4.8.9.5 o Gyfansoddiad y Cyngor sy’n dweud

 

Byddy Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu yn penodi ei Gadeirydd a’i Is-gadeirydd. Ni chaiff ei Gadeirydd na’i Is-gadeirydd fodyn aelod o unrhyw un o’r grwpiau a gynrychiolir ar y Pwyllgor Gwaith ac eithrio pan fydd pob grwp yn cael ei gynrychioli ar y Pwyllgor Gwaith (a gall fod yn aelod cyfetholedig).

 

Cofnodion:

Ail-etholwyd y Cynghorydd Peter S Rogers yn Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu.

3.

Ethol Is-gadeirydd

Ethol Is-gadeirydd i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu.

Cofnodion:

Ail-etholwyd y Cynghorydd Robert Ll Jones yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu.