Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Council Chamber - Council Offices
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod o’r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 12 Rhagfyr 2017.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod blaenorol o Gyngor Sir Ynys Môn a gafwyd ar 12 Rhagfyr, 2018 yn gywir. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gwnaeth yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth a’r Penaethiaid Swyddogaeth Adnoddau a Busnes y Cyngor ddatganiad o ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 11 – Datganiad Polisi Tâl 2018 ac nid oeddynt yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod unrhyw drafodaeth neu bleidlais arni.
Gwnaeth y Cynghorydd Ieuan Williams ddatganiad o ddiddordeb personol yn Eitem 8 – Y Gyllideb ar gyfer 2018/19 a’r Strategaeth Ariannol Tymor Canol ac ar ôl cael cyngor cyfreithiol, fe gymerodd ran yn y drafodaeth a’r bleidlais ar yr eitem. |
|
Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu’r Prif Weithredwr Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gwnaeth y Cadeirydd y cyhoeddiadau canlynol :-
Roedd y Cadeirydd yn dymuno atgoffa pawb i alw ar eu cymdogion hŷn ac anabl yn ystod y tywydd garw a ddisgwylir dros yr ychydig ddyddiau nesaf.
Dywedodd y Cadeirydd wrth y Cyngor y cynhelir Noson Elusennol y Cadeirydd ar 20 Ebrill 2018 yn Amlwch a nododd y bydd manylion y noson yn cael eu hanfon at Aelodau a Gwesteion yn y man.
* * * * * *
Cydymdeimlwyd â’r Cynghorydd Aled Morris Jones a oedd wedi colli ei fam-yng-nghyfraith yn ddiweddar.
Cydymdeimlwyd â’r Cynghorydd Richard A Dew a oedd wedi colli ei dad yn ddiweddar.
Cydymdeimlwyd ag unrhyw Aelod o’r Cyngor neu staff a oedd wedi cael profedigaeth.
Safodd yr Aelodau a’r Swyddogion mewn teyrnged dawel fel arwydd a’u parch a’u cydymdeimlad.
|
|
Cwestiynau a dderbyniwyd yn unol â rheol 4.1.12.4 y Cyfansoddiad Gofynnwyd y cwestiwn isod y cafwyd rhybudd ohono gan y Cynghorydd Peter Rogers i’r Cynghorydd Robert G Parry OBE FRAgS, Deilydd Portffolio Priffyrdd, Eiddo a Gwastraff:-
“Pan fydd yr Awdurdod hwn yn rhoi Rhybuddion yn Unol ag Adran 25 Deddf Draenio Tir, 1991 ar berchnogion tir gyda draeniad yn rhedeg i gyrsiau dŵr, yw hi’n orfodol i’r ffosydd gael eu ffensio?”
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd – y cwestiwn canlynol y cafwyd rhybudd ohono gan y Cynghorydd Peter Rogers i’r Cynghorydd Bob Parry OBE FRAgS, y Deilydd Portffolio ar gyfer Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo :-
‘Pan fydd yr Awdurod hwn yn rhoi Rhybuddion yn Unol ag Adran 25 Deddf Draenio Tir, 1991 ar berchnogion tir gyda draeniad yn rhedeg i gyrsiau dŵr, a yw hi’n orfodol i’r ffosydd gael eu ffensio?’
Ymatebodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo drwy ddweud nad yw’n orfodol, yn unol â Deddf Draenio Tir 1991, i berchenogion sydd â llif yn draenio i gyrsiau dŵr ffensio unrhyw ffosydd.
Roedd y Cynghorydd Peter Rogers o’r farn y dylai ffensio ffosydd fod yn orfodol oherwydd y llifogydd eithafol a gafwyd diwedd y flwyddyn ddiwethaf.
|
|
Rhybudd o Gynnig yn unol â Rheol 4.1.13.1 o'r Cyfansoddiad I gyflwyno Rhybudd o Gynnig gan:-
• Y Cynghorydd Robert Llewelyn Jones
Mae Porthladd Caergybi yn fusnes economaidd mor bwysig i ni yma yn Ynys Môn, ac mae angen i ni fel Cyngor arwain o ran ceisio sicrhau BREXIT MEDDAL ar gyfer y ffin rhwng Cymru a Gweriniaeth Iwerddon. Rydym ni fel grŵp yn galw am y camau canlynol i gael eu cymryd:-
1. Bod llythyr yn cael ei anfon gan y Cyngor hwn at Gyngor Dinas Dilyn yn mynegi ein dymuniad a’n cefnogaeth i weld ffin rydd yn parhau rhwng ein dwy wlad gyda gwahoddiad iddynt anfon cynrchiolaeth drosodd i siarad â ni ac er mwyn i ni arddangos ein dymuniad i barhau i gydweithio â’n gilydd.
2. Bod gwahoddiad yn mynd allan i’n cynrchiolwyr yn San Steffan a Chaerdydd yn eu gwahodd i ymweld â ni er mwyn i ni gael gwybod beth maent yn ei wneud i bwyso am ffin mor agored â phosibl rhwng ein dwy wlad.
Dim ond drwy ymgysylltu ag ysbryd y bobl y gallwn sicrhau datrysiad o werth i’r argyfwng hwn a allai gael effaith ddinistriol ar borthladd Caergybi a Phorthladd Dulyn.
• Y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas
Bod Cyngor Ynys Môn:-
1. yn annog mentrau di-blastig ac yn hyrwyddo a chefnogi digwyddiadau. 2. yn gweithio tuag at lleihau defnydd o blastig a ddefnyddir un tro yn eu safleoedd ac ysgolion. 3. yn annog busnesau i ddefnyddio llai o blastig a ddefnyddir un tro. 4. yn ethol cynrchiolaeth ar Grwp arfordir di-blastig.
• Y Cynghorydd Nicola Roberts
Mae’r Cyngor hwn yn galw:-
1. Ar Lywodraeth y DU i oedi cyn cyflwyno’r Credydd Cynhwysol; 2. Ar Lywodraeth Cymru i fynnu pwerau datganoli i amrwyio sut y telir Credydd Cynhwysol yng Nghymru. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd - y Rhybuddion o Gynigiad isod gan :-
· Y Cynghorydd Robert Llewelyn Jones
“Mae Porthladd Caergybi yn fusnes economaidd mor bwysig i ni yma yn Ynys Môn, ac mae angen i ni fel Cyngor arwain o ran ceisio sicrhau BREXIT MEDDAL ar gyfer y ffin rhwng Cymru a Gweriniaeth Iwerddon. Rydym ni fel grŵp yn galw am gymryd y camau canlynol :-
1. Bod llythyr yn cael ei anfon gan y Cyngor hwn at Gyngor Dinas Dulyn yn mynegi ein dymuniad a’n cefnogaeth i weld ffin rydd yn parhau rhwng ein dwy wlad gyda gwahoddiad iddynt anfon cynrychiolaeth drosodd i siarad â ni ac er mwyn i ni arddangos ein dymuniad i barhau i gydweithio â’n gilydd. 2. Bod gwahoddiad yn mynd allan i’n cynrychiolwyr yn San Steffan a Chaerdydd yn eu gwahodd i ymweld â ni er mwyn i ni gael gwybod beth maent yn ei wneud i bwyso am ffin mor agored â phosibl rhwng ein dwy wlad.
Dim ond drwy ymgysylltu ag ysbryd y bobl y gallwn sicrhau datrysiad o werth i’r argyfwng hwn a allai gael effaith ddinistriol ar borthladd Caergybi a Phorthladd Dulyn.”
Eiliodd y Cynghorydd Bryan Owen y cynnig.
Dywedodd y Cynghorydd Robert Ll Jones ei fod ef a nifer o bobl eraill yn bryderus ynghylch yr effaith a gaiff bargen Brexit ar yr Ynys. Dywedodd bod angen i’r Awdurdod hwn gysylltu gyda Chyngor Dinas Dulyn i sicrhau bod modd i’r traffig sy’n teithio i ac o Borthladdoedd Cymru gael rhwydd hynt heb yr angen am wiriadau tollau. Er mwyn mabwysiadu’r ymagwedd iawn ar ôl gadael yr UE, dywedodd bod angen i’r ddau Gyngor weithio gyda’i gilydd er mwyn atal tagfeydd traffig o gwmpas Porthladd Caergybi oherwydd prosesau tollau. Dywedodd fod parhau i fasnachu gydag Iwerddon yn hollbwysig i’r economi leol ac er mwyn sicrhau cyflogaeth ar gyfer pobl leol ym Mhorthladd Caergybi. Gofynnodd y Cynghorydd Jones i’r Cyngor gefnogi bod llythyr yn cael ei anfon at Brif Weithredwr Cyngor Dinas Dulyn yn gofyn am gyfarfod rhwng y ddau awdurdod i ddangos parodrwydd i weithio gyda’i gilydd i sicrhau ffiniau rhydd rhwng y ddwy wlad. Dywedodd bod angen i wleidyddion roi gwybod i’r awdurdod hwn am y gweithdrefnau a fydd yn cael eu sefydlu er mwyn gwarchod llif rhydd traffig rhwng Caergybi ac Iwerddon.
Dywedodd y Cynghorydd Carwyn Jones, yr Aelod Portffolio ar gyfer Prosiectau Mawr a Datblygu Economaidd ei fod yn cytuno ynghylch pwysigrwydd Porthladd Caergybi i economi’r Ynys a’i fod yn pryderu am yr ansicrwydd a’r heriau a ddaw i’r Porthladd yn sgil Brexit. Dywedodd ei fod ef, fel Aelod Portffolio, wedi cael cyfarfod gyda Capten Wyn Parry, Pennaeth Gweithrediadau Môr Iwerddon Stena i leisio pryderon am ddyfodol y Porthladd. Dywedodd ymhellach ei fod wedi anfon llythyr ym mis Tachwedd 2017 at Mr David Davies AS, y Gweinidog dros Adael yr Undeb Ewropeaidd a Mr Alun Cairns AC, Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn mynegi pwysigrwydd y Porthladd i economi Ynys Môn ac i sicrhau cyflogaeth. Mae 650 o bobl yn ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5. |
|
Cyflwyno Deisebau Derbyn unrhyw ddeiseb yn unol â Pharagraff 4.1.11 y Cyfansoddiad.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Alun Roberts ddeiseb gydag oddeutu 370 o lofnodion i Gadeirydd y Cyngor Sir gan drigolion Biwmares, ynghyd â rhieni, llywodraethwyr, staff a ffrindiau Ysgol Gynradd Biwmares sy’n gwrthwynebu cau Ysgol Gynradd Biwmares.
Derbyniodd y Cadeirydd y ddeiseb a dywedodd y byddai’n ei hanfon i’r Pwyllgor Gwaith fel rhan o’r drafodaeth ar foderneiddio ysgolion yn ardal Seiriol. |
|
Polisi Cymorth Dewisiol tuag at y Dreth Gyngor PDF 762 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 19 Chwefror, 2018. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog 151 fel y'i cyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwaith ar 19 Chwefror, 2018.
Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod y Cyngor llawn eisoes yn darparu Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor yn unol ag Adran 13A (1) (b) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 a bod y Polisi Cymorth Dewisol tuag at y Dreth Gyngor yn bolisi ar wahân ac yn annibynnol o’r Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor. Yn yr adroddiad, ystyriwyd yr ymagwedd y gellir ei mabwysiadu i ddarparu cymorth ariannol i bobl ifanc sy'n gadael gofal tuag at unrhyw rwymedigaeth a all fod ganddynt i dalu treth gyngor, ynghyd ag ymestyn y cyfnod lle nad yw premiwm y Dreth Gyngor yn berthnasol dan rai amgylchiadau h.y. lle mae'r eiddo wedi bod yn wag am gyfnod hir a bod gwaith strwythurol yn mynd rhagddo ar yr eiddo i’w wneud yn addas i bobl fyw ynddo. Mae'r adroddiad hefyd yn cyfeirio at y polisi ar gyfer caniatáu pwerau dirprwyedig i’r Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 i ymdrin â cheisiadau fesul achos.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, fel yr Aelod Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol, ei bod yn credu ei bod hi'n bwysig cefnogi pobl ifanc sy'n gadael gofal gan fod gan y Cyngor ddyletswydd statudol fel rhieni corfforaethol tuag at y bobl ifanc hyn. Eiliodd yr Arweinydd y cynnig.
PENDERFYNWYD cefnogi argymhelliad y Pwyllgor Gwaith :-
|
|
Y Gyllideb ar gyfer 2018/19 a'r Strategaeth Ariannol Tymor Canol PDF 3 MB a) Cyllideb Refeniw 2018/19
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 19 Chwefror, 2018.
b) Cyllideb Gyfalaf 2018/19
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fel y’i diwygiwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 19 Chwefror, 2018.
c) Datganiad ar Strategaeth Rheoli Trysorlys 2018/19
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 19 Chwefror, 2018.
ch) Gosod y Dreth Gyngor
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
d) Diwygio’r Gyllideb
Cyflwyno’r gwelliant canlynol i gynigion y Gyllideb gan Grŵp Annibynnwyr Môn, yn dilyn derbyn rhybudd yn unol á Pharagraff 4.3.2.2.11 y Cyfansoddiad fel a ganlyn:-
“Hoffai Grŵp Annibynnwyr Môn gynnig cynnydd o 3.8% i’r Dreth Gyngor ar gyfer blwyddyn 2018/19.
Mae 0.8% o’r cynnydd hwn i’w glustnodi ar gyfer cyllideb ysgolion. Mae 0.2% i’w glustnodi ar gyfer cyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau plant.
Bydd y gwelliant hwn yn cael ei gydbwyso drwy gymryd £400,000 o’r arian wrth gefn”.
(Sylwer: Mae angen ystyried y cyfan o’r papurau uchod fel un pecyn). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Portffolio Cyllid gynigion y Pwyllgor Gwaith ar gyfer Cyllidebau Refeniw a Chyfalaf 2018/19, y Datganiad ar y Strategaeth Rheoli'r Trysorlys a gosod y Dreth Gyngor fel y gwelir yn 8 (a) i (ch) yn y Rhaglen. Dymunai ddiolch i’r Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 a'i staff am eu gwaith yn paratoi'r gyllideb ac i'r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a'r Panel Sgriwtini Cyllid ac i'r holl Aelodau Etholedig a oedd wedi mynychu nifer o seminarau a chyfarfodydd ymgynghori lleol sydd wedi digwydd mewn perthynas â’r gyllideb.
Tra'n wynebu cyfrifoldebau newydd a chostau cynyddol ar draws gwasanaethau'r Cyngor, bydd y cynnydd arfaethedig o 4.8% yn y Dreth Gyngor yn sicrhau y gall yr Awdurdod gynnal cyllideb gadarn i ddiogelu gwasanaethau rhag wynebu toriadau mwy difrifol yn y dyfodol. Yr un modd â'r rhan fwyaf o awdurdodau yng Nghymru, mae'r Cyngor yn wynebu pwysau cynyddol yn y Gwasanaethau Plant a bydd cynnydd o 0.8% yn y Dreth Gyngor yn cael ei glustnodi o fewn y gyllideb i fodloni'r galw cynyddol yn y gwasanaeth arbennig hwn. Mynegodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod Treth Gyngor yr Awdurdod ymysg yr isaf yng Nghymru.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor ei bod hi'n gwerthfawrogi ymrwymiad yr Aelodau i gyflawni'r gyllideb arfaethedig hon sydd gerbron y Cyngor. Dywedodd ei bod hi, fel Arweinydd, wedi bod yn ymgynghori'n helaeth ar y cynnig cyllidebol. Credai y bydd y gyllideb yn galluogi'r Cyngor i ddiogelu gwasanaethau i bobl Ynys Môn. Dymuna'r Arweinydd ddiolch i bob Prif Swyddog a Phennaeth Gwasanaeth am eu hymrwymiad i gyflawni'r gyllideb hon sydd wedi bod yn heriol.
Dywedodd y Cynghorydd GO Jones ei fod, yn ystod y broses gychwynnol cynigion cyllidebol ym mis Tachwedd 2017, wedi mynychu’r ymgynghoriad ar y gyllideb yn Ysgol Uwchradd Bodedern a mynegwyd gwerthfawrogiad ynglŷn â'r wybodaeth a roddwyd i'r bobl ifanc a fynychodd y sesiwn. Roedd yn gwerthfawrogi bod y grŵp sy’n rheoli wedi gwrando ar y sylwadau a wnaed gan y cyhoedd mewn perthynas â'r gyllideb gyda dros 700 o sylwadau wedi dod i law. Roedd yn falch bod y Pwyllgor Gwaith wedi penderfynu yn erbyn torri'r cyllidebau ar gyfer addysg a'r gwasanaethau cymdeithasol a bod angen cefnogi'r gwasanaethau hyn. Mynegodd y Cynghorydd Jones ei werthfawrogiad i'r Pwyllgor Gwaith na fydd unrhyw gynnydd yn y ffi i blant deithio i ysgolion / coleg na thoriadau ychwaith i’r gyllideb ar gyfer cynnal adeiladau ysgolion. Mynegodd ei werthfawrogiad ymhellach nad yw'r Pwyllgor Gwaith wedi penderfynu cau'r ceginau mewn cartrefi preswyl sy'n eiddo i'r Cyngor. Holodd y Cynghorydd Jones ynghylch y grantiau a dderbyniwyd fel rhan o’r setliad ariannol llywodraeth leol mewn perthynas ag ailgylchu ac addysg. Ymatebodd yr Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo gan nodi bod rhan helaeth o'r grant ailgylchu wedi trosglwyddo i'r setliad gyda thoriad sylweddol yn cael ei wneud yn y gweddill y bydd ac y bydd yn rhaid i'r Cyngor yn awr ei ariannu o'r gyllideb graidd. Cadarnhaodd yr Aelod Portffolio Addysg nad oedd unrhyw grantiau addysg wedi trosglwyddo i'r setliad.
(d) Diwygio’r ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 8. |
|
Adolygiad Canol Blwyddyn – Rheoli Trysorlys 2017/18 PDF 734 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 18 Rhagfyr, 2017.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd ar gyfer ei dderbyn gan y Cyngor, adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog 151 yn cynnwys adolygiad o’r sefyllfa canol blwyddyn mewn perthynas â gweithgareddau rheoli trysorlys.
PENDERFYNWYD derbyn yr Adroddiad ar yr Adolygiad Canol Blwyddyn – Rheoli Trysorlys 2017/18. |
|
Newidiadau i Gyfansoddiad y Cyngor - Dirprwyo i'r Pennaeth Gwasanaeth (Tai) PDF 709 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/ Swyddog Monitro fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 29 Ionawr, 2018.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd i’r Cyngor gan yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Corfforaethol, adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor/Swyddog Monitro) mewn perthynas â newidiadau i Gyfansoddiad y Cyngor.
Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Corfforaethol bod y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 29 Ionawr, 2018 wedi penderfynu cymeradwyo’r newidiadau arfaethedig i’r Cyfansoddiad yn Atodiad B yr adroddiad ac i argymell y newidiadau i’r Cyngor llawn.
PENDERFYNWYD rhoi’r awdurdod i’r Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro wneud y newidiadau i Gyfansoddiad y Cyngor a’u cyhoeddi fel y nodir ym Mhapur B yr adroddiad.
|
|
Datganiad Polisi Tâl 2018 PDF 330 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn - Adnoddau Dynol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn – Adnoddau Dynol i’r Cyngor gan yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Corfforaethol mewn perthynas â’r uchod.
Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Corfforaethol bod raid i awdurdodau, dan Ddeddf Lleoliaeth 2011, gynhyrchu a chyhoeddi polisi tâl ar holl agweddau’r Gydnabyddiaeth Ariannol i Brif Swyddogion.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Datganiad Polisi Tâl am 2018/19.
|
|
Amseriad Cyfarfodydd y Cyngor PDF 356 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar 13 Rhagfyr, 2017.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd mewn perthynas ag Amseriad Cyfarfodydd y Cyngor fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar 13 Rhagfyr, 2017.
Nodwyd, yn unol â’r canllawiau statudol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru dan Adran 6(1) Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, bod angen i’r Cyngor adolygu a chynnal arolwg ymysg Aelodau o leiaf unwaith bob tymor ynghylch amseriad cyfarfodydd.
Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, yn dilyn ymgynghoriad gyda’r Arweinyddion Grwpiau a gynhaliwyd ar 26 Hydref, 2017, y cynhaliwyd arolwg ymysg yr holl Aelodau i ‘mofyn eu sylwadau. Roedd yr opsiynau’n cynnwys cychwyn cyfarfodydd am 10.00 am; 2.00 pm; 4.00 pm a 6.00 pm. Derbyniwyd 13 o ymatebion (43%). Trafododd Aelodau’r Pwyllgor yr opsiynau a oedd ar gael a chytunwyd i lynu wrth y trefniadau cyfredol gyda’r ddau Bwyllgor Sgriwtini yn cychwyn am 2.00 pm ac na fydd unrhyw newidiadau i amseriad cyfarfodydd y Cyngor.
PENDERFYNWYD glynu wrth y trefniadau cyfredol mewn perthynas ag amseriad cyfarfodydd y Cyngor.
|