Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Council Chamber - Council Offices
Cyswllt: Mr John Gould
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog. Cofnodion: Dim i’w ddatgan.
|
|
Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor, y Pwyllgor Gwaith neu’r Prif Weithredwr Cofnodion: Estynnodd y Cadeirydd, ar ran yr Aelodau a’r Swyddogion, ei ddymuniadau gorau i’r Cynghorwyr R Meirion Jones a Dafydd Rhys Thomas am adferiad llawn yn dilyn salwch.
|
|
Cynllun Gostwng Treth Gyngor Leol 2014-15 PDF 2 MB (a) Adrodd bod y Pwyllgor Gwaith wedi ystyried yr uchod yn ei gyfarfod ar 13 Ionawr, 2014 ac wedi penderfynu argymell I’r Cyngor Sir fel a ganlyn:-
· “Nodi fod Cynulliad Cymru ar 26 Tachwedd 2013 wedi creu Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) (Y Rheoliadau Gofynion a Ragnodir) a bod Cynulliad Cymru ar 14 Ionawr 2014 yn creu Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Y Rheoliadau Gofynion a Ragnodir a’r Rheoliadau Diofyn) (Diwygiad) 2014.
· Nodi canlyniad yr ymarfer ymgynghori a gynhaliodd y Cyngor ynghylch adnewyddu’r Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor am 2014-15.
· Mabwysiadu’r Cynllun fel y nodir yn Atodiad B yr adroddiad”.
(b) Cyflwyno adroddiad Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau). Cofnodion: Adroddwyd gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) – Ar 27 Tachwedd 2013 cymeradwyodd Cynulliad Cymru ddau set newydd o reoliadau: Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013 a Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013. Mae’r Rheoliadau 2013 hyn yn pennu prif nodweddion y Cynllun i’w mabwysiadu gan yr holl Gynghorau yng Nghymru o 2014-2015 ymlaen.
Bu’n ofynnol i’r Cyngor wneud cynllun ar gyfer 2014/2015 o dan ofynion y rheoliadau er y ffaith y byddai cynllun diofyn yn dod i rym hyd yn oed pe bai’r Cyngor yn methu â gwneud cynllun. Roedd yr ymrwymiad yn ddyletswydd statudol ac yn berthnasol hyd yn oed pe bai’r Cyngor yn dewis peidio â gosod unrhyw un o’r digresiynau oedd ar gael iddo.
Yn 2013/2014, nid oedd unrhyw arian ychwanegol ar gael gan Lywodraeth Cymru i gyllido’r elfennau disgresiynol.
Roedd Rheoliadau 2013 yn gosod dyletswydd ar yr Awdurdod i ystyried ar gyfer pob blwyddyn ariannol a fyddai’n adolygu ei gynllun neu yn dod â chynllun arall yn ei le. Rhaid i’r Awdurdod wneud unrhyw newidiadau neu newid cynllun heb fod yn hwyrach na 31 Ionawr yn y flwyddyn ariannol cyn y flwyddyn y dônt i rym.
Roedd y goblygiadau ariannol wedi eu hamlinellu yn yr adroddiadau cyllidebol i’r Pwyllgor Gwaith. Cost ragnodedig y cynllun arfaethedig yn 2014/15 oedd rhwng £5.51m a £5.61m, oedd yn £350k – £460k yn fwy na’r grant o £5.15m.
Roedd darpariaeth gyllidebol o £400k yn cael ei gynnig i gyfarfod â’r diffyg hwn fyddai’n cael ei fonitro mewn adrodiadau monitro’r gyllideb i’r Pwyllgor Gwaith. Nid oedd yn ystyried bod y diffyg yn dderbyniol nac yn gynaladwy ac roedd yn gobeithio y byddai’r neges hwn yn cael ei gyfleu i’r Cynulliad.
PENDERFYNWYD
· Nodi gwneud Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 (“y Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig”) gan Lywodraeth Cymru ar 27 Tachwedd, 2013 a’r Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Treth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a Chynlluniau Diofyn) (Cymru) Diwygiad 2014 (“y Rheoliad Diwygio”) gan Gynulliad Cymru ar 14 Ionawr, 2014).
· Nodi canlyniad yr ymarfer ymgynghori a gynhaliwyd gan y Cyngor ar gyflwyno’r Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor oedd wedi ei amlinellu yn Atodiad B.
· Mabwysiadu’r Cynllun fel oedd i’w weld yn Atodiad A.
· Bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i’r Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) i ddiwygio’r Cynllun Cefnogaeth Treth Gyngor Leol 2014/2015 pe bai angen hynny i gymryd i ystyriaeth unrhyw reoliadau a gaiff eu pasio wedi hynny gan Lywodraeth Cymru yn diwygio’r Cynllun.
|
|
Cyflwyno adroddiad Pennaeth Gwasanaeth Democrataidd Dros Dro. Cofnodion: Adroddwyd gan Bennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd – Bod adroddiad ar amser cyfarfodydd y Cyngor wedi ei gyflwyno i’r Cyngor ar 5 Rhagfyr, 2013.
Roedd yr ymarferoldeb o alw rhai cyfarfodydd naill ai am 4:00pm neu 4:30pm wedi ei ystyried gan Arweinyddion Grwpiau a’r UDA ac roedd yn cael ei gefnogi. Roedd Arweinyddion y Grwpiau yn argymell y dylid treialu trefniadau gyda’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a’r ddau Bwyllgor Sgriwtini.
Gwnaed Asesiad Effaith Cydraddoldeb Cychwynnol hefyd ar yr effaith debygol o ddechrau cyfarfodydd am 4:00pm a 4:30pm, gyda manylion am hynny i’w gweld yn Para 3.1 yr adroddiad.
PENDERFYNWYD
· Cefnogi’r bwriad o alw rhai cyfarfodydd am 4:00pm a 4:30pm a bod trefniadau’n cael eu trafod gyda’r Cadeiryddion ac Aelodau’r Pwyllgorau perthnasol a bod adroddiad diweddaru’n cael ei gyflwyno i’r cyfarfod nesaf a drefnwyd o’r Cyngor ar 27 Chwefror, 2014.
· Nodi canfyddiadau’r asesiad effaith cydraddoldeb cychwynnol;
· Bod trefniadau’n cael eu treialu am gyfnod o 12 mis gan ddechrau yn Ebrill, 2014.
|